±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Y Parchedig Meirion Thomas 'Gyda mi ym Mharadwys'
Geiriau Crist ar y groes
Oedfa ±«Óãtv Radio Cymru. Darllediad Sul 11 Mawrth
  • Oedfa'r Bore, ±«Óãtv Radio Cymru, Sul, Mawrth 11, 2007
  • Y Parchedig Meirion Thomas, Casnewydd.
  • Heddiw, byddi gyda mi ym Mharadwys.



  • Croeso i drydedd oedfa'r Grawys ar ±«Óãtv Radio Cymru.
    Yn ystod y cyfnod yma o baratoi ar gyfer y Pasg mae'r oedfaon yn rhoi sylw i eiriau Crist ar y groes, geiriau cyfarwydd, lawer iawn ohonynt, a heddiw rydym yn troi ein sylw at un o'r digwyddiadau dramatig hynny y mae'r efengylau yn eu nodi.

    Roedd tair croes ar Golgotha:
    Croes Crist yn y canol
    a chroesau dau leidr, bob ochr iddo.

    Mae un efengyl yn nodi fod y ddau wedi ymuno i wawdio'r Iesu ond fe ddigwyddodd rhywbeth i un o'r lladron, oherwydd mae efengyl Luc yn dweud i'r lleidr droi at Iesu cyn y diwedd a gofyn iddo ei gofio pan ddeuai i'w deyrnas.

    Ateb Crist yw'n thema ni yn yr oedfa hon:
    Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.

    Galwad i addoli: Salm 113:1-4.

    ³Ò·É±ð»å»åï:
    Cynorthwya ni o Arglwydd i dy foli di mewn darlleniad, cân a myfyrdod.

    Agosawn atat er mwyn clywed dy air, dirnad dy ewyllys yn well a derbyn maeth a sicrwydd o dy addewidion gwerthfawr.

    Wrth fyfyrio ar groes ein Harglwydd Iesu caniatâ i ni werthfawrogi'n llawnach rym dy gariad a llawnder dy ras.

    Emyn: Wrth edrych Iesu ar dy groes - Mor fawr yw cariad Duw y Tad

    Paradwys
    Addewid am baradwys a gafodd y lleidr ar y groes, mewn ateb i gais am i'r Iesu ei gofio pan ddelai i'w deyrnas.

    Mae'n ddigon tebyg fod gan bawb ohonom ein darlun o baradwys ac fel arfer mae'n cynnwys rhyw draeth melyn hir a haul yn machlud yn danbaid, ond mae hi'n bwysig nad ydym ni'n camddehongli paradwys am fod na ryw ddarluniau Holywoodaidd yn meddiannu'n meddyliau ni.

    Mae'r Iesu yn addo Paradwys oherwydd mai dyna fyddai ei deyrnas Ef. Fe gawn y darlun cyntaf o baradwys yn llyfr Genesis lle disgrifir Paradwys, sef gardd Eden.

    Darlleniad: - Genesis 2:4b-10a

    Darlun hyfryd o brydferthwch, perffeithrwydd a diogelwch paradwysaidd. Duw a dynoliaeth, y creaduriaid a holl elfennau'r cread cyfan yn gytun.

    Ond, ysywaeth, amharwyd yn ddybryd ar ysblander y cyfan oherwydd anufudd-dod ein rhieni cyntaf.

    Darlleniad: Genesis 3 ad 8 - 13 & 22 - 24.

    Paradise Lost - teitl cerdd enwog John Milton - sy'n disgrifio sefyllfa drist ac anobeithiol hanes y ddynoliaeth bellach.

    Mieri lle bu myrtwydd ac anial lle bu gardd.

    William Williams yn ei emyn cofiadwy sy'n crynhoi realiti echrydus y sefyllfa:
    Yn Eden - cofiaf hynny byth
    Bendithion gollais rif y gwlith
    Syrthiodd fy nghoron wiw.

    Adfer paradwys
    Fel mae'r emyn yn ddweud yn glir roedd yr Iesu ar Galfaria'n dod a Pharadwys o fewn cyrraedd unwaith eto.

    Nid rhyw wynfyd coll ydi o bellach, roedd Iesu wedi dod i adfer harmoni rhwng Duw a dyn, ac, yn wir, i wella ar hyd yn oed y baradwys gynt.

    Yn llyfr olaf y Beibl - Datguddiad - cawn ddarlun o adfer Paradwys sy'n rhagori ar ogoniant Eden gynt.

    Darlleniadau: Datguddiad 21:1- 4; 22:1-5

    Gweddi:
    Diolchwn i ti o Arglwydd am realiti llawn gobaith y nefoedd.

    Sylweddolwn o'r newydd mai ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd wyt ti.

    Plygwn ger dy fron a diolchwn am y sicrwydd a ddaw o gyfeirio ein sylw atat.
    Diolchwn am bersbectif tragwyddol y nef wrth fyw yn hyn o fyd.
    Gweddïwn am ddyfodiad dy deyrnas nefol a chyflawniad dy ewyllys ar y ddaear fel yn y nef.

    Mewn sefyllfaoedd o dristwch a galar, annhegwch ac anghyfiawnder rho gymorth dy lân ysbryd i'n galluogi i fod yn halen y ddaear a goleuni y byd.

    Cynorthwya ni i sefydlu ein golwg ar dy fab Iesu Grist yr hwn a agorodd baradwys drachefn i bob un a gred ynddo.

    Diolchwn am ei angau aberthol wrth iddo dalu pris ein mynediad i fewn i dy bresenoldeb.

    Emyn: Y mae im waredwr

    Darllen: Luc 23:32-43

    Chwilio am ystyr a phwrpas
    Mae ennill paradwys , darganfod Iwtopia neu gyrraedd nefoedd yn rhan o ymchwil cyson y ddynoliaeth wrth chwilio am ystyr a phwrpas bywyd.

    Yn Eden wreiddiol Genesis a'r ddinas newydd yn Llyfr Datguddiad mae tair elfen amlwg i baradwys.

  • Yn gyntaf mae pobl Dduw yn mwynhau cwmni Duw,
  • Ond yn ail maen nhw'n mwynhau cymdeithas neu berthynas â Duw,
  • Ac yn drydydd mwynhau cymdeithas a pherthynas â Duw yn y lle mae Duw wedi ei drefnu ar eu cyfer.

    O'r groes yn y canol clywodd y troseddwr y gwahoddiad rhyfeddol a estynnwyd iddo gan Iesu Grist :
    " Heddiw byddi gyda mi ym mharadwys. "

    Ymateb oedd Crist i gais y troseddwr, "Iesu, cofia fi, pan ddoi i'th deyrnas."

    Troseddwr edifeiriol
    Wrth ystyried gwatwar a chabledd y troseddwr arall oddi ar ei groes mae'n amlwg mai troseddwr edifeiriol yw'r un sy'n gofyn am le yn Nheyrnas y Crist croeshoeliedig.

    Mae'n cydnabod ei fod yn haeddu cosb a dedfryd marwolaeth erchyll croes.

    Mae'n ceryddu ei gyd droseddwr am beidio ag ofni Duw - y Duw hwnnw y byddant yn atebol iddo wrth ei wynebu ar ôl marw.

    Mae'n amlwg fod yr hyn yr oedd y lleidr yn ei ddioddef wedi peri iddo bwyso a mesur ychydig ar ei fywyd.

    Mae'r hanes yn dweud ei fod o wedi dechrau gwatwar Iesu ar y dechrau, ond rhywfodd daeth i fan lle'r oedd o'n dechrau pwyso a mesur ei fywyd ei hun.

    Maent yn wynebu marwolaeth a thragwyddoldeb, tri ohonynt a chwedl y Dr Samuel Johnson y dyddiadurwr enwog .

    " Mae crogi yn crynhoi ac yn fodd i ganolbwyntio'r meddwl. "

    Ond roedd mwy i hyn na gŵr yn sylweddoli'r llanast roedd o wedi ei wneud. Fe wnaeth hynny wrth weld sut roedd Iesu'n ymddwyn ac yn ymateb i bawb oddi ar ei groes.

    Mae'n gweld ei hun ochr yn ochr â'r Iesu ac yn cywilyddio; tra yr un pryd y mae'n gweld y croeshoeliedig wrth ei ochr yn ffynhonnell gobaith iddo.

    Mae rheswm noeth yn dweud mai dyma'r fan olaf y byddai rhywun fel ef yn cael gobaith, wedi'r cyfan sut y gall y brenin honedig yma, a'i goron o ddrain, a'i gorff yn cael ei ddryllio gan yr hoelion dur - sut y gallai hwn gynnig unrhyw obaith iddo.

    Ond mae'n amlwg bod yr Iesu, drwy ei holl ymarweddiad yn ei wahodd i droi ato.

    Er mai gweddi munud olaf - gwely angau - oedd hon, gwelodd Crist onestrwydd a didwylledd y truan yn ei angen dyfnaf ac ymatebodd Crist i'w angen wrth addo ei gwmni a'i gymdeithas ym mharadwys y nef.

    Mewn sefyllfa dywyll o anobaith mae gobaith addewid Crist yn goleuo'r cyfan.

    Dibynnu'n llwyr
    Dim ond pwyso ar air Crist oedd yn rhaid yn awr er mwyn cael achubiaeth a sicrwydd o dragwyddoldeb. Doedd ganddo ddim haeddiant personol i bwyso arno beth bynnag- na chrefydd na moesoldeb.

    Pwyso a dibynnu'n hollol ar gymeriad a gair gŵr y Groes ganol. Roedd Ef ar y ffordd adref i'w deyrnas a'i baradwys a braint y troseddwr edifeiriol oedd cael mynd adref yn ei gwmni.

    Byddi gyda mi yw calon y newyddion da. Yr hyn sy'n drawiadol iawn fan hyn, wrth gwrs, yw natur yr un sydd yn cael yr addewid yma am gwmni Crist, doedd hwn ddim yn gallu ymffrostio yn y math o fywyd yr oedd wedi ei fyw.

    Lleidr oedd o, a doedd o ddim yn cuddio hynny. Roedd, meddai, yn gwbwl agored ac yn haeddu ei gosb ar y groes.

    Felly os yw hwn yn gallu mwynhau cwmni Crist, yn gallu camu i Baradwys yn ei gwmni, mae'r gwahoddiad yn agored i unrhyw un edifeiriol.

    Nid yw Crist yn edliw ei ffaeleddau iddo, dim ond ei dderbyn oherwydd Crist sydd yn derbyn pechaduriaid ac yn addo ei gwmni iddynt yw hwn.

    Yn hyn o fyd mae lle iddynt yn ei deyrnas ac onid dyna yw paradwys bod yn ei gwmni Ef?

    Ond mae gwell i ddod a hiraeth pob gwir Gristion yw "cael bod gydag Ef pan êl y byd ar dân ac edrych ar ei hyfryd wedd gan harddach nag o'r blaen."

    Perthynas am dragwyddoldeb
    Ond mae mwy na chwmni Crist yn fan hyn, mi allwch "gadw cwmni" i rywun dros dro, ond fe sefydlwyd perthynas rhwng Crist a'r troseddwr ar y groes - perthynas munud olaf - ond perthynas fyddai'n parhau am dragwyddoldeb.

    Dyma beth yw gwir grefydd - adnabod Crist - bod mewn perthynas fywiol â mab Duw.

    Dyma ryfeddod mawr bywyd yr Iesu ar ei hyd, roedd yn ei gwneud hi'n rhwydd iawn i bobl oedd yn cael eu diystyru, a'u bychanu gan gymdeithas nid yn unig i ddod i gwmni'r Iesu, ond i ddod i berthynas ag ef.

    Hwn yw'r un a oedd yn cyffwrdd â'r gwahanglwyfus, yn siarad efo'r wraig a'r diferlif gwaed, yn swpera gyda phublicanod a gadael i buteiniaid olchi ei draed a'u dagrau.

    Yr oedd crefydd fel petai wedi rhoi mur o ddeddfau a rheolau o gwmpas Duw, oedd yn peri i bobl nad oedd mynediad iddynt hwy, ond roedd perthynas gyda'r Iesu mor rhwydd ac mor agored i bawb, hyd yn oed y lleidr ar yr unfed awr ar ddeg.

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn - myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn. Myfi yn dlawd yn meddu dim ac yntau'n rhoddi popeth im.

    Ac yn y popeth hwnnw - lle ym mharadwys y nef.

    Ffolineb llwyr neu wirionedd
    Dyma addewid sydd naill ai'n gelwydd a ffolineb llwyr neu'n wirionedd. Wrth ymateb i gais y troseddwr mae Crist yn dweud;

    "Yn wir rwy'n dweud wrthyt - heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys."

    Yn wir - meddai'r Iesu - nid celwydd, na thwyll na ffantasi mo'i eiriau ond apelio at y gwirionedd y mae.

    Pwy ond mab Duw allai gynnig y fath addewid rhyfeddol?

    Mae pob dewis neu gynnig arall o baradwys yn wag ac ofer.

    Paradwys ffŵl yw pob paradwys a sefydlir ar addewid dyn neu athroniaeth meidrol. Ond paradwys Duw a'i Fab Iesu Grist, a sefydlwyd trwy aberth a dioddefaint Croes, yw'r unig wir baradwys.

    Buddugoliaeth Calfari sy'n adennill y bendithion a gollwyd yn Eden oherwydd pechod. Yn wir, enillir mwy yn ôl nag a gollwyd gan mai tragwyddol yw'r berthynas nawr â Mab Duw. Ni fydd torri na gwahanu mwy ar y berthynas hon.

    Peth mor ddychrynllyd
    Pedair ar ddeg oed oedd Luke Short pan glywodd y Piwritan enwog John Flavell yn pregethu, yn Lloegr yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

    Pregeth oedd hi yn rhybuddio pobl peth mor ddychrynllyd fyddai marw heb ffydd yng Nghrist ond chafodd y bregeth fawr o argraff ar y llanc ifanc ar y pryd.

    Aeth 74 mlynedd heibio cyn iddo ymateb i her y bregeth. Bu'n byw yn afradlon heb feddwl am Dduw na Christ.
    Ac yntau'n 90 oed daeth pregeth John Flavell yn ôl yn fyw i'w gof a dyna pryd y bu geiriau John Flavell yn ddigon i'w argyhoeddi o'i angen am faddeuant a thrugaredd.

    Ym mlwyddyn machlud ei fywyd - yr awr olaf fel petai - cafodd olwg ar ei angen am waredwr a chanfu y gwaredwr hwnnw mor groesawus a'r gwaredwr hwnnw a gynigodd baradwys i'r lleidr edifeiriol ar y pnawn Gwener Groglith cyntaf hwnnw.

    Nid un digwyddiad, unwaith ac am byth, oedd y gwahoddiad i'r lleidr ar y groes, mae'n enghraifft o drugaredd parod Crist ac mae'n gadarnhad pellach o neges sylfaenol yr efengyl:
    Mae Duw gyda ni ac nid yn unig gyda ni ond yn cynnig perthynas agos, lawen, inni yng Nghrist, ac fel petai hynny ddim yn ddigon perthynas dragwyddol o lawenydd a gorfoledd.

    Dyma wahoddiad Crist hyd heddiw.
    Dyma yn awr yr amser cymeradwy; dyma yn awr ddydd iachawdwriaeth.

    Gweddi:
    Wrth fyfyrio ar groes ein Harglwydd Iesu rho inni olwg , O Arglwydd, ar realiti addewid dy Fab yn cynnig paradwys ei gwmni i bob un a gred ynddo.

    Rho dangnefedd dy bresenoldeb i bob un ohonom a llanw ni â gobaith y troseddwr edifeiriol wrth bwyso ar air yr Arglwydd nawr ac am byth.

    Emyn: Mi dafla'i maich.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý