±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Sian Moran Sian yn bencampwraig byd
Medi 2008
Llwyddodd Sian Moran a'u disgyblion o'r Pîl, Cwm Ogwr a Llantrisant gipio medalau mewn pencampwriaeth byd Tang Soo Do yn America.

Mae Sian Moran o Ysgol Tang Soo Do y Pîl wedi dychwelyd yn fuddugoliaethus o l0fed Pencampwriaeth byd y Ffederasiwn Tang Soo Do Rhyngwladol.

Daeth cystadleuwyr byd eang at ei gilydd yn Orlando Florida ar Awst l-3ydd ac yn eu plith oedd y garfan o Gymru yn cynrychioli tim Prydain. Enillwyd dros 40 medal yn gyfan gwbl rhwng yr ugain cystadleuydd o Ysgolion Tang Soo Do y Pîl, Cwm Ogwr a Llantrisant.

Cafodd Sian lwyddiant ysgubol personol yn y gystadleuaeth. Enillodd fedal efydd yn y categori arfau ac arian wrth chwalu byrddau pren â dwylo a thraed noeth yng nghategori menywod gwregys du (ail a thrydydd Dan).

Yna, brwydrodd trwy'r rowndiau i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ymladd. Er ei bod dan anfantais taldra trwy gydol y gystadleuaeth, llwyddodd i gipio'r fedal aur a theitl Pencampwraig y Byd trwy gyflawni tro-gic ddwbl anarferol yn yr eiliadau olaf.

Hoffai Sian ddiolch o galon i'w hyfforddwr ardderchog y Meistr Richard Heilings (pumed Dan) am ddysgu'r dechneg fuddugol iddi!

Mae Tang Soo Do yn fath o grefft hunan-amdiffynnol sy'n debyg i Tae Kwon Do. Am fwy o fanylion am Ysgol Tang Soo Do Meistr Hellings yng Nghanolfan Bywyd y Pîl, cysylltwch â Siân: 01639 710595 neu 0759 3556268


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý