±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y bardd Gwyneth Lewis Gwyneth Lewis a'r Opera
Ar Fawrth 1af, 2005 perfformiwyd opera newydd i blant "Y Barcud Coch" ym mhentref Cil y Cwm. Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru oedd wedi comisiynu'r gwaith, a'r bardd Gwyneth Lewis gyfansoddodd y libretto.
"Ma'r darn yma yn un o dair opera i blant am wahanol anifeiliaid - barcud yw'r cyntaf," meddai Gwyneth Lewis.

"Ddes i lawr i Cil y Cwm i sgwennu'r libretto, ac fe sylwes i mai dyma un o gadarnleoedd y barcud a lle ddechreuodd y mudiad cadwraeth, felly odd i weld yn iawn fod y premier yn dod i'r ysgol hon. Ers hynny mae'r Cyngor Cymunedol wedi fy mabwysiadu fel bardd cymunedol Cil y Cwm, sy'n beth braf!

Dyma'r libretto cyntaf i mi ei sgwennu a dwi di mwynhau'n fawr. Mae'n hyfryd i weithio ar y cyd efo shwt gymaint o bobl, ac mae'n wych i weld cantorion proffesiynol yn gweithio efo plant. Ma hefyd yn neis bo ni'n dathlu hwn ar Ddydd Gŵyl Dewi - adferiad aderyn Cymreig - peth grêt i blant iaith Cymraeg i'w ddathlu.

"Mae'r fam farcud yn siarad Cymraeg ond nid ydi'r tad - ro'n i moyn adlewyrchu hynny yn y sgript gan fod cymaint o blant yn dod o gartrefi cymysg eu hiaith - Cymraeg a Saesneg.

"Mae'n bwysig hefyd fod prosiect bach fel hon yn rhoi cyfle i ddefnyddio ysgolion bach fel Cil y Cwm - ysgolion sydd mewn peryg o gael eu cau. Mae'n dangos fod ysgol fach yn gallu bod yn rhan o waith byd eang gan weithio efo cwmni proffesiynol.

"Y peth anodda oedd trial gwneud stori'r barcud yn fyw nes i hynny drwy gynnwys cymeriadau'r plant - mae un eisiau bod yn 'super model'!

"Mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn dechrau mynd allan fwy, fwy ac yn mentro drwy wneud rhywbeth fel hyn ac mae hynny'n dda.

"Dwi di mwynhau'n fawr ac yn gobeithio gwneud rhagor - dwi di gneud liberetto arall yn barod! Dwi hefyd wedi gwneud oratorio i 600 o leisiau - bydd hon yn cael ei pherfformio'r flwyddyn nesa yng Nghanolfan y Mileniwm."

  • Lluniau o'r plant yn perfformio'r opera, a'u barn am y profiad.


  • Cyfrannwch

    Sioned a Mared o Llanymddyfri
    Opera da iawn. Braf oedd gweld disgyblion ein Ysgol Gynradd yn perfformio mewn opera gyda'r WNO. Edrych ymlaen i'r un nesaf!!!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý