±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awelon Croes

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Y Senedd Symudol

'Roedd tyndra rhwng Cymreictod a Phrydeindod, a rhwng cenedlaetholdeb ac Imperialaeth. 'Roedd cenedlaetholdeb yn codi yn Iwerddon.

Yng Nghymru 'roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er i'r mudiad fethu, 'roedd Tom Ellis, A.S. Rhyddfrydol Meirionnydd a fu farw ym 1899, yn arwr gan lawer o Gymry. 'Tom Ellis*' oedd testun cystadleuaeth y Goron ym 1904. Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig. Er bod Cymru wedi colli Tom Ellis, 'roedd ei gyd-Ryddfrydwr a'i gyd-aelod o Fudiad Cymru Fydd ar un adeg, David Lloyd George, yn mynd o nerth i nerth. Erbyn 1908, gyda Herbert Asquith yn Brif Weinidog, 'roedd Lloyd George wedi cael ei ddyrchafu yn Ganghellor y Trysorlys.

Yn y cyfnod hwn 'roedd tyndra rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. 'Doedd llawer o Gymry ddim yn fodlon fod cymaint o Saesneg yn rhan o weithgareddau'r Brifwyl. Gwleidyddion ac arglwyddi di-Gymraeg oedd llawer o lywyddion yr Eisteddfod. Bu rhai o Brif Weinidogion Prydain yn annerch y tyrfaoedd eisteddfodol. Daeth dau o Brif Weinidogion y dyfodol i Langollen ym 1908, pan ddaeth Lloyd George â Winston Churchill i'r Eisteddfod. Flwyddyn yn ddiweddarach yn Llundain, anerchwyd y gynulleidfa gan ddau Brif Weinidog arall, y cyn-Brif Weinidog A.J.Balfour, a Herbert Asquith. Dathlu undod yr Ymerodraeth Brydeinig a wnaeth A.J.Balfour:

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1900 1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 1910 1911 1912 1913
'The memories that we as Welshmen, Scotchmen, Englishmen and Irishmen might have had of our own seperate histories before we were united might well be cherished, and that they would lead, if seen in their true perspective, to no petty separatism, but that each part of the United Kingdom would feel that its contribution was necessary to the common interests of the whole.'

'Roedd blynyddoedd teyrnasiad Edward y Seithfed yn gyfnod o ffyniant a llwyddiant, ac o optimistiaeth mawr. Ond er y cyfoeth, 'roedd tlodi a dioddefaint yn parhau ymysg y cleifion a'r henoed. Gweithredwyd cynllun uchelgeisiol o welliannau cymdeithasol gan y Blaid Ryddfrydol. Dan arweiniad Lloyd George fel Canghellor y Trysorlys, 'roedd amodau byw yn gwella. O 1909 ymlaen, 'roedd yr henoed i dderbyn pensiynau. Wedyn sefydlwyd Yswiriant Cenedlaethol, i helpu'r claf, y methedig a'r amddifad, ac estynnwyd cymorth i'r di-waith.

Roedd hyd yn oed buddugoliaeth tîm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd ym 1905 yn arwydd o hyder newydd y Cymry ynddyn nhw eu hunain.

Prifysgol y Werin

'Roedd dadeni mawr wedi digwydd yng Nghymru yn ystod y cyfnod Edwardaidd hefyd o safbwynt iaith, llenyddiaeth ac ysgolheictod. 'Roedd ymdrechion John Morris-Jones i buro iaith a chodi safonau barddoniaeth yn dechrau dwyn ffrwyth, ac 'roedd cynnyrch y colegau Prifysgol yn arwain y 'Steddfod o anialwch y ganrif flaenorol. Ond 'doedd pawb ddim yn hapus gyda chynnyrch y beirdd dysgedig. Prifysgol y Werin oedd yr Eisteddfod yn ôl amryw, ond 'roedd canu academaidd a rhamantaidd beirdd newydd y colegau yn annealladwy i'r werin. Cododd to newydd disglair o feirdd er hynny: T.Gwynn Jones, R.Silyn Roberts, W.J.Gruffydd, a'r ddau gefnder, R. Williams Parry a T.H. Parry-Williams.

ymlaen...



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy