±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

18 June 2014
Accessibility help
Text only
Legacies - Canolbarth Cymru

±«Óãtv ±«Óãtvpage
 Legacies
 UK Index
 Canolbarth Cymru
Erthygl
 Fideo
Digwyddiadau
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 ±«Óãtv Hanes
 Lleol i Mi

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Canolbarth Cymru

Clip Title: Detholiad o 'Treasure House', Rhan Un - 'The Blue Lady' 2003.
© 

Non-embedded Player
Clips: [ 1 ]
Description

Clip fideo o raglen ±«Óãtv Cymru 'Treasure House', sy'n cynnwys gwybodaeth ynglyn â chasgliad celfyddyd y Chwiorydd Davies yng Ngregynog, a'u hetifeddiaeth.

Troslais (Griff Rhys Jones):

"Fe brynodd Gwendoline a'i chwaer Margaret, neu Daisy, Gregynog yn 1920. Roedd yn gefnlen berffaith i'w casgliad celfyddyd."

Dr Glyn Tegai Hughes:

"Pe byddai Miss Daisy yn mynd â chi o gwmpas, rwy'n meddwl y byddech chi'n cael gwybod sut roedden nhw wedi cael gafael ar y pethau a phryd, a dyna'r cyfan. Rwy'n meddwl efallai y byddai Gwen yn dweud ychydig mwy am eu safon. Ond roedd y ffaith eu bod nhw wedi eu gosod yma ac acw ar y waliau yn rhywbeth anhygoel. Yr unig ddiogelwch oedd y gyrrwr, Ted Walters, oedd yn byw yn Middle Lodge. Pe byddai car dieithr yn dod i fyny'r dreif, fe fyddai'n dod i fyny i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Dyna oedd y diogelwch."

"Mae'n rhaid sylweddoli mai Presbyteriaid Cymraeg oedden nhw, heb unrhyw draddodiad o ormodedd yn sicr. Doedden nhw ddim yn fyddigions soffistigedig fel pe tae, yn sicr nid yn yr ystyr Bloomsbury."

Troslais - Griff Rhys Jones

"Nid mater o foddio eu chwaeth gywrain yn unig oedd o i'r chwiorydd. Gwariwyd peth o'u harian ar edrych ar ôl merched oedd yn dioddef o ddiffyg maeth, a rhedeg cantîn ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf."

Fe ddaeth Gregynog yn ganolfan i'r celfyddydau, gyda'i wasg argraffu ei hun. Ond penderfyniad gorau'r chwiorydd oedd eu casgliad celfyddyd i'r amgueddfa."

Dr Glyn Tegai Hughes:

"O ran Gwen yn arbennig, roedd yn deimlad cryf iawn y dylen nhw fod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, yn arbennig felly i gymuned De Cymru efallai, o ran peth o'r cyfoeth a dynnwyd oddi yno, fel pe tae, gan eu Tadcu â'r pyllau glo, a Dociau'r Barri, ag yn y blaen."

Troslais - Griff Rhys Jones

"A hwythau'n amddifad yn 14 a 16 mlwydd oed, etifeddodd y merched hanner miliwn o bunnoedd yr un. Swm sylweddol bryd hynny, a mwy o faich nag yr ymddangosai."


Print this page
English
Interact
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.

Ewch i Ryngweithio >
Internet Links
Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Lincolnshire
Dinghy
Related Stories
A 'round' house created by two 18th Century sun-worshippers!
Groundbreaking architecture or decaying lump of concrete?
A country cottage with a Brutal difference




About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy