±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Aberystwyth

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Dwy filiwn o ferched wedi dechrau gweithio yn y flwyddyn ddiwethaf.
  • T^y'r Cyffredin yn cymeradwyo gorfodi dynion sengl rhwng 18 a 41 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.
  • Cychwyn Brwydr y Somme.
  • Y tanc yn ymddangos am y tro cyntaf.
  • Brwydr Coed Mametz.
  • 650,000 o filwyr y Cynghreiriaid wedi marw ym Mrwydr y Somme erbyn diwedd Tachwedd.
  • Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr.
  • Cychwyn y cylchgrawn heddychlon Y Deyrnas (a barhaodd hyd 1919).
  • Ysgrifennodd W. J. Gruffydd mai'r cylchgrawn hwn oedd 'un o'r achosion cryfaf na chollodd Cymru ei henaid yn hollol yn nydd y gwallgofrwydd mawr'.
  • Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn.
  • Dienyddio James Connolly, Roger Casement a chenedlaetholwyr Gwyddelig eraill.
  • Erthygl yn The Welsh Outlook yn rhagweld y byddai'r iaith Gymraeg wedi marw o'r tir erbyn 1950.
  • 24 o daleithiau'r UDA yn gwahardd gwerthu alcohol.
  • Llofruddio Rasputin.
  • Jimmy Wilde yn ennill pencampwriaeth pwysau pryf y byd.

Archdderwydd               Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Ystrad Fflur'
Enillydd: John Ellis Williams
Beirniaid: John Morris-Jones, J. J. Williams, Berw
Cerddi eraill: Hedd Wyn oedd yr ail, ond iddo ef y dymunai J. J. Williams roi'r Gadair.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Gofynnwyd i'r beirdd rodio Afallon yng nghanol Armagedon y Rhyfel. 'Ystrad Fflur' oedd testun yr awdl a John Ellis Williams, un o fyfyrwyr John Morris-Jones, oedd y bardd buddugol. Yn ail iddo, ac yn gyntaf deilwng gan J. J. Williams, 'roedd bardd ifanc cymharol ddiaddysg ac anadnabyddus o'r enw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn. Awdl anarbennig oedd yr awdl fuddugol. Yr oedd awdl Hedd Wyn yn tra rhagori arni, a bu llawer o feio ar John Morris-Jones a Berw am y camddyfarnu. Dangosodd J. J. Williams yr awdlau i T. Gwynn Jones cyn yr Eisteddfod a chytunai Gwynn Jones mai awdl Hedd Wyn oedd yr orau.

Y Goron

Ni chynigiwyd Coron. 
Gofynnwyd am bedair telyneg a rhannwyd y wobr rhwng Gwili a Wil Ifan. 

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy