±«Óãtv

Gwaith Glo'r Hafod

top
Gwaith Glo'r Hafod (Llun: Ken Aspinall)

Y gwaith glo yn yr Hafod oedd prif gyflogwr y Rhos (Rhosllannerchrugog) ger Wrecsam am dri chwarter canrif. Caeodd yn 1968. Roedd Heddwyn Jones a Glyn Evans yn löwyr yno.

Heddwyn Jones

"Ddaru mi gychwyn yn y pwll yn 1941. 'O'n i ond yn 14 oed amser hynny ac mi weithiais i yno tan 1968 pan naeth yr Hafod gau.

On i'n gorfod mynd achos nes i adael ysgol yn 14 oed a'r unig le oedd 'na rownd ffor' yma oedd pwll Hafod neu Bersham, ond oedd 'y nhad i'n gweithio yn Hafod, fo nath fy nghael i mewn.

Heddwyn Jones

"Nes i weithio yno tan 1968 a phan dwi'n edrych yn ôl y peth gorau oedd y bobl on i'n gweithio efo nhw, comradeship fel maen nhw'n dweud yn Saesneg.

"'On i'n neud ffrindiau a 'dan ni'n dal i fod yn ffrindiau - y bobl dwi'n cwrdd â nhw yn y clwb [Clwb yr Hafod/Hafod Social Club yn Rhos] yw'r bobl o'n i'n gweithio efo nhw lawr yn yr Hafod.

"Ddaru mi fwynhau'r amser ond ar ôl iddyn nhw gau'r Hafod es i weithio yn BICC yn y dre.

"Roedd hi'n amser cau'r pyllau achos gwaith budr a pheryglus oedd o. Roedd y perygl yno drwy'r dydd - a'r llwch, dywedais fod hynny'n hen ddigon ac 'on i'n falch yn y diwedd bod y pwll wedi cau. On i'n gweithio mewn seam isel, o'dd ond yn two foot eight ac oeddet ti ar dy liniau o hyd, siŵr ei fod yn neud damage yn tydi?

"Ddaru fi orffen yn 1968 pan fu'r Hafod gau. Job budr odd o ond dwi'n falch bo fi wedi bod yno achos y bobl ddes i 'nabod. O'n ni i gyd yn ffrindiau ac yn dal i fod. Fi 'di un o'r rhai hynna sy'n dal i fynd. Dwi falch i weld y golau yn y bore pan dwi'n agor y cyrtens!"

Glyn Evans

Glyn Evans

"Cychwynais i weithio yn yr Hafod ym 1944, adeg y rhyfel, yn 14 oed. Tri mis cyn i mi fod yn 15 o'n i'n gweithio ar lawr, odd 'na gymaint o ddynion wedi mynd i'r rhyfel ac roedd colliers yn marw'n ifanc amser 'na. Os oet ti'n 60 mlwydd oed pryd hynny odd hynny'n hen.

Oedd o'n brofiad ofnadwy, 650 o lathenni o dan ddaear a ddwedes i wrth fy hun "be gythraul dwi'n neud yma?" Mae pobl heddiw yn yr ysgol tan bo nhw'n 18 oed - dyna wahaniaeth.

"Dyna oedd fy nghychwyn i a bues i ene tan i'r pwll gau yn 1968. Weles i ambell i ddamwain - un dyn gafodd ei gladdu a fi ddaru orfod dod ag o allan, oedd o 'di torri pob asgwrn yn ei gorff.

"O'dd pedwar o blant ganddo pan gafodd ei ladd. Dwi'n cofio Lloyd George yn dweud 'Gwyn ein byd ni pan fydd na neb yn gweithio ar lawr' a mae hynny 'di dod yn wir rŵan bod y pyllau wedi cau a dwi'n falch o hynny.

"Bysen i ddim yn gyrru 'mhlant fy hun i weithio ar lawr ond o'dd dim byd arall i wneud pan oeddech chi'n gadael ysgol adeg y rhyfel.

"O'n i'n mynd i'r dôl ac oedd y Rheolwr yn cynnig 'Brickyard or pit?' 'Pit' medde fi. 'Why pit?' gofynnodd. 'My father is a miner and my elder brother is a miner so I'm following them'. 'Well that's alright then. Report to the Colliery Monday morning.'"

Gwaith glo'r Hafod

Adeiladwyd Gwaith Glo'r Hafod ar ôl i Waith Glo Rhiwabon orfod cau oherwydd gorlifo. Agorodd yn 1867 ac, ar ei brysuraf yn 1938, roedd yn cyflogi 1600 o ddynion.

Gwaith Glo'r Hafod oedd y prif gyflogwr yn y Rhos am 75 mlynedd ac roedd bywydau llawer yn dibynnu arno. Pan gaewyd y pwll ar 9 Mawrth 1968 collodd rhan fwyaf o'r 1300 o weithwyr eu gwaith a chafodd eraill eu trosglwyddo i waith glo'r Bers neu Gresford. Cadwyd oddeutu 200 ohonynt i dynnu'r peiriannau tanddaearol cyn selio'r siafftau a dymchwel yr adeiladau ar yr wyneb.

Rhannodd Heddwyn Jones a Glyn Evans yr atgofion uchod yn wreiddiol ar gyfer erthygl ar wefan ±«Óãtv Lleol i Mi. (Llun gwaith glo yr Hafod ar frig y dudalen drwy ganiatâd Ken Aspinall)


±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.