±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Pont Caerfyrddin Codi Pont: Hel hanes a holi am heddiw
Chwefror 2006
Baromedr o newid cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yw codi pont.
Digyfnewid yw rhai pethau. Y man isaf lle gellid croesi'r Tywi - ger rhyd y Rhufeiniaid a'r Celtiaid - benderfynodd leoliad pont Gaerfyrddin erioed, naw milltir o'r môr, eto'n uchel ar y llanw. Croesfan felly y drafnidiaeth dros dir a môr bu lleoliad tref hynaf a mwyaf Cymru, o oes yr Iesu hyd at oes cloddio glo y Cymoedd.

Bellach, wrth gwrs, nid oes argoel o adfer teithio Tywi, er hyfrydedd ei glannau ac er ei stôr o drysorau ar gyfer hamddena. Mynd 'da'r gwyntoedd ariannol wnaeth y llongau hwyliau, unwaith y ddolen gydiol rhwng Bro Myrddin a'r byd mawr tu hwnt. Nid yw Pont Brunel yn talu gwrogaeth mwyach i longau'r mastiau mawr a fedrai gludo Beiblau Griffith Jones o Fryste i'r Cei, a nwyddau fferm a phentref a phobl i'r Amerig. Ai dirwyn i ben mae oes y Cwrwgl, er euraidd ei hanes yn oes y Rhufeiniaid ac oes Cywyddwyr y Tywysogion?

Baromedr yr ymrafael am 'ddal dy dir' bu pont Canol Oesoedd Caerfyrddin. Darllenwn yng ngwaith Spurrell a J. a V. Lodwick er enghraifft am bont bren dros Dywi yn faes y gad yn oes Llywelyn Fawr rhwng y Cymry a'r Normaniaid. Codwyd pont islaw'r dref er mwyn atal cludo cymorth i gastell y Norman, ond daeth llynges y gelyn o Fryste i hyrddio drwyddi. Yn sgîl hyn oll mynnodd y Goron (Harri'r III) godi pont garreg o'r newydd ar draws yr afon, a throsglwyddo holl diroedd y Goron i'r mab a ddaeth maes o law'n adnabyddus fel Edward I. Digyfnewid hefyd fu'r angen drwy'r oesoedd i godi arian i gynnal a chadw pont. Codwyd treth ('pontage') am dair blynedd o 1326 i'r perwyl - ond erbyn hynny 'roedd y dref yn Dref Stapl, a maes o law yr unig Dref Stapl yng Nghymru (1353) a allasai allforio gwlân, crwyn a gwlangrwyn, er budd i goffrau'r dref.

Mwy fyth fu'r galwadau ar yr hen bont garreg hon gyda dyfodiad oes y Ffyrdd Tyrpeg a'r Goets Fawr a thrafnidiaeth y chwyldroadau mewn amaeth a diwydiant, y cynnydd mewn poblogaeth a'r corddi cymdeithasol a gwleidyddol. Drosti, yn y cyfnod helbulus hwn, tasgodd Catrawd y 'Dragoons' i erlid Merched Beca yn 1843. Hwyrach, newidiodd y baromedr eto, ac yn drawiadol iawn wrth i'r cledrau haearn ddisodli masnach afon a ffordd fawr. Codwyd pontydd gwahanol. Brunel gododd y bont wrthbwys i lein lydan y G.W.R. i'r gorllewin (a fodolodd tan 1872). Yr L.M.S. gododd y bont haearn ar y lein o gyffordd Myrtle Hill i gyfeiriad Llandeilo a'r Canolbarth. Ni chaewyd y bont i deithwyr tan 1965 ac i nwyddau tan 1973. Cludwyd glo drosti tan 1983 a'i dymchwel yn 1984. Yn 1911 codwyd pont G.W.R. newydd yn lle'r 'Bont Wen' ar 14 o bileri dur 100 troedfedd o ddyfnder yng ngwely'r Tywi - yr un sy'n rhydu yno o hyd.

Trodd y rhod eto. Cynyddodd cludiant o dunelli o nwyddau'r archfarchnadoedd fel y tyfodd y trefi torfol. Amlhaodd y lorïau mawr. Ffrwydrodd y masnach tanwydd. Rhaeadrodd yr angen am heolydd a theithio i'r Cyfandir, Yr Ynys Werdd a'r meysydd awyr. Drwy hyn oll, lledodd y Pla newydd, Pla y Peiriant Modur. Yr haid o locustiaid newydd oedd y ceir dirif.

Yr ymateb cyntaf i gynnydd oes y cerbyd oedd lledu pontydd a thorri ffyrdd newydd drwy dir glas. Yng Nghaerfyrddin gwelwyd hyn mor bell yn ôl â 1772 a 1828 pan ledaenwyd yr hen bont. Codwyd un newydd yn 1936. Rhwng 1960-70 dinistrwyd treftadaeth y dref ymhellach wrth ddymchwel tai a strydoedd rhwng y Cei a'r Clos Mawr. Yn ddiweddar gosodwyd ffyrdd a phontydd newydd yn yr ardal rhwng Nantycaws, Pensarn ac Abergwili, a phontydd newydd, fel Pont Lesneven (i nodi 3 chlod yr efaill dref yn Llydaw.)

Ar ôl hyn i gyd newidiodd y baromedr drachefn. Erbyn heddiw, onid cadw'r car allan o'r trefi yw cri'r cynllunwyr? Lledaenwyd y palmentydd, culhawyd y ffyrdd i draffig ar draws Caerfyrddin. Y bwriad yw cau Heol y Gwyddau. Culhawyd yn arw y lôn o amgylch yr ynys draffig wrth droed y Bont Grog newydd ochr y dref i'r afon. Pont i gerddwyr a beicwyr yw, mae'n debyg, yn y man lle bu'r Bont 'Bailey' ychydig yn ôl. Ai pont i grogi'r traffig yw hon? Ai lloc i 'Barcio a'ch Cludo' fydd ochr Gorsaf Rheilffordd y Tywi mwyach?

A oes cynlluniau na wyddom amdanynt ynglŷn â gwasanaeth bysiau bach, aml a rheolaidd i fynd a dod rhwng ardal yr Orsaf a'r hen dref, gan gynnwys er enghraifft y Farchnad a'r siopau. A fydd darpariaeth ar gyfer rhieni a'u plant, yr hen, y methedig a'r anabl? Ceir her yma i unrhyw gorff llywodraethol, a chynllunwyr! A faint o ddemocratiaeth leol sydd ar ôl er mwyn i lais y bobl - y trethdalwyr - gael ei glywed? Amser a ddengys beth ddywed y bont newydd ar y baromedr.

Malcolm M. Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý