±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Huw Evans Portread o Huw Evans, Mart Caerfyrddin
Ebrill 2007
Portread y Mis yn rhifyn Ebrill 2007 Cwlwm yw Huw Evans, Mart Caerfyrddin.

Cefndir
Cefais fy ngeni yn Ysbyty'r Prior, Caerfyrddin, yn ail fab i Jack a Nan Evans, Ffynnonsaint, Heol y Coleg. Roedd Dad yn fab i Bistyllgwion, Ffynnonddrain a mam yn un o ddeg o blant Penllain, Croesyceiliog gyda'i gwreiddiau yn ddwfn yng Ngheredigion a busnesau llaeth yn Llundain.

Mae fy mrawd Wyn a Sylvia ei wraig yn dal i ffermio fferm gartre gyda mam erbyn hyn yn ei hwythdegau. Mae fy chwaer Ann yn rhedeg busnes Albert Rees gyda'i gŵr Chris ym marchnad Caerfyrddin.

Fy nghartref
Mae fferm Ffynnonsaint allan yn y wlad, tua milltir a hanner o Goleg y Drindod a heibio i fferm Pentremeurig. Mae'n gorwedd ym mhlwyf Merthyr sydd yn ardal hollol amaethyddol heb ddim llawer wedi newid yn ystod y ganrif ddiwethaf. Calon y plwyf yw Eglwys Martin Sant sydd ond tafliad carreg o gwrs golff Derllys. Ar un ochr o'r plwyf ceir Capel y Bedyddwyr yn Foelcwan ac ar yr ochr arall Capel Cana, Capel yr Annibynwyr. Er bod yr ysgol wedi ei chau yn 1954, mae'n dal i fod yn ganolfan bwysig i'r bobl leol, hen ac ifanc.

Mae yna gysylltiad hanesyddol gyda merched Beca yn nhafarn yr Arad a'r Oged, gyda'r tÅ· gerllaw yn dal i gario'r enw 'Henfwlch'. Heblaw am hyn, ffermydd bach teuluol oedd asgwrn cefn Merthyr. Erbyn heddiw mae nifer y ffermydd wedi gostwng a dyfodol y ffermydd heddiw yn fregus iawn oherwydd sefyllfa amaeth.

Beth am addysg?
Gan fod yr ysgol leol wedi cau, rhaid oedd mynychu ysgol gynradd Tre Ioan ac yna ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Ym 1970 es i Goleg Amaethyddol Harper Adams yn Swydd Amwythig a chael profiad o ddysgu am amaeth a gweithio ar fferm eidion, defaid, llafur, a thatws ger Bridgenorth ac yna yn dysgu am gadw moch ar fferm Troedyraur yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn ystod y cyfnod yma cefais brofiadau lu wrth fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc San Pedr, Caerfyrddin. Roedd bod yn aelod yn cyfrannu tuag at addysg pobl ifanc yr ardal.

Clwb San Pedr
Dysgais lawer pan oeddwn yn aelod o'r Clwb. Roedden yn cael ein paratoi ar gyfer cymdeithasu, siarad cyhoeddus, cystadlu ac yn bwysicach na dim yn gwneud ffrindiau di-ri. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â nifer fawr ohonynt. Rwy'n cofio cael y cyfle i dreulio tri mis yng nghanolbarth gorllewinol yr Unol Daleithiau ac yn glanio yn Efrog Newydd ym maes awyr JFK - agoriad llygad i fachgen o Sir Gâr. W

rth sôn am wneud ffrindiau wrth berthyn i'r clwb, cefais afael ar wraig a oedd yn aelod o glwb Abernant sef Jennifer Thomas, merch Wil a Mary Thomas, Blaenpant, Bwlchnewydd. Heddiw mae Jennifer yn cadw buches godro o wartheg Jersey. Rydyn eisoes wedi bod yn briod am bron i 27 mlynedd gyda'r ddwy ferch Helen a Nicola yn gweithio'n lleol, Helen yn gweithio yng ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur a Nicola'n gweithio gyda thîm amaethyddol banc y Natwest yng Nghaerfyrddin.

Fy ngyrfa fel arwerthwr
Bum yn ddarlithydd yng ngholeg Gelli Aur am gyfnod lle cefais brofiadau bythgofiadwy. Rhaid oedd dysgu'r myfyrwyr yn ystod y dydd a gofalu amdanynt erbyn yr hwyr. Roedd hwn yn gyfle i ddod i'w hadnabod yn dda iawn. Bum yn was priodas i ddau ohonynt ac rwyf wedi cadw cysylltiad agos â nifer helaeth ohonynt. Ym 1977 derbyniais swydd gan Brychan Prydderch a William Price Jones i fynd i weithio yng nghwmni Walter James a'i Fab yn Llandeilo a dechrau mart y dref yn gwerthu lloi. Ym 1981 daeth y cwmni dan adain cwmni John Francis a'i Fab yng Nghaerfyrddin a chymerais gofal y mart hwnnw o ddydd i ddydd. Mae'r gwaith yn ddiddorol oherwydd fy mod yn cael y cyfle i fynd allan i ffermydd ar draws y wlad a chyfarfod â ffermwyr yn eu cartrefi.

Amser hamdden
Rhwng y mart a'r fferm mae fy amser hamdden yn o brin. Rwy'n hoff iawn o dyfu llysiau, blodau a ffrwythau er mwyn eu rhoi i'r teulu a ffrindiau. Yn y gaeaf rwy'n coginio rywfaint yn enwedig adeg y Nadolig. Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau dilyn cyn ddiddordebau fy rhieni, sef gwneud gwinoedd cartref. Mae dilyn rygbi wedi dod yn ffefryn erbyn hyn hefyd gyda Jennifer a minnau yn cymdeithasu wrth gefnogi'r Scarlets ar Barc y Strade a'r Cwins, Caerfyrddin.

Y dyfodol
Wrth fyfyrio ac edrych ymlaen at y dyfodol ni ellir peidio ag edrych nôl i'r gorffennol. Cefndir amaethyddol sydd gennyf a chariad at bopeth sy'n ymwneud ag amaeth. Mae arwyddair y mudiad ifanc yr un mor bwysig i mi heddiw - 'Ffermwr da, Gwladgarwr da, Dinesydd da'.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý