±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod     Rhosllannerchrugog

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Y Rwsiaid yn darganfod Auschwitz.
  • Cyrch ar Dresden gan 1200 o awyrennau; lladd 130,000 o bobl.
  • Mussolini yn cael ei ddal a'i saethu, a'i grogi gerfydd ei draed.
  • Milwyr Rwsia yn cyrraedd Berlin.
  • Milwyr yn darganfod erchylltra'r gwersylloedd mewn lleoedd fel Belsen a Buchenwald.
  • Hitler ac Eva Braun yn cyflawni hunanladdiad, a'r Almaen yn ildio.
  • Rwsia yn meddiannu hanner Yr Almaen, y lleng haearn yn disgyn.
  • Bom atomig yn disgyn ar Hiroshima ar Awst 6, a agasaki ar Awst 9.
  • Siapan yn ildio.
  • Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.
  • Ffurfio'r Cenhedloedd Unedig.
  • Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol a Clement Attlee yn Brif Weinidog.
  • Nye Bevan yn Weinidog Iechyd a James Griffiths yn Weinidog Insiwrans Cenedlaethol. Will Jones, A.S. Gorllewin Y Rhondda, oedd yr olaf i gael ei
    ethol yn ddiwrthwynebiad.
  • Ym mis Ionawr Lloyd George yn cael ei ddyrchafu'n Iarll ond yn marw yn 82 oed ym mis Mawrth.
  • Dywedodd Churchill mai ef oedd 'y Cymro mwyaf ers y Brenhinoedd Tuduraidd'. Sefydlodd y Wladwriaeth Les, arweiniodd Brydain drwy'r Rhyfel Mawr, a dinistriodd y Blaid Ryddfrydol.
  • Glowyr De Cymru yn cytuno i ffurfio'r NUM a dod â dyddiau'r 'Fed' i ben.
  • Ethol Gwynfor Evans yn Llywydd Plaid Cymru.

Archdderwydd               Crwys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Yr Oes Aur'
Enillydd: Tom Parry-Jones
Beirniaid: T. H. Parry-Williams. D. J. Davies, Dewi Morgan
Cerddi eraill: Mathonwy Hughes oedd yr ail.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

'Roedd yr awdl yn sôn am oes aur celfyddyd a gwarineb, ond ar ddiwedd y Rhyfel dechreuad yr Oes Oer ac nid yr Oes Aur a welwyd yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog. Yr oedd yn yr awdl lawer gormod o fenthyciadau o waith beirdd eraill, er bod ambell gwpled neu ddarn syfrdanol ynddi.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Bara' neu 'Coed Celyddon'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: T. Eirug Davies, David Jones, Iorwerth C. Peate
Cerddi eraill: Dilys Cadwaladr (Prifardd y Goron, 1953), G. J. Roberts (Prifardd y Goron, 1947), G. Gerallt Davies

Y Fedal Ryddiaith

Ni ddyfarnwyd neb yn deilwng ym 1945 am waith gorau 1942 ´ 1944.
 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd: Neb yn deilwng

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy