±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Actores yr un oed â'r gyfres!
Mae Llinor ap Gwynedd, yr actores o Sir Benfro, yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 yn yr un flwyddyn â Pobol y Cwm. Y mae'n portreadu'r cymeriad Gwyneth yn y gyfres, ac yma mae'n trafod ei phrofiadau ers ymuno â'r tîm .

'Ma amser yn mynd yn gyflym! Rwy' wedi bod yn rhan o dîm Pobol y Cwm ers dros flwyddyn bellach. Yn y cyfnod hwnnw mae'r cymeriad rwy'n ei chwarae wedi gadael tipyn o argraff ar nifer o drigolion y Cwm! Wedi i Dai Ashurst anafu ei thad, penderfynodd Gwyneth ddial arno, a'i lwgrwobrwyo. Dechreuodd dreulio tipyn o amser gyda Mark Jones, ond yn ddiarwybod iddo fe, roedd Gwyneth yn hoff o dreulio amser gyda sawl person arall hefyd...merched a bechgyn! Hefyd, agorodd stiwdio "tatoo" - Celf Corff. Rwy'n credu y cytunwch, nad unigolyn confensiynol mohoni!

Mae hyn yn golygu bod ei chymeriadu yn llawer o hwyl! Rwy'n disgwyl ymlaen yn wythnosol i dderbyn y sgriptiau, er mwyn gweld yn union beth mae hon yn mynd i neud nesaf. Gallaf eich sicrhau chi nad yw hi'n bwriadu tawelu am sbel fach!

Er fy mod yn hoff iawn o'i phortreadu, rwy'n amau yn fawr y byddwn yn ffrindiau gyda hi tase hi'n gymydog i mi. Efallai ei bod yn agos i'w theulu, ond nid oes llawer yn medru dylanwadu arni. Mae hi'n manteisio ar wendidau y bobl sydd o'i chwmpas, ac yn mwynhau gwneud ffyliaid ohonynt. Nid yw'r ffaith ei bod yn ddeurywiol yn peri gofid i mi, pawb at y peth a bo. Yn y gorffennol nid cariad oedd ei chymhelliad - chwant er mwyn diwallu ei hun, ond bellach y mae wedi tyfu'n agos at Britt, a gwelwn ddimensiwn newydd i'w chymeriad.

Fel actores, chwarae yn groes i'r graen sydd yn aml yn rhoi'r mwynhad fwyaf. Byddai portreadu cymeriad sydd yn rhy debyg i mi yn ddiflas ar ôl cyfnod. Yn hynny o beth, rydw i wedi bod yn ffodus tu hwnt. Yn Y Palmant Aur, roeddwn yn chwarae merch a oedd wedi cael plentyn allan o briodas, a hynny yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Yn Llafur Cariad, aelod seneddol Llafur yn gwrthwynebu datganoli oedd fy nghymeriad! Alla'i ddim meddwl am rywbeth sydd yn fwy wrthun i mi!

Efallai bod un peth yn debyg rhwng Gwyneth a fi, serch hynny...hoffwn i gael tat! Hyd yn hyn, nid oes gen i, ac felly mae'r merched colur yn paentio un ar fy mraich chwith gyda stensil! Ond, wedi pendroni am flynyddoedd pa batrwm y bydden i yn hapus gyda hi am weddill fy mywyd, rwy wedi dod i benderfyniad! Wrth gwrs, y cam nesaf yw darganfod dewrder!

Bellach, rwy wedi setlo yn hapus iawn yn y Cwm dychmygol, er roedd y diwrnod cyntaf yn eithaf ofnus ond yn gyfarwydd iawn ar yr un pryd. Roeddwn yn ffodus iawn oherwydd i mi weithio gyda nifer o'r cast ar gyfresi eraill, ac yn ffrindiau pennaf gyda nhw. Mae'r gyfres wedi bod yn rhan o 'mywyd i erioed. Mae Pobol y Cwm a minnau yn dathlu ein pen-blwydd yn ddeg ar hugain eleni. Hir oes i'r ddwy ohonom!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý