±«Óãtv

Conwy

Conwy
© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Taith o gwmpas tref Conwy, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, Tŷ Aberconwy, Plas Mawr a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar y gwastad ac ar balmentydd yng nghanol y dref. Yn y ddau achos lle mae'r daith yn mynd ar hyd muriau'r dref, mae yna opsiwn A sy'n cadw at y palmant. Mae'r maes parcio ger y castell yn gyfleus i'r daith hon (codir tâl i barcio yno) gan fod y llwybr yn cychwyn wrth fynedfa mur y dref ger Canolfan Ymwelwyr Conwy (Stryd Rose Hill) gyferbyn â'r gwesty Town House.

Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.

  1. 1. Castell Conwy

    Castell Conwy

    Codwyd y castell sy'n edrych dros afon Conwy gan Edward I yn 1283

  2. 2. Pont grôg Thomas Telford

    Pont grôg Thomas Telford

    Cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont gan Thomas Telford yn 1826

  3. 3. TÅ· Lleiaf Prydain

    TÅ· Lleiaf Prydain

    Ar y Cei mae'r tÅ· bychan hynod hwn sy'n 72 modfedd o led a 122 modfedd o uchder

  4. 4. TÅ· Aberconwy

    TÅ· Aberconwy

    Credir mai dyma'r tŷ trefol hynaf yng Nghymru, yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif

  5. 5. Eglwys Santes Fair a'r Holl Saint

    Eglwys Santes Fair a'r Holl Saint

    Mae'n debyg bod sylfaen yr Eglwys hon wedi bodoli yma ers 1173, cyn Castell Conwy a muriau'r dref

  6. 6. Plas Mawr

    Plas Mawr

    Adeilad trawiadol o Oes Elisabeth wedi ei adeiladu yn y 16eg ganrif. Robert Wynn, masnachwr dylanwadol oedd y perchennog

  7. 7. Muriau'r dref (opsiwn B yn unig)

    Muriau'r dref (opsiwn B yn unig)

    Cerddwch ar hyd y muriau am olygfeydd arbennig o'r cei a'r castell

Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.

Croeso

Ewch ar drywydd hanesyddol yn nhref Conwy ar y daith hon. Gallwch hefyd weld rhai o leoliadau ffilmio Doctor Who a Torchwood yn Abertawe a Bae Caerdydd ar y safle hwn, neu fynd ar daith hanesyddol ym Machynlleth. Yn Yr Wyddgrug dilynwch daith lenyddol 'Daniel Owen'. Cliciwch ar y dolenni ar y chwith.

This is a guided walk around Conwy in Welsh. Click the Vocab button above for language help.

Hanes

Castell Conwy

Cestyll Cymru

Rhai o gestyll mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys castell Conwy.

Teithiau cerdded

Derek Brockway

Weatherman Walking

Lluniau a mapiau printiadwy o'r gyfres gyda Derek Brockway.

Blog Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn

Crwydro Cymru

Mae Hywel Gwynfryn yn dod i'ch ardal chi i ddarganfod be sy'n arbennig am eich milltir sgwâr.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.