±«Óãtv

Machynlleth

Machynlleth
© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Mae'r daith hon yn eich tywys o gwmpas tref Machynlleth.

Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr ar y gwastad ac ar balmentydd. Yn yr achosion lle mae'r daith yn eich tywys o'r brif ffordd, mae yna opsiwn A (hawdd) a B (ychydig yn hirach). Gallwch barcio ym maes parcio Heol Maengwyn (prisiau 50c - £2.20) Mae cyfleusterau cyhoeddus wrth y maes parcio (20c)

Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.

  1. 1. Cloc y dref

    Cloc y dref

    Eicon tref Machynlleth, dyma un o'r pethau cyntaf a sylwch wrth gyrraedd y dref

  2. 2. Plas Machynlleth

    Plas Machynlleth

    Mae i'r plas a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1653 hanes diddorol

  3. 3. Cofeb Owain Glyndŵr

    Cofeb Owain Glyndŵr

    I nodi mai ym Machynlleth y coronwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru a chynhaliodd ei Senedd yn y dref

  4. 4. Y grisiau Rhufeinig

    Y grisiau Rhufeinig

    Dywedir bod y grisiau hyn yn dyddio'n ôl i Oes y Rhufeiniaid

  5. 5. Ffynnon Garsiwn (Opsiwn B yn unig)

    Ffynnon Garsiwn (Opsiwn B yn unig)

    Olion hen ffynnon

  6. 6. Royal House

    Royal House

    Credir bod Charles I wedi aros yma yn 1643

  7. 7. Tanws

    Tanws

    Atgof o'r hen ddiwydiannau yn y dref pan wnaed lledr o safon uchel yma

  8. 8. Senedd-dŷ Owain Glyndŵr

    Senedd-dŷ Owain Glyndŵr

    Ger yr adeilad hwn y coronwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1404

  9. 9. Meini Gwynion

    Meini Gwynion

    Credir bod y meini wedi bod yma ers bron i 500 mlynedd

  10. 10. Siop Laura Ashley

    Siop Laura Ashley

    Yma bu'r cynllunydd ffasiwn yn byw ac yn gweithio yn y 1960au

Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.

Croeso

Dyma lwybr hanesyddol lle gallwch weld llefydd yn ymwneud ag Owain Glyndŵr a ffurfiodd ei Senedd ym Machynlleth. Hefyd ar y safle mae teithiau o gwmpas rhai o leoliadau ffilmio Doctor Who a Torchwood yn Abertawe a Bae Caerdydd, taith hanesyddol yng Nghonwy a thaith 'Daniel Owen' yn Yr Wyddgrug. Cliciwch ar y dolenni ar y chwith.

This is a guided walk around Machynlleth in Welsh. Click the Vocab button above for language help.

Hanes

Cerflun Glyndwr

Creu Cenedl

Y genedl Gymreig o oes y Rhufeiniaid hyd heddiw gan John Davies.

Teithiau cerdded

Derek Brockway

Weatherman Walking

Lluniau a mapiau printiadwy o'r gyfres gyda Derek Brockway.

Blog Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn

Crwydro Cymru

Mae Hywel Gwynfryn yn dod i'ch ardal chi i ddarganfod be sy'n arbennig am eich milltir sgwâr.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.