±«Óãtv

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod â'r newyddion diweddaraf o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...

EP Newydd Yr Ods

Newyddion cyffrous i ffans Yr Ods. Mi fydd eu EP newydd allan ddiwedd y mis ar label Copa. Mae 5 trac ar yr EP, sef Y Bel Yn Rowlio; Turn Around; Paid Anghofio Paris; Cofio Chdi O'r Ysgol a thrac teitl yr EP sef Nid Teledu Oedd Y Bai. Mi fydd lansiad yr EP yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Sadwrn Hydref 16eg gyda Jen Jeniro a Breichiau Hir.

Casgliad Huw Stephens

Huw Stephens wedi rhyddhau cagliad aml gyfrannog ddoe o'r enw Music Sounds Better With Huw Vol 2 ar label Wichita Records. Mae 20 cân ar y casgliad gyda cyfraniadau gan fandiau sy'n gyfarwydd i ni ar C2 fel Yr Ods (Nid Teledu Oedd Y Bai) ac Y Niwl (Undegpump). Mae'r holl gasgliad ar werth am £5 ac ar gael o

Albym Newydd Mr Huw

Mae Mr Huw wedi cyhoeddi ar ei gr?p facebook fod ei albym nesa wedi'i gwblhau ac y bydd yn y siopau ddechrau Rhagfyr. Dydi'r teitl ddim am gael ei gyhoeddi tan ganol y mis yma ond un o'r caneuon fydd ar yr albym ydi 'Creaduriaid Byw' gafodd ei recordio ar raglen Sesiwn Unnos Mr Huw ddechrau'r flwyddyn.
Gigs Mr Huw
Hydref 15 - Tafarn y Gwachel, Pontardawe
Hydref 23 - Gwyl Swn, Caerdydd. Undertone
Tachwedd 18 - Y Ring, Llanfrothen

Band newydd Euros Childs

Mae sôn wedi bod am hyn ers dros flwyddyn bellach ond o'r diwedd mae dyddiad wedi ei gadarnhau i ryddhau record. Mae Jonny - sef band Euros Childs a Norman Blake (un o aelodau y grwb chwedlonol o'r Alban - Teenage Fanclub) wedi cadarnhau eu bod am ryddhau EP ym Mis Tachwedd ac hefyd am gigio ddechrau 2011. Enw'r EP yw 'Free EP' ac fel mae'r teitl yn awgrymu mi fydd ar gael am ddim! Mi fydd albym lawn yn dilyn yn gynnar yn 2011 ar gael ar Alsatian Records (sy'n is-label i Turnstile Records). Mi fydd Jonny yn teithio trwy gydol Ionawr a Chwefror 2011. Clwb Ifor Bach Caerdydd yw'r unig ddyddiad yng Nghymru - Chwefror 8fed. Mwy o fanylion o wefan

Label Newydd Gruff Owen o Iglw

Nos Iau dwetha, mi oedd Gruff Owen o'r Grwp Iglw ar raglen Nia Medi yn son am ei brosiect newydd Candela Spark. Mi soniodd Gruff hefyd ei fod yn dechrau label newydd o'r enw Leo The Bear. Mae modd cysylltu gyda Gruff trwy .

100 o Ganeuon Pop

Ar stondin y Lolfa yn y Steddfod Genedlaethol mi oedd cyfle i bobol awgrymu caneuon i'w cynnwys mewn cyfrol o'r enw '100 o Ganeuon Pop' - llyfr fydd yn cynnwys geiriau a cherddoriaeth i'r caneuon. Mae'r rhestr bellach yn derfynol. Doedd dim digon o amser i gynnwys pob cân ond ymysg y 100 mae Euros Childs - Bore Da, Derwyddon Dr Gonzo - Bwthyn, Gwyneth - Glyn Adra, Elin Fflur - Harbwr Diogel, Y Cyrff - Cymru, Lloegr a Llanrwst, Sibrydion - Disgyn (Amdana Ti), Edward H - Breuddwyd Roc a Rol. Pob math o glasuron hen a newydd. Mi fydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa erbyn y dolig. £14.95 - anrheg 'Dolig wedi'i sortio!

Caneuon Trist

Yn ôl arolwg gan gwmni breindaliadau y PRS fe ddewiswyd Everybody Hurts gan REM fel y gân mae dynion fwyaf tebygol i ddechrau crio. Ymysg y caneuon eraill ddaeth i'r brig oedd Eric Clapton - Tears in Heaven sy'n sôn am farwolaeth mab Eris Clapton - Connor. Mi oedd Haleliwia gan Leonard Cohen yn 3ydd.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.