±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awelon Croes

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Roedd gafael y capeli yn gryf ar gymdeithas, er hynny, ac 'roedd gwerthoedd oes Victoria yn parhau i reoli. Er i deyrnasiad Victoria ddod i ben yn gynnar yn y ganrif, fe gymerai amser cyn i werthoedd newydd dan deyrnasiad brenin newydd ddisodli'r hen ffordd o fyw.

Dylanwad John Morris-Jones

Plentyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Brifwyl o hyd. Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a reolai'r Eisteddfod, ar y cyd ’ hen Gymdeithas yr Orsedd dan unbennaeth E.Vincent Evans. Ac er bod dau gorff yn cynnal pob Eisteddfod yn wyneb haul ac yn llygad goleuni, 'doedden nhw ddim yn gweld llygad yn llygad yn aml, ac yn nhywyllwch eu hanwybodaeth yr oedd beirdd yr Orsedd yn byw.

Ychydig cyn troad y ganrif cododd ysgolhaig, John Morris-Jones, i herio'r hen drefn, i gyhuddo'r Orsedd o gynnal defodau paganaidd, ac i ddatgelu mai twyll ar ran Iolo Morganwg oedd hynafiaeth honedig yr Orsedd. Newydd eu sefydlu yr oedd colegau Prifysgol Cymru, yng Nghaerdydd, Bangor, ac Aberystwyth, gyda cheiniogau'r werin.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1900 1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 1910 1911 1912 1913
John Morris-Jones oedd Athro'r Gymraeg ym Mangor pan aeth yr Eisteddfod yno ym 1902, ac 'roedd o'n benderfynol o arwain barddoniaeth Gymraeg allan o anialwch Oes Victoria. John Morris-Jones a ddewisodd destunau rhamantaidd Eisteddfod Bangor. 'Roedd o hefyd yn un o feirniaid y ddwy gystadleuaeth. Cadeiriwyd T. Gwynn Jones am awdl wych, 'Ymadawiad Arthur*', a choronwyd Silyn Roberts am ei bryddest 'Trystan ac Esyllt', gyda W.J.Gruffydd yn ail. Gwawriodd yr Oes Ramantaidd.

'Roedd brenin newydd ar Orsedd Cymru, T.Gwynn Jones, ac wedi marwolaeth Victoria ym 1901 'roedd brenin newydd ar Orsedd Lloegr. 'Roedd y cyfnod Edwardaidd ar fin dechrau. 'Roedd optimistiaeth yn codi. Daeth Rhyfel y Boeriaid i ben, 'roedd dadeni cenedlaethol yn y gwynt, a'r frwydr am hawliau i'r gweithwyr ac i ferched ar fin cychwyn o ddifri. Ym 1903, daeth Streic y Penrhyn i ben. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched gan Emmeline Pankhurst. Er na lwyddodd streicwyr y Penrhyn i ennill eu nod, drwy'r streic y sefydlwyd yr egwyddor fod gan y gweithiwr cyffredin hawl i gael ei drin yn deg. 'Roedd y merched hefyd yn dechrau ymgyrchu am eu hawliau gwleidyddol hwythau. Ond 'roedd tyndra mawr rhwng yr hen a'r newydd o hyd: cyfnod o awelon croes.

Aeth Evan Roberts a Diwygiad 1904 î Chymru yn ôl i ofergoeliaeth a phenboethni crefyddol y ganrif flaenorol. 'Roedd tlodi enbyd ym Mhrydain o hyd, gyda chwarter miliwn yn byw yn y wyrcws. 'Roedd llawer o waith i'w wneud cyn y gellid taflu ymaith yr hen gadwyni a rhodio'n rhydd.

ymlaen...



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy