±«Óãtv

Teulu o amgylch coeden

Cyfenwau Cymru

06 Ionawr 2009

Wrth chwilota mewn llyfr ffôn, mi welwch mai ychydig o wahanol gyfenwau sydd mewn gwirionedd - sy'n gwneud gwaith yr hanesydd teulu yn ddiddorol, os nad yn anoddach!

Arferiad tadenwol / patronymig
Mae dull yr hen Gymry o ddefnyddio enw bedydd y tad fel cyfenw yn gallu achosi penbleth i'r sawl sy'n mynd ati i hel achau gan fod cyfenw'r teulu yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Er enghraifft, gall Iolo Griffith fod yn fab i Griffith William, oedd ei hun yn fab i William Dafydd, a byddai'n cael ei ysgrifennu fel Iolo ap Griffith ap William ap Dafydd!

Roedd merched yn defnyddio'r un drefn weithiau wrth ddefnyddio'r rhagddodiad 'ferch' neu 'ach' yn lle 'ap'. Roedden nhw hefyd yn cadw eu henwau morwynol wrth briodi oherwydd nad oedd cyfenwau'n cael eu defnyddio.

Seisnigeiddio enwau tadenwol
Dechreuodd yr hen drefn yma newid yn y 15fed ganrif. Yr uchelwyr oedd yn gyfrifol am y newid yn gyntaf ond yna fe ddechreuodd y werin fabwysiadu'r dull Seisnig hefyd a pharhaodd y newid hyd at ganol y 18fed ganrif.

Mae cyfenwau diweddar a chyffredin ymysg y Cymry yn deillio o'r arferiad o Seisnigo enwau fel ap Hywel (Powell), ap Rhys (Price) ac ap Richard (Pritchard), fel y bydden nhw wedi eu hadnabod yn wreiddiol. Daeth yr enwau Bowen a Bevan i fod yr un ffordd.

Cymreigio enwau saint Saesneg
Mae'r dewis o gyfenwau Cymraeg heddiw felly yn brin ac fe ychwanegwyd at y diffyg amrywiaeth gan y duedd i ddefnyddio enwau saint yn Saesneg, fel John, William, David, Thomas, Hugh. Fe ddatblygodd yr enwau yma'n ddiweddarach yn Jones, Williams, Davis, Thomas a Hughes.

Defnyddio enwau llefydd
Mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys y gogledd, roedd enwau llefydd yn cael eu defnyddio fel cyfenwau gan rai, a llysenwau hefyd weithiau, yn enwedig yn y canolbarth. Mae'r cyfenw Jenkins naill ai'n llygriad ar fersiwn Fflemeg yr enw John neu yn brawf o boblogrwydd yr enw Ieuan yn y cyfnod. O'r enw Ieuan y daeth y cyfnew Evan(s) a Jones hefyd.

Effaith Deddf Uno 1536
Mae'r dull o gofnodi genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn swyddogol hefyd yn cymhlethu'r sefyllfa. Un o ganlyniadau Deddf Uno 1536 oedd gorfodi defnyddio'r Saesneg fel cyfrwng swyddogol cofnodion.

Oherwydd hyn, roedd enwau'n gorfod cael eu cofrestru yn eu ffurf Saesneg ac erbyn dechrau cofrestru sifil ym 1837 roedd y Cymry hefyd yn defnyddio cyfenwau. Ond, mae'r Saeson hwythau wedi mabwysiadu a Seisnigo rhai enwau Cymraeg hefyd, er enghraifft aeth Du yn Dee a Charadog yn Craddock.

Adfywiad o'r dull traddodiadol
Ond bu adfywiad yn y defnydd o'r dull traddodiadol o enwi plant ymhlilth rhai Cymry Cymraeg ddiwedd y ganrif ddiwethaf; mae rhai o ohebwyr y ±«Óãtv fel Iolo ap Dafydd a Rhun ap Iorwerth yn enghreifftiau adnabyddus.


Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

Mudo

Capel Glan Alaw, Patagonia

Capeli, tai te a gauchos

Hanes y Cymry a ymfudodd i'r Ariannin yn 1865.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.