Aelodau
- Mark Roberts - Gitar/Llais
- Cerys Matthews - Llais
- Paul Jones - Bas
- Owen Powell - Gitar
- Aled Richards - Drymiau
- Dafydd Ieuan - Drymiau
- Clancy Pegg - Allweddellau
Nôl ym 1992, yn ôl Mark Roberts, prif ganwr y grwp roc Y Cyrff, "o'n i'n sick o glywed llais fi fy hyn ar jiwcbocsys ac isio gweithio efo rhywun a oedd yn medru canu".
Wrth ddewis dechrau ysgrifennu caneuon gyda chantores ifanc o'r Mymbls - Cerys Matthews - yn syth ar ôl i'r Cyrff chwalu, darganfyddodd Marc lais a fyddai ymhen llai na phum mlynedd yn un o leisiau mwya eiconig Cymru wrth i'r grwp a ffurfiwyd gan y ddau, Catatonia, gyrraedd enwogrwydd byd eang, profi llwyddiant masnachol ysgubol a gweld eu cynnyrch yn cyrraedd brig y siartiau yn Mhrydain.
Sicrhawyd cytundeb recordiau mawr gyda chwmni recordiau Warners yn dilyn EPs cynnar y grwp i recordiau Crai - For Tinkerbell (1993) a Hooked (1994), ond ni ddaeth llwyddiant ar unwaith. Roedd y pwysau o fod gyda chwmni mawr yn golygu gwaith diddiwedd i'r grŵp, yn recordio, teithio a hyrwyddo am dros ddwy flynedd.
Ond daeth llwyddiant gyda'u hail albym, International Velvet (1998) - a enillodd record y flwyddyn yn y Melody Maker - a'r senglau Mulder and Scully a Road Rage a gyrhaeddodd y deg uchaf.
Parhaodd llwyddiant y grŵp gyda'r albym Equally Cursed and Blessed (2000) yn dilyn International Velvet i frig y siartiau, a Cerys erbyn hyn yn un o brif bersonoliaethau pop y cyfnod: brenhines 'Cŵl Cymru', yr un mor enwog am ei hagwedd ffres, dim nonsens, ag am ei llais eiconig a'i gallu i gyfansoddi caneuon pop sy'n dal y zeitgeist.
Ond roedd y llwyddiant, enwogrwydd a'r straen o deithio a chwarae drwy'r amser, yn rhoi pwysau ar ddyfodol y grŵp, ac yn fuan ar ôl rhyddhau eu pumed albym Paper Scissor Stone yn 2001 penderfynodd y grwp i chwalu.
Ers ddyddiau Catatonia mae Cerys wedi sefydlu ei hunan fel artist unigol, tra fod Mark a Paul wedi recordio a pherfformio gyda'i gilydd yn y grwp Y Ffyrc.
Emyr Williams
Newyddion
Sesiynau Newydd!
Chwefror 22, 2006
Talu Teyrnged i Tich
Mehefin 21, 2005
Oes gen ti dalent?
Mawrth 30ain, 2005
Erthyglau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r ±«Óãtv
Cysylltiadau Rhyngrwyd
±«Óãtv Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.