±«Óãtv

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod â'r newyddion diweddaraf o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt

Ail Symudiad
Mae'r band o Ddinbych y Pysgod wrthi'n recordio traciau tuag at albym newydd. Mae dwy drac o'r albym eisioes wedi eu rhyddhau yn ystod yr haf; Grwfi Grwfi ac Ynys Prydferthwch. Enillodd Wyn a Richard o'r band wobrau Cyfraniad Oes yng Ngwobrau RAP Radio Cymu eleni, a hon fydd yr albwm gyntaf ers Pippo ar Baradwys yn 2006.

Bydd y band yn chwarae yng Ngwyl Bro Preseli ar yr 8fed o Hydref. Am fwy o fanylion:


Swydd gyda PPL
Os wyt ti'n siarad Cymraeg ag â diddordeb mawr mewn cerddoriaeth dawns, dyma dy swydd ddelfrydol!

Mae PPL - corff sy'n casglu arian breindaliadau ar gyfer cerddorion yn hysbysebu am swydd wedi eu lleoli yn Llundain.
Mwy o wybodaeth trwy ebostio: lisa.bailey@handle.co.uk


Noson Acwstig Newydd
Mae'r Fuwch Goch yng Nhaerdydd wedi cyhoeddi manylion y gig cyntaf mewn noson fisol newydd, sy'n rhoi pwyslais ar gerddoriaeth acwstig. Enw'r nosweithiau fydd 'Y Beudu' a bydd y gig cyntaf yn cael ei gynnal nos Iau y 23ain o Fedi gyda The Gentle Good, Gildas, Llwch y Gornel a Steffan Huw.

Mwy o fanylion:


Wa Bala
Wa Bala 2010 yn cychwyn nos Wener hon gyda:
Gwibdaith Hen Fran, Elin Fflur, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Mr Huw

Prynhawn Sadwrn bydd diwrnod o weithgareddau hwyliog gyda chriw Stwnsh, yna gig yn y nos gyda:
Bryn Fon,Gai Toms, Candela, Bandana, Crwydro a mwy.

Mae trefnwyr yr wyl yn gaddo mai hon fydd y penwythnos gorau eto - y tocynnau yn £13 y noson neu £20 i'r ddwy.

Am fwy o wybodaeth:

Gig Codi Arian tuag at Llifogydd Pacistan
Bydd gig arbennig yng nghlwb y Diwc, Caerdydd nos Wener gyda Sibrydion, Nos Sadwrn Bach a Breichiau Hir, gyda'r holl elw yn mynd tuag at apel llifogydd Pacistan.
Y noson yn cychwyn am 8.
Ar nos Sadwrn y 25ain o Fedi, bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal yng Nghapel Currig gyda'r elw'n mynd tuag at Apel Llifogydd Pacistan a Cam wrth Gam - mudiad elusennol sy'n cael ei gynnal gan griw o bobl ifanc ygn Ngogledd Cymru.
Yn perfformio bydd: Trevor Roots & the Collaborators, Gai Toms a'r Band - Cowbois Celtaidd, T.G. Elias - Igam Ogam - Turnstone a DJ Fflyffibili.
Mae manylion llawn y ddau ddigwyddiad i'w canfod ar eu grwpiau Facebook .

Roc a Pop Yr Urdd
Mae mudiad yr Urdd wedi cyhoeddi manylion y gystadleuaeth roc a pop, 2011.
Bydd dau gategori eto eleni - blynyddoedd 7 i 9 ac yna oedran 15 - 25. Mae'n rhaid cyfansoddi a pherfformio can wreiddiol o unrhyw arddull e.e.Pop, Roc, Jazz, Hip Hop, Blues, Rapio, DJ'o...
Ar ol gyrru CD i'r beriniaid, bydd y pum band fwyaf addawol yn y ddau gategori yn derbyn gwahoddiad i berfformio yn Eisteddfod Yr Urdd Abertawe A'r Fro 2011. Bydd y dyddiad cau yn ystod mis Chwefror 2011, felly digon o amser i sefydlu eich grwpiau a chychwyn cyfansoddi!

Am fwy o wybodaeth: , ble mae rhestr testunau holl gystadleuaethau Eisteddfod 2011 bellach i'w gweld.


Proms Trydanol y ±«Óãtv
Elton John oedd yr enw cyntaf i gael ei gyhoeddi ar gyfer proms trydanol y ±«Óãtv eleni. Bydd Elton yn perfformio gyda'i arwr, y pianydd Leon Russel.
Mae enwau'r artistiaid sy'n cymryd rhan yn cael eu cyhoeddi pob dydd o'r wythnos hon - cafodd Robert Plant (gynt o Led Zeppelin) ei ychwanegu at y rhestr heddiw. Bydd Robert Plant yn canu fersiynau newydd a gwahanol o'i ganeuon ef a rhai o glasuron Led Zep, gyda cerddorfa, cor a'r gantores Patty Griffin.
Mae'r proms trydanol bellach yn un o uchafbwyntiau'r calendr cerddorol gyda'r cyngherddau yn rhoi llwyfan i lu o artistiaid gwahanol arbrofi a datblygu eu cerddoriaeth. Ymysg artistiaid sydd wedi perfformio yno mae Smokey Robinson, Robbie Williams, Dame Shirley Bassey, Damon Albarn, Sigur Ros a Paul Weller.


Mwy o wybodaeth:

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.