±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bywyd Cyhoeddus
Owain Glyndŵr
Owain Glyndŵr

Ganwyd: 1350

Magwyd: Sycharth, Powys

Addysg: Llysoedd Cyfreithiol, Llundain


Cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru a gwrthryfelodd yn erbyn y Saeson gan sefydlu senedd Gymreig ym Machynlleth

Ganwyd yr uchelwr Owain Glyndŵr tua 1350 ac ymddengys iddo gael magwraeth ddigon arferol. Yn ddiweddarach, astudiodd y gyfraith yn Llundain a gwasanaethodd fel milwr ym myddin y Saeson.

Roedd ganddo blasdy enwog yn Sycharth ger Llangedwyn ym Mhowys ac yno roedd o a'i wraig a'i blant yn byw. Yn ddiddorol iawn, roedd Owain yn agosau at ei bumdegau cyn iddo ddechrau gwrthryfela.

Roedd y gwrthwynebiad i'r ffordd yr oedd y Saeson yn trin y Cymry yn cynyddu ar draws Cymru. Atgyfnerthwyd ymdeimlad Owain o Gymreictod pan ddechreuodd ffraeo gyda'i gymydog yr Arglwydd Grey o Ruthun, un o gyfeillion y Brenin Henry IV. Y ffrae yma arweiniodd at wrthyryfel Owain Glyndŵr, ei ymosodiad ar Ruthun a'i gyhoeddi'n Dywysog Cymru. Yr ymosodiad ar Ruthun oedd y cyntaf mewn cyfres o ymosodiadau ar Fflint, Rhuddlan, Holt, Croesoswallt a'r Trallwng.

Cyhoeddwyd Owain yn herwr ond fe gynyddodd ei achos. Ymunodd cannoedd o ddynion cyffredin yn ei wrthryfel am annibyniaeth i Gymru a dychwelodd y Cymry alltud i'w gefnogi. Trechwyd nifer o gestyll Seisnig a chynhaliwyd y senedd gyntaf ym Machynlleth ac arwyddwyd cytundebau ffurfiol rhyngwladol gyda Ffrainc a'r Alban.

Llythyr Pennal
Enillodd gestyll Aberystwyth a Harlech ac erbyn 1405 fe gydnabyddid ei awdurdod Cymru benbaladr. Ond yn dilyn y llwyddiannau, fe ddaeth y methiannau yng Nghastell Grosmont a Phwllmelyn ger Bryn Buga.

Apeliodd Glyndŵr eto i Ffrainc am gymorth mewn llythyr a ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynhlleth. Mae Llythyr Pennal ar gael heddiw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc. Cyfrifir y llythyr heddiw yn destament i weledigaeth Owain am Gymru rydd. Ond ar waethaf ei holl sgiliau diplomyddol, ni ddaeth ateb o Ffrainc.

Senedd-dy Machynlleth © Bwrdd Croeso CymruFe frwydrodd Owain i'r pen yn ei gastell olaf sef Harlech yn 1409. Ychydig a wyddys am y frwydr ond fe lwyddodd Owain i ddianc. Carcharwyd ei wraig, ei ddwy ferch a'r ŵyr yn Llundain ac yno y buont farw. Treuliodd Glyndŵr weddill ei ddyddiau gyda'i fab yng nghyfraith Syr John Skydmore yn Kentchurch yn Swydd Henffordd.

Yn 1415, gwrthododd gynnig o bardwn. Ni wyddys yn iawn sut y bu farw ac mae lleoliad ei fedd yn ddirgelwch mawr hyd heddiw.

Mae'r adeilad lle cynhaliodd Glyndŵr ei senedd gyntaf yn agored i'r cyhoedd ac mae galw am nodi 16 Medi fel diwrnod cenedlaethol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru.

Ei funud fawr : cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400.

  • Llwybr Glyndŵr
  • Dadorchuddio Cofeb Glyndŵr yng Nghorwen

  • Cyfrannwch

    Ann Williams o Fethel
    Fe ddylai Medi 16 gael ei adnabod fel diwrnod genedlaethol gan fod Owain Glyndwr yn symbol o ymdrech y Cymry i ryddhau eu hunain o orthrwm y Saeson. Ni ddylid anghofio ei gyfraniad a'i weledigaeth pan sefydlodd y Senedd gyntaf yng Nghymru. Er fod ei wrthryfel wedi dechrau o gweryl bersonol rhyngddo ac Arglwydd Grey, tyfodd i fod yn un genedlaethol, a dylid cofio bod y Cymry wedi cael eu cosbi fel cenedl yn dilyn y gwrthryfel er na chefnogwyd Glyndwr gan bawb yng Nghymru.
    Tue Sep 16 15:13:05 2008

    Derek Puw o St. Ives
    Mae gen i cryn ddiddordeb yn Owain Glyndwr fel hanesydd. Rydwy yng Nghaergrawnt ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio ymweld a Fachynlleth mis Awst.
    Sun Jun 4 15:03:55 2006

    Lisa Humphreys Machynlleth
    Wrth gwrs y dylwn ni! Mae Owain Glyndwr wedi gwneud lot fawr i ni a ddylwn ni ei gofio amdan beth wnaeth o!!!
    Thu Jul 14 14:04:28 2005


    A ddylai Medi 16 - Dydd Owain Glyndŵr - gael ei adnabod fel Diwrnod Cenedlaethol? A ddylem gael diwrnod i ffwrdd o'r gwaith a'r ysgol i ddathlu? Rhowch eich barn yma!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý