±«Óãtv

Gwisg Gymreig

top
Merched Cymreig

Wyddoch chi mai yn y 19g y creuwyd y Wisg Draddodiadol Gymreig fel y gwyddwn amdani heddiw? Ac mai creadigaeth gwraig fonheddig oedd 'gwisg y werin'?

diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Anrheg i'r Dywysoges Victoria ar ymweliad â Llangollen yn 1832

Mae Huw Roberts o Langefni am i'r byd wybod bod na lawer mwy i'r hen wisg Gymreig draddodiadol na'r ddelwedd gaiff ei gwerthu i'r twristiaid.

"Un o'r rhesymau i mi ymddiddori yn yr hen wisgoedd Cymreig ydy am fy mod yn gweithio gyda pharti dawns Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni, criw o blant ysgol gynradd.

"Felly mi ddechreuais drwy hel hen wisgoedd o Sir Aberteifi gan mai o fa'na y daw'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg Gymreig. Ond fel daeth mwy o wybodaeth i law, mi fues i'n canolbwyntio ar wisgoedd y gogledd - Sir Fôn a Sir Gaernarfon hefyd.

"Mae gan Amgueddfa Gwynedd ym Mangor gasgliad da o ddillad oedd yn help mawr i mi. Wrth ail-greu dillad o tua chanol y 19eg ganrif, y peth mwyaf deniadol oedd y bratiau, wedi eu gwneud allan o frethyn fetal, sef cymysgfa o sidan, gwlân a chotwm. Bratiau 'dydd Sul' oedd y rhain.

Roedd siapiau'r hetiau Cymreig yn gwahaniaethu dros y wlad - roeddent yn fwy sgwâr yn y gogledd ond yn fwy pigog yn y gorllewin.

Huw Roberts

"Does neb yn siŵr iawn pryd y daeth y ffasiwn i wisgo'r het 'pot llaeth'. Mae rhai yn dweud iddo ddod yn boblogaidd yn y 1840au ond dwi wedi gweld tystiolaeth o ugeiniau cynnar y ganrif.

"Mae'n debyg mai'r teip wedi ei wneud allan o'r 'hatter's plush' oedd yn cael ei wisgo yma. Byddent yn creu'r buckram, sef defnydd stiff wedi ei wneud allan o liain ac efallai cerdyn, a'r hatter's plush drosto - sef cymysgedd o sidan a chotwm. Byddai yn edrych yn ddigon tebyg i'r hetiau mae'r dynion yn eu gwisgo yn Ascott y dyddiau yma!

Yn ystod deng mlynedd ar hugain cyntaf y 19eg ganrif, y dechreuodd Arglwyddes Llanofer ac eraill gymryd diddordeb yng ngwisg y werin fel yr esbonia Christine Stevens:

"Roedd yn fwriad amlwg gan yr Arglwyddes i hyrwyddo diwydiant gwlân Cymru, a oedd bellach yn dirywio. Yn ei thraethawd arobryn yn Eisteddfod Gwent a Dyfed ym 1834, yn defnyddio ei llys-enw, Gwenynen Gwent, roedd yn llym ei beirniadaeth ar ferched ifanc o Gymru a oedd yn troi at gotwm tenau:

yr Arglwyddes Llanofer
yr Arglwyddes Llanofer

"Mor fynych y gwelwn y fam o hanner cant oed yn iach ac yn hwylus, ac hyd yn oed y famgu o bedwarugain yn dychwelyd o'r Eglwys neu'r farchnad yn ddiogel rhag y dymestl dan nawdd ei gwn gwlanen cynnes, a'i chlogyn cysurrus, neu fantell Gwent a Dyfed, a het ddu hardd a gwasanaethgar, a'i hosannau gwlan duon, yn troedio ei ffordd tua thre yn ddirwystr gan effeithiau oerni neu wlybaniaeth, tra gwelir y ferch neu wyres dyner a gwanaidd yn ei gwisgad cotwm anghysurus..."

"Er mwyn annog pobl i wisgo gwlanen, dechreuodd hi a'i chyd-genedlaetholwyr gynhyrchu gwlanenni mwy deniadol ac mewn lliwiau ysgafnach yn y melinau gwlân ar eu hystadau, yn enwedig yn sgil methiant cystadlaethau eisteddfodol i ddod o hyd i'r 'wlanen Gymreig' berffaith."

"Mynnodd yr Arglwyddes i'w gweision wisgo'r wisg draddodiadol a chafodd ei beirniadu gan rai am hyn. Er na lwyddodd hi i ysgogi pobl Cymru i wisgo gwlanen yn unig, parhaodd yn rhan amlwg o wisg cefn gwlad, ac ar gyfer yr hyn a ddôi maes o law yn wisg genedlaethol."

Salem
Salem

Un o'r delweddau mwyaf enwog o'r wisg draddodiadol Gymreig yw'r darlun 'Salem' gan Vosper. Y prif gymeriad oedd hen wraig o'r enw Siân Owen, Ty'n-y-Fawnog, wedi ei gwisgo mewn siôl frethyn liwgar y dywedir bod wyneb y diafol i'w weld yn ei phatrwm a'i phlygiadau. Ai damwain oedd i'r hen frawd ymddangos ynteu a ydoedd wedi ei osod yno yn fwriadol gan yr arlunydd? Ac os felly, tybed mai gwawdio duwioldeb oedd ei fwriad? Beth bynnag, gwadu wnaeth Vosper pan y'i cyhuddwyd o fod wedi bychanu crefydd a chafodd Siân Owen ei hanfarwoli yn un o eiconiau Cymru yn ei gwisg Gymreig.

Cyhoeddwyd erthygl Huw Roberts yn wreiddiol ar wefan ±«Óãtv Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.