±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Jwdas Adolygiad o Jwdas
Adolygiad Siwan Davies o Lanybydder or pasiant Jwdas a sgriptiwd gan nan Lewis ac a berfformwiyd yn Theatr Felinfach ym Mawrth 2007.

Pan glywais fod perfformiad o'r pasiant hwn yn mynd i gael ei gyflwyno yn Theatr Felin-fach ar Fawrth 15fed, dyma ffonio am docynnau ar unwaith, oherwydd roedd y perfformiadau cyntaf nôl ym Mis Tachwedd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin wedi bod yn "instant sell-out".

Mrs Nan Lewis fu wrthi'n sgriptio a chynhyrchu'r pasiant teimladwy hwn, tipyn o sialens gyda chast o ryw gant o bobl. Roedd yr amrediad mewn oedran yn eang iawn hefyd; o blant ysgol gynradd i oedolion (gyda'r mwyafrif o ddynion wedi tyfu barf yn arbennig ar gyfer y perfformiadau a rhai o'r rheini yn wyn fel yr eira!)

Cafwyd golygfeydd lliwgar o ran gwisgoedd a dawnsio hwyliog. Ychwanegwyd at y canu trwy gael band byw ar ochr y llwyfan, oedd yn chwarae gyda'r canu ac yn creu'r naws rhwng golygfeydd.

Hoffais yn arbennig yr unawdau gan ddau aelod ifanc o'r cast yn chwarae'r Iesu ifanc a Miriam ifanc sef "Mi af at fy mhobl rhyw ddydd" a "Dal fy llaw bob yr awr". Roedd y ddau yma yn hollol gartrefol ar lwyfan a'r gynulleidfa yn amlwg wedi ymserchu'n llwyr ynddynt ac wedi dotio ar eu naturioldeb.

Erys sawl golygfa bwerus yn y cof gan gynnwys hiwmor y plant yn portreadu casglu'r defaid (a'r hwrdd) i'r gorlan tra bo'r bugail yn chwilio am yr un oedd ar goll. Teimlwyd poen Salome wrth sylweddoli bod ei merch fach Dorcas yn dioddef o'r gwahanglwyf, a nes ymlaen, y gobaith o gael ei gwella gan Iesu.

Daeth yn amlwg bod Jwdas yn credu taw ei ddyletswydd oedd i "arwain Ef fel Oen I'r lladdfa" a golygfa bwerus dros ben oedd gweld y cwdyn arian yn llithro ar draws y llwyfan ac yn glanio wrth draed Jwdas. Roedd y llifoleuo coch yma yn gefndir trawiadol i'r gwregys goch fu'n pwysleisio arwahanrwydd Jwdas trwy gydol y golygfeydd, pob un o'r un ar ddeg disgybl arall yn gwisgo gwregys felen.

"Pwy oedd Jwdas Iscariot?" Credaf fod nifer o bobl wedi gadael y theatr wedi dysgu peidio bod mor gyflym i farnu. Dyma berfformiad ardderchog yn dangos cymdogaeth eang wedi ymuno i greu campwaith o basiant!

Siwan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Mwy am Jwdas
  • Mwy gan Siwan Davies

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý