±«Óãtv

Abertawe

Abertawe
© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Taith gerdded o gwmpas lleoliadau ffilmio cyfresi Doctor Who a Torchwood ac llefydd yn ymwneud â bywyd y dramodydd Dylan Thomas a gafodd ei fagu yn ardal Uplands y ddinas.

Gellir cwblhau'r daith mewn llai na dwy awr. Mae dewis i gerdded ymhellach ar hyd y promenâd i Neuadd Brangwyn (cyfanswm o tua awr yn ychwanegol,) lle ffilmiwyd rhai o olygfeydd Torchwood. Mae maes parcio Parc Tawe yn gyfleus i'r daith hon, ar gael am ddim i gwsmeriaid am hyd at dair awr yn unig. Meysydd parcio eraill ar gael yn y ddinas.

Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.

  1. 1. Plantasia

    Plantasia

    Lleoliad ffilmio 'The Doctor's Daughter' (Doctor Who cyfres 4, pennod 6)

  2. 2. Canolfan Dylan Thomas

    Canolfan Dylan Thomas

    Hanes bywyd a gwaith y dramodydd cafodd ei fagu yn y ddinas

  3. 3. Stryd Adelaide ac adeilad yr Exchange

    Stryd Adelaide ac adeilad yr Exchange

    Lleoliad ffilmio 'The Unquiet Dead' (Doctor Who cyfres 1, pennod 3)

  4. 4. Sgwâr Dylan Thomas a'r Chwarter Arforol

    Sgwâr Dylan Thomas a'r Chwarter Arforol

    Cerflun o Dylan Thomas a theatr sydd wedi ei henwi ar ei ôl

  5. 5. Neuadd Brangwyn

    Neuadd Brangwyn

    Lleoliad ffilmio Torchwood a Doctor Who (Opsiwn B yn unig)

Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.

Croeso

Gallwch weld lle ffilmiwyd Doctor Who a Torchwood yng nghanol dinas Abertawe. Gallwch hefyd fynd am dro o gwmpas rhai o leoliadau Doctor Who a Torchwood ym Mae Caerdydd, mynd ar daith hanesyddol yng Nghonwy a Machynlleth neu daith lenyddol ei naws yn Yr Wyddgrug, tref y nofelydd Daniel Owen. Cliciwch ar y dolenni ar y chwith.

This is a guided walk around Swansea in Welsh. Click the Vocab button above for language help.

Teithiau cerdded

Derek Brockway

Weatherman Walking

Lluniau a mapiau printiadwy o'r gyfres gyda Derek Brockway.

Doctor Who

TARDIS

Y gyfres ddiweddaraf

Y rhaglenni, y cymeriadau a chlipiau ecscliwsif (yn Saesneg.)

Torchwood

Torchwood

Ecscliwsif

Golwg tu nôl i'r camera, y cymeriadau a'r rhaglenni (yn Saesneg.)

Blog Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn

Crwydro Cymru

Mae Hywel Gwynfryn yn dod i'ch ardal chi i ddarganfod be sy'n arbennig am eich milltir sgwâr.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.