±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Cwis rygbi cyntaf
Tîm o'r Bala fu'n fuddugol yn y Cwis Rygbi Ieuenctid cyntaf erioed i'w gynnal ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Ddydd Llun yr Eisteddfod daeth timau o glybiau Rhuthun, Nant Conwy a'r Bala ynghyd i'r babell berfformio ar y Maes i ateb cwestiynau wedi'u gosod gan Gareth William Jones, awdur cyfres o nofelau am rygbi ieuenctid - cyfres Mewnwr a Maswr.

Gofynnwyd deg ar hugain o gwestiynau mewn gornest arbennig i ddathlu cyhoeddi Tân ar Groen, y bumed gyfrol yn y gyfres.

Mewn gornest gyffrous, cipiwyd y tlws ar ddiwedd tair rownd o gwestiynau gan aelodau ieuenctid Clwb Rygbi'r Bala.

"Roeddwn i'n ofni cyn dod yma fod rhai o'r cwestiynau yn rhy galed," meddai Gareth William Jones, "ond mi wnaeth dyfnder gwybodaeth y timau am y byd rygbi fy synnu.

Yr enillwyr "Ac roeddwn i'n arbennig o falch fod y timau i gyd wedi sgorio mwy o bwyntiau yn y rownd ar gwestiynau cyfres Mewnwr a Maswr nag yn y ddwy arall!"

Mae'r nofelau yn olrhain hanes a helyntion dau efaill o ogledd Cymru, sydd â mam-gu a thad-cu o Sir Gaerfyrddin, ar faes y bêl hirgron.

"Mae'r gyfres wedi cydio yn y darllenwyr ifanc," meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr. "Rydan ni'n cael ymateb da o bob cwr o Gymru"

  • Mewnwr a Maswr - 5 Tân ar Groen. Gwasg Carreg Gwalch £4.50




  • About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý