±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Y Parchedig Robin Samuel ac aelodau'r Tabernacl Canu'n iach i'n gweinidog
Tachwedd 2003
Nos Lun Medi'r 29ain cynhaliwyd Swper Ffarwel yn y Neuadd a roedd y lle dan ei sang gan fod cymaint o aelodau'r Tabernacl wedi dod ynghyd i ffarwelio'n swyddogol â'r Parchg. Robin Samuel a'i deulu.

Roedd yn hyfryd gweld gymaint yno, croesdoriad o'r aelodau, plant ifanc yn ogystal â'r canol oed a'r hynafgwyr a rhai wedi teithio o bell er mwyn bod yn bresennol yn y cyfarfod. Paratowyd bwffe ardderchog gan yr aelodau ac wedi i bawb fwyta'n helaeth a chael cyfle i sgwrsio â'i gilydd, parhawyd â'r noson dan lywyddiaeth dihafal Hugh Thomas.

Galwyd ar yr adlonwyr o blith yr aelodau - triawd o offerynwyr yn gyntaf Lowri Phillips ar y Delyn, a Sheila Adams ac Elin Phillips ar y ffliwt, yn ail yr unawdwr baritôn Iwan Guy gyda Lowri Phillips yn cyfeilio ac yn drydydd Eirianwen Stanford gyda Alwyn Samuel yn cyfeilio, yn canu geiriau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Y Parchg. John Gwilym Jones, Bangor, cyn weinidog ar Robin a'i deulu, a ysgrifennodd y gân ar y dôn y Mochyn Du. Cyfeiriwyd yn y penillion at amrywiol ddiddordebau Robin - criced, rygbi, bwyd Indiaidd yn eu plith - a'r gynulleidfa'n ymuno yn y gytgan a'r byrdwn calonogol "Gallai fod yn lawer gwaith, bydd Robin yn dal yma".

Galwyd wedyn ar gyn-ysgrifennydd yr eglwys, sef Mr D Handel Harries i siarad a gwnaeth hyn yn ei ffordd bwyllog arferol gan gyfeirio at y blynyddoedd er 1944 pan y daeth ef a Mrs Harries yn aelodau a'r Parchg. Cyril Bowen yn weinidog newydd pryd hynny. Enwodd nifer o'r ffyddloniaid a fu'n gofalu am yr adeiladau ac am y buddsoddiadau ariannol, soniodd am y cyfnod cyffrous yn hanes y Tabernacl pan ddymchwelwyd yr hen gapel yn Adare St a chodi'r adeilad braf newydd yn Derwen Road a chyfeiriodd ar y gweinidogion a olynodd Mr Bowen, sef y Parchgn Ronald Williams ac Ifan Wynn Evans cyn dod wedyn at hanes galw'r Parchg. Robin Samuel a oedd ar y pryd yn weinidog yn Nhrelech.

Cyfeiriodd at ei ddawn arbennig i "gadw'r teulu'n hapus", soniondd am y barbaciw flynyddol, tripiau'r Ysgol Sul a the'r tô hyn, soniodd am ein teithiau blynyddol fel capel i ymweld â mannau cysegredig gan nodi Ty Ddewi, Pantycelyn a'r Gangell, a soniodd hefyd am waith Robin gyda gweithgareddau'r Cyfundeb, yr Undeb a Thy John Penri a'i ddiddordeb arbennig mewn Cymorth Cristnogol. Cyfeiriodd ar yr Ysgol Sul ffynnianus lle bu Janet, gwraig Robin yn arolyges a soniodd am y gwaith da a wnaed yno ganddi hi a'i chyd athrawesau gan nodi pwysigrwydd y Gymraeg yn hanes y Tabernacl.

Diolchodd i Robin am ei ofal drosom mewn storm a hindda yn ystod ei gyfnod fel gweinidog arnom ac am bopeth a wnaeth i hwyluso dyfodol y Tabernacl. Yn sicr bydd hiraeth o'i golli fel gweinidog ond llawenydd wrth gofio y bydd yn dal wrth law.

Cyflwynodd siec sylweddol o Robin, arian a gyfrannwyd yn arbennig gan yr aelodau i ddangos eu hewyllys da tuag at y gweinidog a'i deulu ac hefyd llun dyfrliw hyfryd o'r Tabernacl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý