±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Stirling Moss yn ennill y Festival of britain 500cc International Race yn 1951 Stirling Moss a Phen-y-bont
Ebrill 2005
Yn y llun fe welwch Stirling Moss yn ennill y "Festival of Britain 500cc International Race" yn 1951 yn Goodwood, yn y dosbarth F3, ond y cwestiwn yw, "Beth yw'r cysylltiad â Phen-y-bont?"

Mae'r stori yn dechrau gyda Cyril Williams Kieft. Ganed Cyril yn Abertawe yn 1911 a dilynodd ei dad i weithio yn y diwydiant dur. Yn 1946 fe sefydlodd waith peirianyddol yn adeilad y "Munitions Factory", adeilad a safai yn George Street ar y Stad Ddiwydiannol ym Mhen-y-bont.

Gwneud rhannau ar gyfer diwydiannau eraill oedd pwrpas y Ffatri, er enghraifft gwnaed yno rannau i'r Tilly Lamp, rhannau ar gyfer y Land Rover a hyd yn oed mowldiau jeli, ond diddordeb pennaf Cyril oedd rasio ceir ac ef oedd un o sylfaenwyr y Welsh Motor Racing Club.

Prynodd gar o'r enw Marwyn 500 ar gyfer ei rasio ond o fewn dim sylweddolodd nad oedd yn gar digon da i ennill dim byd, felly gyda'i gefndir peirianyddol daeth i'r casgliad y gallai wneud yn well ei hun. A dyna ddechrau adeiladu y Keift 500 Single Seater yng nghornel ei ffatri yn George Street yn Awst 1949.

O fewn saith mis roedd wedi cynllunio ac adeiladu ei gar cyntaf gan ddefnyddio rhai rhannau o gerbydau eraill, ond gwnaed y rhan fwyaf o'r darnau yn ei ffatri. Gwnaed corff y car mewn ffatri arall ar y stad ddiwydiannol gan gwmni o'r enw Groom & Llewellyn.

Cystadleuodd gyntaf mewn rasus yn Lydstep, Sir Benfro, ar y 8fed o Ebrill 1950 ond yn anffodus ni ddaeth llwyddiant. Roedd car cyntaf Keift yn cystadlu yn erbyn ceir oedd wedi bod yn rasio ers nifer o flynyddoedd. Roedd ganddo lawer i'w ddysgu. Erbyn Awst 1950 roedd ceir Keift yn gwneud yn dda iawn ar y trac yn Lydstep. Profodd y cystadlu yn Lydstep yn fuddiol iawn i ddatblygu'r car.

Erbyn 1951 roedd ceir Kieft yn cael eu rasio gan Stirling Moss, ac eraill, ar gyrsiau rasio Ewrop gyfan. Roedd llwyddiant wedi sicrhau fod Kieft yn gallu rhoi hysbyseb mewn cylchgronau rasio, gyda Stirling Moss yn un o gyfarwyddwyr y cwmni ac yntau ond yn 21 oed.

Rhaid cydnabod nad Cyril Kieft oedd cynllunydd car llwyddiannus Stirling. Drwy gyd ddigwyddiadau sydd yn cael eu cofnodi yn fanwl yn llyfr Kieft Racing Cars, The Bridgend Story 1949-1952 gan Peter Tutthill, daeth pedwar dyn dylanwadol iawn at ei gilydd i ddatblygu car ddaeth y gorau yn y byd am gyfnod yn NT adran F3.

Eu henwau oedd John Cooper, Dean Delamont. Ray Martin a Stirling Moss, ond beth am Cyril Kieft'? Ef oedd â'r ffydd yn y criw brwdfrydig yma ac a roddodd yr arian iddynt i ddatblygu eu syniadau yn gar rasio byd enwog. Er i deulu Kieft hannu yn wreiddiol o'r Iseldiroedd. Cymro oedd Cyril ac yn falch iawn o hynny, felly rhoddodd y bathodyn yma ar ei geir.

Yn 1951 roedd y car newydd yn ennill mor rhwydd nes, mewn un ras yn yr Almaen, roedd y trefnwyr am eu diarddel gan y gwyddent na fyddai gweddill y ceir yn gallu cystadlu o gwbl. Cytunodd Stirling i aros yn y trydydd safle tan bron ddiwedd y ras, gan roi'r argraff fod hon yn gystadleuaeth deg ond yn y diwedd enillodd yn rhwydd.

Erbyn 1952 roedd y cystadleuwyr yn dal i fyny â Kieft ond er hynny bu hon hefyd yn flwyddyn hynod lwyddiannus a gwelwyd car Keift yn ymddangos yn Sioe Geir Earls Court yn 1952. Ac yn denu edmygedd rhai o'r teulu Brenhinol.

Mae'n anodd dweud yn union faint o geir rasio adeiladwyd gan Keift yn ei weithdy ym Mhen-y-bont, gan fod rhai wedi eu gwerthu ar ffurf "Kit," ond yr amcangyfrif yw 28 cyn diwedd 1952 pan symudwyd y cynhyrchu i Wolverhampton. Roedd ceir Kieft yn dal i rasio yn y 60au cynnar a hyd heddiw maent i'w gweld mewn cystadlaethau arbennig i hen geir.

Os am fwy o wybodaeth am y cyfnod hynod yma yn hanes Pen-y-bont mynnwch gopi o Kieft Racing Cars, The Bridgend Story 1949-1952 gan Peter Tutthill, o'ch llyfrgell.

Tom Price


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý