±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Ystradgynlais

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Diwedd ar ddogni wedi pedair blynedd ar ddeg.
  • Sefydlu Awdurdod Teledu Annibynnol.
  • Elvis Presley yn recordio ei record gyntaf: That's All Right, Mama.
  • Darllediad cyntaf Under Milk Wood gyda Richard Burton.
  • Y Pab yn rhybuddio y gallai teledu fygwth bywyd teuluol.

Archdderwydd               Cynan

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Yr Argae'
Enillydd: John Evans
Beirniaid: Gwenallt, Meuryn, Edgar Phillips
Cerddi eraill: Yr oedd gan Caradog Prichard ac Euros Bowen awdlau afrwydd iawn yn y gystadleuaeth.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

'Roedd John Evans yn sôn am yr argae a foddodd bentref Llanwddwyn yn Sir Drefaldwyn yn wythdegau'r ganrif flaenorol er mwyn cyflenwi Lerpwl â d^wr. 'Doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigon bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos. Ymhen ychydig flynyddoedd byddai un o bentrefi bychain Cymreiciaf Meirionnydd, pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, hefyd yn cael ei foddi i gyflenwi Lerpwl â d^wr; ond ymhell cyn i neb glywed am fwriad y Llywodraeth i foddi unrhyw gwm neu ddyffryn yng Nghymru, cadeiriwyd John Evans am awdl broffwydol, er na fwriadwyd iddi fod yn broffwydol.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Y Bannau'
Enillydd: E. Llwyd Williams
Beirniaid: Pennar Davies, S. B. Jones, Alun Llywelyn-Williams
Cerddi eraill: Harri Gwynn, ac nid E. Llwyd Williams, oedd dewis Alun Llywelyn-Williams.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Pryddest debyg i awdl 'Y Graig', Rolant o Fôn, yn y modd y mae'n edrych yn ôl ar hynt y canrifoedd. Medrus ond heb fod yn arbennig.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Cyfrol o erthyglau 
Enillydd: O.E. Roberts ( Y G^wr o Ystradgynlais )

 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd:
Neb yn deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy