±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
cantorion
Mark Roberts a Catatonia
Mark Roberts

Ganwyd: 1967

Magwyd: Llanrwst

Addysg: Ysgol Uwchradd Llanrwst


Lleisydd y Cyrff, cyfansoddwr ac un o sylfaenwyr Catatonia

Mae Mark Roberts bellach yn gynhyrchydd cerddorol mawr ei barch ond mae'n fwy adnabyddus fel un o sefydlwyr Catatonia, un o'r bandiau mwyaf llwyddiannus i ddod allan o Gymru yn y nawdegau.

Yn fab i gigydd o Lanrwst, daeth Mark i amlygrwydd gyntaf yn y sîn roc Gymraeg fel prif leisydd y grŵp arloesol Y Cyrff, a ffurfiodd pan oedd yn dal yn yr ysgol.

Daeth Y Cyrff yn un o brif fandiau'r sîn Gymraeg gan gyhoeddi sawl albym lwyddiannus fel Y Testament Newydd a Mae Ddoe yn Ddoe - sy'n cynnwys un o'u caneuon mwyaf adnabyddus o bosib: Cymru, Lloegr a Llanrwst. Llawenydd Heb Ddiwedd oedd eu halbym olaf ac fe chwalodd y band ddechrau'r nawdegau.

Symudodd Mark i Gaerdydd lle gwnaeth gwrdd â Cerys Matthews. Daeth y ddau yn gariadon ac fe aned Catatonia gyda Cerys yn lleisydd, Owen Powell, gynt o'r Crumblowers, ar y gitâr gyda Mark, Paul Jones, cyn aelod arall o'r Cyrff ar y bâs ac Aled Richards ar y drymiau.

Yn 1993, arwyddodd Catatonia i gwmni Crai ac fe enwyd eu sengl gyntaf For Tinkerbell yn sengl yr wythnos yn NME. Fe gawson nhw fwy o sylw gyda'u sengl nesaf, You've Got a Lot to Answer For cyn rhyddhau albwm, Way Beyond Blue yn 1996.

Ond y sengl Mulder & Scully (1998) ddaeth â'r grwp i'r brig go iawn, ac aeth eu halbwm, International Velvet, i rif un yn siartiau Prydain yr un flwyddyn. Daeth mwy fyth o sylw i'w rhan gyda'r sengl Road Rage ond fe chwalodd perthynas Mark a Cerys yn ystod y cyfnod yma. Ar ôl rhyddhau Equally Cursed and Blessed (1999) a Paper Scissors Stone yn 2001, fe chwalodd y grŵp hefyd ac aeth yr aelodau i gyd ar eu liwt eu hunain.

Heddiw mae Mark yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac yn ogystal â gwneud gwaith cynhyrchu i fandiau eraill, ffurfiodd y Sherbert Antlers gyda'i hen ffrind Paul Jones a John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý