±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Meilyr Tomos Canu'r piano at achos da
Mai 2008
Fy enw yw Meilyr Hedd Tomos, ac 'rwy'n un deg naw mlwydd oed ac yn ddisgybl blwyddyn olaf yn Ysgol Y Preseli.

Mae nos Lun yn fishi yn ein tÅ· ni. Wedi i fi ddod adref o'r ysgol, bob yn ail wythnos mae Dad, gan amlaf (gan fod Mam naill ai wrthi yn ysgrifennu neu yn astudio) yn mynd a fi lan i'r Ganolfan Hamdden yng Nghrymych i chwarae boccia gyda'm ffrindiau, Dewi, Jacob a Christopher.

Ar ôl swper fe fydd peth amser ar gael i mi roi peth ymarfer i mewn ar y piano, cyn i Elin Owen, fy athrawes piano, ddod er mwyn i ni fynd dros y gwaith yr oedd wedi paratoi i mi wthnos dwetha. Erbyn hyn yr wyf yn medru chwarae dros 50 o wahanol donau amrywiol yn cynnwys caneuon gwerin, emynau, caneuon pop, a darnau gan Scott Joplin, Sibelius, ac wrth gwrs fy ffefryn Dafydd Iwan.

Er fy mod i wedi fy ngeni â beth mae'r arbenigwyr yn disgrifio fel anghenion addysgol arbennig, yr wyf yn barod am sialens ac yr wyf yn medru gwneud llawer o bethau pwysig mewn bywyd. I brofi hyn, yr wyf am fynd ati i gynhyrchu CD o mi yn chwarae'r piano er mwyn codi arian i ddau achos da.

Pan oeddwn yn fach fe gafodd Mam a Dad dipyn o gymorth oddi wrth Gymdeithas Syndrom Down. Ma'r mudiad wedd Dad yn arfer bod yn ysgrifennydd arno yn lleol am rai blynydde, yn trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau a chynadleddau er mwyn cynghori rhieni ar sut i roi y cyfle gorau i'w plant sydd angen ychydig mwy o gymorth efallai na phlant eraill.

Yr ydym ni fel teulu wedi treulio blynyddoedd bellach yn gwirfoddoli mewn un ffordd neu'i gilydd gyda mudiad Cymorth Cristnogol, naill ai trwy fod ar eu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu trwy fod yn gysylltiedig â 'r cylch yn lleol. Yr oedd, felly, yn rhwydd i mi benderfynu pa ddwy elusen yr oeddwn am gefnogi gyda'r elw a ddaw o'm CD.

Gobeithiaf y medraf gael digon o noddwyr i helpu fi i ga'l digon o arian i dalu am gynhyrchu CD safonol erbyn yr haf a chyn y byddaf yn ymuno â'm ffrind, Siwan, yng Ngholeg Y Dderwen, ger Croesoswallt, ym mis Medi.

Bu Mam a Dad yn helpu fi i ysgrifennu hwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý