±«Óãtv

Crwth Cymreig

top
Crwth

Un o'r offerynnau hynaf yn hanes, mae yna dystiolaeth archaeolegol sy'n dangos bod offeryn tebyg i'r crwth wedi bodoli 5,000 o flynyddoedd yn ôl yn Mesopotamia a'r Aifft.

Mae'r offeryn hwn wedi bod yn rhan o hanes cerddoriaeth Cymru ers canrifoedd lawer. Blagurodd yn y 14g pan ddefnyddiwyd y crwth yn gyfeiliant i 'Gerdd Dafod' gan barhau yn boblogaidd tan ddiwedd y 16g.

Mae ystod y nodau yn gyfyng ar y crwth gydag ond un wythfed ar gael a rhaid i'r llinynnau oll gael eu canu ar yr un pryd. O ganlyniad mae'r sain sy'n cael ei greu yn unigryw iawn, fel 'drôn' a all swnio'n rhyfedd i'r glust anghyfarwydd.

Mae nifer o gerddorion sy'n arbenigo ar ganu'r grwth yng Nghymru gan gynnwys Cas Meurig, Robert Evans ac eraill. Yma, mae Cas Meurig yn esbonio ei diddordeb yn yr offeryn:

"Cychwynnais gyda'r ffidil, ond roedd gen i wastad ddiddordeb yn ei hanes yng Nghymru ac felly y darganfyddais y crwth. Mi wnes i gyfarfod Bob Evans sy'n chwarae'r crwth ac roeddwn yn hoffi'r sŵn. Mae o'n gwneud sŵn drôn ac yn creu harmoni sy'n gyffrous a chyfoethog. Mae'n edrych yn ddigon tebyg i'r ffidil ond mae'n fwy fel 'hyrdi-gyrdi' neu'r pibau efallai."

"Felly ges i grefftwr i greu crwth i mi ac wrth fwrw ati, sylweddolais fod yna lawer o bosibiliadau. Mae'r offeryn mor ddifyr o ran 'repertoire' wrth greu alawon newydd neu addasu llawysgrifau traddodiadol Cymreig."

"Mae'n gofyn am gryn dipyn o addasu o'r gerdd draddodiadol. Mae gan ffidil dri wythawd o nodau, ond dim ond un wythawd sydd i'r crwth, ond bod ganddo'r drôn. Felly mae'n cyfyngu'r posibiliadau o gyweirnodau a chordiau gwahanol ac mae'n rhaid creu rhyw gord neu rythm newydd."

"Dwi'n ei weld fel offeryn modern. Mae offerynnau gwerin traddodiadol fel y ffidil neu'r ffliwt yn dod o'r cyfnod Baroque ac yn ddigon hawdd gwrando arnynt. Ond mae'r crwth yn fwy canoloesol ac yn gofyn am fath gwahanol o wrando, sy'n apelio at chwaeth gwahanol, mwy modern.

"Wrth wrando ar Radio 1 byddwch yn clywed synau nad yw'n hawdd gwrando arnynt, sy'n naturiol i'r crwth!"

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar ±«Óãtv Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.