±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rhai o actorion Clod y Cledd Dolur a Digrifwch yn Clod y Cledd
Cyflwynwyd gwledd o gerddoriaeth a drama yn Theatr Felin-fach ar ddiwedd Mawrth 2006 gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw a Chôr Cardi-Gân yn eu perfformiad grymus o Clod Y Cledd.
Wedi bod yn rhan o'r perfformiad cyntaf un o Clod Y Cledd a gomisiynwyd gan CIC (Cwmni Ieuenctid Ceredigion) yn ôl yn 1989 roeddwn yn edrych ymlaen at weld yr addasiad o'r ddrama gerdd hon ac ni chefais fy siomi.

Portreadwyd cymeriadau Gwilym a Mari mewn modd sensitif a chredadwy gan Caryl Glyn a Rhydian Rees fel mam a mab yn ceisio dygymod ag emosiynau annifyr a dwfn a ddaw i'r wyneb yn sgîl dyfodiad yr Ail Ryfel Byd tra cafwyd perfformiad gwych oddi wrth Catrin Williams fel Elen - merch ifanc yn ceisio dygymod â'r gwrthdaro o fewn ei chydwybod ei hun rhwng caru milwr a bod yn heddychwraig.

Drama ddolurus yw Clod y Cledd sy'n amlygu'r boen a'r gwrthdaro emosiynol sydd yn codi o fewn cymuned glos yn sgîl rhyfel ac fel y mae rhyfel yn medru chwalu perthynas dyn, nid yn unig efo'i elyn, ond hefyd efo'i gymydog a'i gariad.

Er difrifoldeb prif thema Clod y Cledd, sef rhyfel, roedd cymeriadau Sam a bois yr ±«Óãtv Guard yn sicrhau digon o gyfle i'r gynulleidfa chwerthin yn iach hefyd. Roedd dawn Huw Emlyn fel Sam i ddifyrru'r gynulleidfa yn amlwg tra roedd Côr Cardi-gân yn wefreiddiol wrth helpu i adrodd stori'r ddrama gyda chaneuon ag emynau grymus.

Roedd y ffilm a ddangoswyd ar ddiwedd y ddrama yn ffurf syml ag effeithiol o'n hatgoffa mae poen a dioddefaint yn hytrach na chlod sydd yn eistedd llaw yn llaw a chledd.

Hwn yw'r ail gyflwyniad i mi ei weld gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw yn ddiweddar yn dilyn y ddrama Linda Gwraig Waldo, ac mae'n rhaid i mi ganmol safon y cynhyrchiad a'r rheiny a gymerodd ran ynddo i'r eithaf.

Diolch yn fawr Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw - daliwch ati gyda'r gwaith da!

Adolygiad gan Linda Jones o Landysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ±«Óãtv Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý