±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Sianelen a Celfin Pleming Tlws John a Ceridwen Hughes
Tlws a gwobrau
Gŵr a gwraig yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes eleni am gyfraniad o bwys i ieuenctid Cymru.

Ers blynyddoedd bu Celfin a Sianelen Pleming yn hynod weithgar gyda gweithgareddau'r Urdd ym Mhen LlÅ·n.

Deunaw mlynedd yn ôl, sefydlodd y ddau Uwch Adran ym mhentref Llithfaen wrth droed yr Eifl lle magwyd Sianelen a lle mae'r ddau a'u mab, Ifan, yn dal i fyw.

Bedair blynedd yn ddiweddarach cychwynnwyd Aelwyd Gwrtheyrn ganddynt.

"Mae eu cyfraniad i holl weithgareddau'r mudiad yn enfawr," meddai'r Urdd mewn datganiad yn dilyn cyflwyno'r tlws iddyn nhw nos Iau yr Eisteddfod.

. Dan arweiniad Celfin a Sianelen cymerodd aelodau ran mewn cystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodol.

Bu'r ddau yn hyfforddi timau pêl rwyd, pêl droed, hoci, pŵl, dartiau a thennis bwrdd.

Yn yr Eisteddfod yr wythnos enillodd côr yr Uwch Adran wobr gyntaf a pharti ail wobr gan ddilyn camp y llynedd yng Nghanolfan y Mileniwm lle'r enillodd y Côr wobr gyntaf hefyd a'r parti yn cael yr ail wobr.

Bu'r côr hefyd yn rhan o gôr Talaith y Gogledd a ganodd efo John Eifion yng Nghorwen, yng nghyngerdd yr Urdd i godi arian i Tŷ Gobaith.

Yn 1998, Sianelen oedd Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid yn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, a bu'r ddau ohonynt yn brysur iawn yn trefnu gweithgareddau cyffrous ar gyfer yr aelodau.

Mae'r ddau yn rhoi pwyslais ar weithgareddau cymdeithasol hefyd gydag ymweliadau ag Alton Towers, gigs yn yr Octagon ym Mangor ac i Lannau Dyfrdwy i sglefrio.

Trefnir hefyd weithgareddau a nosweithiau ar y cyd ag aelwydydd eraill.

Bu'r ddau yn asgwrn cefn i'r mudiad ym Mhen LlÅ·n ac maent yn parhau i wneud mynychu adran ac aelwyd yn hwyliog, gan roi cyfleoedd i'r aelodau brofi holl weithgareddau'r mudiad. Mae Tlws John a Ceridwen Hughes yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolion sydd wedi gwneud "cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru".

Eu henwau i lawr - ar gyfer y Wasg Fe'i noddir gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr.

Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg - gwaith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed tu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.




About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý