±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Nid oes fawr ddim sôn am yr Eisteddfod yng nghyoeddiadau gwyliau Cyngo Sir Benfro Ma' Seimon wedi ei syfrdanu
Awst 2002
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad oes yna neb o blith corau de Sir Benfro wedi ymuno â chôr yr Eisteddfod. Ble mae baswyr a thenoriaid corau Penfro a Dinbych-y-pysgod? Onid yw hi'n steddfod y sir gyfan?
Yn wir dealla Seimon mai'r unig aelodau o Gôr Meibion Hwlffordd sy'n aelodau o Gôr Yr Eisteddfod yw'r pedwar gafodd eu gwahardd o'r côr.

A'u trosedd? Gwrthod rhoi ymrwymiad i sefyll ar eu traed a chanu anthem genedlaethol Lloegr gydag arddeliad mewn cyngherddau. A hynny ym mlwyddyn y Jiwbili. Prin eu bod yn deilwng o dref sy'n gartref i'r arch-Frenhinwr, Dilwyn Miles. Ond na fe, Bois Bach o'r Wlad yw'r pedwar.

Y Gymraeg yn Nhyddewi
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall ei bod yn amhosib dod o hyd i'r un o ddisgyblion unig ysgol gynradd dinas Tyddewi sy'n medru cynnal sgwrs synhwyrol yn y Gymraeg.

Ond na fe am nad oes yna fawr o Gymraeg i'w glywed rhwng y staff pa ddisgwyl sydd i'r disgyblion fedru'r iaith? Mae yna eironi yn y ffaith iddi gael ei henwi'n Ysgol Bro Dewi yn ddiweddar.

Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall bod llawer o bobol y diwydiant gwyliau yn ardal Tyddewi o'r farn bod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst yn dipyn o niwsans.

Roedden nhw, mae'n debyg, wedi awgrymu y dylid ei chynnal naill ai ym mis Mehefin neu ym mis Medi rhag ei bod yn tarfu ar y cyfnod prysur o ran ymwelwyr.

Diben penna'r wyl yn eu golwg nhw oedd rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth ar adegau slac ac y dylid felly ei theilwrio at y diben hwnnw.

Anwybyddu'r iaith
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad yw Cyngor Sir Penfro, yn wahanol i'r rhelyw o awdurdodau, fyth yn gosod 'yr iaith Gymraeg' yn bwnc trafod ar agenda unrhyw bwyllgor.

Yn ôl yr hyn a ddealla Seimon fe fyddai gwneud hynny yn dân ar groen y prif weithredwr. Does yna'r un cynghorydd yn meiddio annerch yr un pwyllgor yn Gymraeg.

Yn ôl a ddealla Seimon rhywbeth i'w goddef tan y diwrnod y bydd yn trengi yw'r 'wes,wes' yng ngolwg prif swyddogion yr awdurdod.

Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad oes yna ddim sôn o werth am ymweliad yr Eisteddfod â Sir Benfro yng nghyhoeddiadau gwyliau niferus y cyngor sir.

Yn ôl yr hyn a ddealla Seimon doedd dim modd perswadio Adran Farchnata yr awdurdod y medrai ymweliad prif wyl ddiwylliannol y genedl apelio at ymwelwyr, boed o wledydd tramor neu o ardaloedd eraill yng Nghymru.

Cais i droi i'r Saesneg
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall bod un o famau plant y fro wedi gweiddi ar yr Archdderwydd i siarad yn Saesneg wrth baratoi ar gyfer un o seremonïau yr orsedd adeg Y Cyhoeddi.

Bu'n rhaid ei goleuo nad oes modd siarad Saesneg oddi ar y Maen Llog ac mai gwyl yn dathlu Cymreictod yw'r Eisteddfod.

Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall fod rhai o aelodau Côr yr Eisteddfod yn byw yng Nghaerdydd a bod cymaint ohonyn nhw nes bod yr arweinydd yn medru cyfiawnhau teithio i'r brifddinas i gynnal ymarferion. Oni ddylid ail-enwi'r côr yn Gôr Eisteddfod Tyddewi Caerdydd?

Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad oes neb wedi olynu Elis Richards fel gohebydd pentref Llainrhyd ddu ar dudalennau Clebran. Mae'n anodd deall fod pentref lle'r arferai cymaint ddigwydd, yn arbennig i aelodau teulu Rhydwaddon, ddim yn cael sylw bellach.

Roedd plismyn yn byw a bod yno ar un adeg yn hebrwng aelodau o deulu Rhydwaddon i rywle neu gilydd.

Ble mae'r pentref gyda llaw? Dealla Seimon fod un cyn-olygydd yn arfer dweud wrth drigolion i'r de o Efailwen ei fod rhywle rhwng Trewyddel a Monnington ac wrth drigolion i'r gogledd o Flaenffos ei fod rhywle rhwng Y Gelli a Threfelen, gan adael trigolion Crymych i ddyfalu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý