±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Matthrew Rhys yn darllen Clebran L.A., Llundain, Caerdydd a Sir Benfro
10 Rhagfyr 2003
Sgwrs arbennig gyda'r actor Matthew Rhys ...
Mae e wedi perfformio ar y sgrin fawr, y sgrin fach ac ar y llwyfan, mewn cynyrchiadau Cymreig, Americanaidd a Seisnig. Dros y misoedd diwethaf, y llwyfan sydd wedi cael y flaenoriaeth wrth i Matthew Rhys bortreadu'r cymeriad a anfarwolwyd gan Richard Burton yn y cynhyrchiad diweddaraf o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, sef y Llais Cyntaf.

Ydi, ma' Matthew Rhys yn fachan prysur iawn, ond cyn iddo fynd am baned gyda'i deulu (sy'n dod o Abergwaun), dyma Clebran yn manteisio ar funud sbâr o'i gwmni...

"Ffarmo! Bydden i'n caru bod yn ffarmwr," meddai Matthew Rhys. "Sai'n gweud hynny mewn unrhyw ffordd rhamantaidd, fi'n gwybod faint o amser ofnadwy o anodd ma'r diwydiant wedi'i gael yn ddiweddar. Ond fi'n caru bod yn y wlad, fi'n caru bod mas.

"Ma' teulu Dad i gyd yn ffarmo a rhai o deulu Mam hefyd. Fi'n caru bod mas yn yr awyr agored. 'Na beth ' wy' n ei fwynhau. Os bydde ffarmo yn neud arian bydden i'n neud 'na. Bod yn berchen ar fferm ddefaid rhywle yn y gorllewin."

Gredwch chi fyth faint o bobol bu'n rhaid i mi fynd drwyddynt er mwyn cael rhif ffôn Matthew Rhys. Siarad wedyn gyda'i dad, Glyn Evans, cyn gallu cadarnhau cyfarfod gyda Matthew yng nghefn llwyfan theatr y Grand yn Abertawe lle roedd yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad llwyfan o Under Milk Wood.

Paratoi at y cyfweliad
Wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer cyfarfod y dyn ei hun, fe ddaeth hi'n amlwg iawn i fi bod pawb wedi dwli ar Matthew Rhys; yn canmol ei berfformiadau i'r entrychion, nodi pa mor olygus yw e' ac yn bwysicach na dim i rywun sydd ar fin ei gyfarfod, yn dweud ei fod yn fachgen annwyl iawn.

Do, fe wnes i baratoi tipyn, ond mae'n amlwg na wnes i baratoi fy hunan yn ddigonol at y cyfarfyddiad cyntaf hwnnw - yr ysgwyd llaw, a'r eiliad gyflym honno o bendroni a oeddwn i'n mynd i'w alw yn ti neu chi... a do'n i'n sicr ddim wedi bwriadu cwrdd â Matthew ar fy nghwrcwd!

Fan 'na o'n i yn potsian drwy gwdyn plastig ar y llawr cyn sylwi ei fod e'n sefyll y tu ôl â'i fraich mas i'm cyfarch. "Dere drwyddo fan hyn, gewn ni lonydd yma" - dyna wahoddiad na fyddai unrhyw ferch yn ei wrthod gan ddyn sydd wedi cael ei enwi'n 8fed dyn mwyaf rhywiol Cymru gan y Western Mail!

Cefndir Matthew
Mae gan Matthew Rhys CV anrhydeddus - ar ôl gadael Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, aeth i goleg RADA yn Llundain gan rannu ty â'i gyfaill Ioan Gruffydd. Ers graddio oddi yno, mae e' wedi bod yn brysur yn actio mewn ffilmiau megis Titus, The Abduction Club, a Columbo; mae e wedi ymddangos ar y teledu (yn ddiweddar yn y gyfres P.O.W ar ITV), ac ar y llwyfan wrth ochr Kathleen Turner yn The Graduate.

Yn fwy diweddar, i gyd-fynd â hanner can mlwyddiant ers marw Dylan Thomas, mae Matthew wedi bod mewn cynhyrchiad o Under Milk Wood, mewn rôl a boblogeiddiwyd gan Richard Burton mewn ffilm o'r un cynhyrchiad.

"Mae'n beth da a'n beth drwg achos ma' pawb yn ei gofio fe'n gwneud e, neu wedi ei glywed e," meddai Matthew."Ma' 'da nhw rhyw syniad o shwd dylse fe fod ac yn lle dweud, ti'n whare'r llais cyntaf, ma' nhw'n dweud ti'n whare rhan Richard Burton."

Yn sicr, mae Matthew Rhys yn sefyll ar ei draed ei hunan yn y cynhyrchiad hwn â'i lais cryf yn ein carion esmwyth trwy freuddwydion rhyfedd pentrefwyr Llarregub. Does dim argoel o nerfusrwydd yn ei lais ar lwyfan Theatr y Grand, Abertawe, ond mae'n dweud wrtha i ar ôl y perfformiad iddo deimlo'n ofnadwy o nerfus gan fod ei deulu wedi teithio o Abergwaun i'w weld.

"Ti ishe plesio, ti ishe neud jobyn da," meddai. "Ma' nhw mor gefnogol, ti ishe rhoi sioe dda iddyn nhw. Ond yn anffodus wedyn, mae'n gweithio i'r gwrthwyneb. Os wyt ti'n nerfus, ti'n fwy tueddol o wneud camgymeriadau."

Mae Matthew yn teimlo yr un mor gyfforddus o flaen camera ag y mae ar lwyfan, a hefyd yn yr iaith Gymraeg ac yn Saesneg. Ond dyw e ddim mor gyfforddus yn gorfod byw yn Llundain, ble mae'n rhaid iddo fod er mwyn cael y gwaith a'r clyweliadau.

"Yn ddelfrydol, byddai modd gwneud digon o waith er mwyn i bobol fod yn gyfarwydd â dy waith, ac er mwyn iddyn nhw allu gofyn i ti fynd fan hyn a fan 'co i weithio, yn hytrach na gorfod bod yn Llundain o hyd," meddai Matthew.

Balch o'i Gymreictod
Wir, dwi'n amau os oes na actor â chymaint o falchder yn ei Gymreictod â Matthew Rhys. Er iddo gael ei fagu yn y brifddinas, mae dylanwad y gorllewin yn amlwg arno. Acen a thafodiaith y gorllewin sydd ar ei Gymraeg, a'i ymweliadau â sir Benfro sydd felysaf yn ei feddwl.

"Yr atgof mwyaf yw mynd mas ar y cwch gyda'm ewythr sy'n forwr - Capten Dai Williams, meddai. O'dd e'n mynd â ni mas i bysgota mecryll a physgota crancod ar y cei yn Abergwaun.!

Mae'n fwy tebygol y dyddie' hyn, i weld Matthew yn dal peint o chwerw yn y Fishguard Arms nag yw hi o'i weld â gwialen yn ei law. Dyna fy hoff dafarn i meddai â gwên ar ei wyneb, gwên sy'n awgrymu mai dyna fyddai'n braf y funud honno.

Cwrdd â'r teulu
Yn hytrach, rhaid paratoi ar gyfer ei ail berfformiad o Under Milk Wood diwrnod hwnnw. Ond cyn hynny, mae'n cwrdd â'i wncwl Dai a gweddill y teulu sydd yr un mor gefnogol ag erioed i'w waith - eu cyfarfod am baned ac i ddal lan â'r hanesion teuluol. Diolch byth, mae Matthew yn actor prysur, ond ei fwriad yw treulio Nadolig tawel gyda'i deulu, mwy na thebyg yn Abergwaun, a thwrci blasus i goroni'r diwrnod arbennig.

Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý