±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Rhys Meirion ar faes y Steddfod yn Rhuthun Maes profiadau
Er na wnaeth o ei hun erioed gyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fel cystadleuydd talodd Rhys Meirion deyrnged i'r Urdd am y profiad y mae'n ei roi i bobl ifainc.

Pwysleisiodd hefyd werth yr Eisteddfod fel gŵyl symudol.

Bellach yn un o gantorion gorau Cymru dywedodd Rhys Meirion a oedd yn Llywydd y Dydd yn Rhuthun ddydd Gwener mai y gair profiad sy'n dod i'w feddwl ef bob tro y mae'n meddwl am yr Urdd.

"Er. wnes i erioed gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol gan fod yna nifer o rai da iawn yr adeg honno gydag enwau fel Bryn Terfel yn cipio'r gwobrau," meddai.

Yn nes ymlaen, pan ymunodd ag Aelwyd Bro Gwerfyl bu mwy o lwyddiant gyda'r aelwyd yn ennill tarian ddwy waith.

"Y mae hyn i gyd yn brofiad yr ydw i medru mynd yn ôl ato ac edrych arno," meddai gan ychwanegu bod ei blant ei hun yn awr yn cael yr un profiadau.

Cyfeiriodd at un o'i feibion, sydd ar fin symud i ysgol uwchradd, yn cael y cyfle trwy gystadlu yn yr Urdd i gyfarfod a chymysgu â phlant o ysgolion eraill a fydd hefyd yn symud i'r ysgol honno.

"Mae hynny yn un rheswm pa mor bwysifg yw hi i'r Eisteddfod dymud o ardal i ardal oherwydd mae plant yn yr ardaloedd yn cael profiadau amhrisiadwy," meddai.

Rhagor am Lywyddion y Dydd



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý