±«Óãtv

Y Cyrff

Y Cyrff

Un o fandiau mwyaf dylanwadol y sîn gerddorol Gymraeg erioed.

Ffurfiwyd y band 'indie' Gymraeg poblogaidd yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst yn ystod yr 80au cynnar.

Bu'r band yn gigio'n gyson ar draws gogledd Cymru a phan ryddhawyd Pum Munud ac Yr Haint yn senglau, tyfodd poblogrwydd y grŵp - a sylw'r cyfryngau Cymraeg.

Yna, o dan oruchwyliaeth a chymorth eu hathro Tony Schiavone, llwyddodd yr hogiau i ryddhau casét o'r enw Dan y Cownter a werthodd fel tân.

Roedd eu poblogrwydd yn amlwg ac yn ystod 1987 ymunodd y grŵp â label Sain gan ryddhau EP chwe thrac o'r enw Y Testament Newydd.

Yn 1988 gadawodd y drymiwr Dylan Hughes y band er mwyn ymuno â grŵp Yr Anrhefn, ac yn ei le doth Mark Kendall.

Yn ystod yr un flwyddyn rhannodd y band lwyfan gyda The Alarm gan berfformio o flaen 1,500 o bobl ym Mae Colwyn.

Penderfynodd y grŵp i ryddhau EP arall o'r enw Y Cyrff, ond y tro hwn o dan eu label eu hunain. Yr EP hwn oedd yn cynnwys y trac 'Cymru, Lloegr a Llanrwst sydd bellach yn cael ei ystyried yn glasur o anthem.

Doth y label Ankst yn gartref recordio i'r band yn 1989 a llwyddwyd i boblogeiddio enw'r band y tu allan i ffiniau Cymru fach.

Yn 1991 rhyddhaodd y band eu LP gyntaf Llawenydd Heb Ddiwedd a dderbyniodd ganmoliaeth fawr yng Nghymru a thu hwnt.

Er holl lwyddiant Y Cyrff, gwahanodd y band yn 1992. Rhyddhawyd 'Mae Ddoe yn Ddoe', sy'n cynnwys goreuon y band o'r 80au hyd nes iddynt wahanu.

Wedi hynny, aeth dau aelod o'r Cyrff - Mark Roberts a Paul Jones - ymlaen i brofi enwogrwydd byd-eang gyda Catatonia.

Yn 2005, rhyddhawyd cyfrol adolygol o waith Y Cyrff, sef Atalnod Llawn 1983-9. Cynhalwyd tair gig i ddathlu'r achlysur yng Nghaerdydd, Llundain ac yn Llanrwst gydag artistiaid megis Kentucky AFC, Alun Tan Lan, Dan Amor a Jen Jeniro yn chwarae caneuon Y Cyrff.

Roedd yn ddigwyddiad melys ac eto'n chwerw, gan fod y digwyddiad wedi ei gynnal bron pum mlynedd ers marwolaeth gitarydd Y Cyrff, Barry Cawley.

Ffion Angharad Williams

Newyddion

Sesiynau Newydd!

Chwefror 22, 2006

Gig Llanrwst ar C2

Hydref 1, 2005

Gig Llanrwst ar C2

Hydref 1, 2005

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.