±«Óătv

Beth yw mudo?

Darlun o dri o bobl gyda chêsys - un ohonynt yn ysgwyd llaw â pherson arall.

Mudo yw symudiad pobl o un lle i'r llall. Mudwyr yw’r gair am y bobl hyn. Byddan nhw’n symud i dref neu ddinas arall, neu hyd yn oed i wlad arall.

Pam fod pobl yn mudo?

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn dewis mudo. Efallai y byddan nhw'n symud i gael:

  • gwell addysg ac ysgolion
  • mwy o gyfleoedd gwaith
  • hinsawdd gwell
  • ardal fwy diogel i fyw
Darlun o dri o bobl gyda chêsys - un ohonynt yn ysgwyd llaw â pherson arall.

Enghreifftiau o fudo

Symudodd nifer fawr o bobl o un lle i'r llall i ddod o hyd i waith yn ystod y . Fe wnaethon nhw symud o gefn gwlad i ddinasoedd fel Manceinion a oedd yn tyfu’n gyflym ac i ardaloedd diwydiannol yng Nghymru.

O ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen dechreuodd Eidalwyr, a oedd wedi mudo i Gymru i chwilio am fywyd gwell, agor caffis, siopau hufen iâ a siopau pysgod a sglodion. Mae llawer o'r rhain i'w gweld hyd heddiw.

Daeth mudwyr o'r Caribî i Brydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod prinder gweithwyr. Empire Windrush oedd y llong fawr gyntaf i ddod â phobl o Jamaica yn 1948. Cymerodd llawer ohonyn nhw swyddi ar y systemau trafnidiaeth. Aeth y merched hefyd i weithio fel nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd.

Fideo - Mudo a ffoaduriaid

Ffoaduriaid

Mae ffoaduriaid yn fudwyr sy'n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi. Mae'n rhaid iddyn nhw ffoi oherwydd:

  • trychinebau naturiol
  • diffyg bwyd a newyn
  • rhyfel a gwrthdaro

Fel arfer mae'n rhaid i ffoaduriaid adael y rhan fwyaf o'u pethau ar Ă´l - eu ffrindiau, eu heiddo a phopeth sy'n annwyl iddyn nhw - ond maen nhw'n gwneud hynny, er mwyn bod yn ddiogel.

Bydd rhai ffoaduriaid yn mynd i wersylloedd ffoaduriaid mewn ardal neu wlad sy’n agos at lle maen nhw’n byw. Yn y pen draw mae rhai yn symud i wledydd newydd ac anghyfarwydd lle dydyn nhw ddim yn cael eu derbyn gan bawb. Mae rhai yn eu barnu am eu bod nhw’n ymddangos yn wahanol neu'n ofnus.

Ffoaduriaid o Syria

Map syml yn dangos llwybrau ffoaduriaid o Syria.

Yn 2011, fe ddechreuodd rhyfel cartref yn Syria, pan ddechreuodd pobl y wlad ymladd yn erbyn ei gilydd. Roedd y wlad yn lle peryglus iawn i fyw. Mae miliynau o Syriaid wedi cael eu gorfodi i symud - i ran arall o Syria neu i'r gwledydd sydd nesaf ati.

Ym mis Mawrth 2023 dywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fod 14 miliwn o Syriaid wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi. Mae llawer ohonyn nhw mewn gwledydd cyfagos fel Twrci, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Irac a’r Aifft.

Mae'r ffoaduriaid yn wynebu llawer o broblemau. Mae’r amodau byw yn wael yn y gwersylloedd ffoaduriaid gorlawn a dydyn nhw ddim yn gwybod pryd y gallan nhw fynd yn ôl i Syria.

Map syml yn dangos llwybrau ffoaduriaid o Syria.

Sut gallwn ni helpu ffoaduriaid?

Mae ffoaduriaid yn cyrraedd y DU bob blwyddyn. Er nad yw pawb yn hapus i’w gweld nhw, mae pobl eraill yn eu croesawu ac maen nhw'n gweld y mwyafrif o ffoaduriaid fel pobl gyffredin, sydd angen help a chefnogaeth. Maen nhw’n ceisio eu helpu mewn sawl ffordd fel:

  • rhoi i elusennau sy'n darparu cymorth i bobl a gwledydd mewn angen
  • rhoi croeso i ffoaduriaid trwy siarad â nhw, neu gynnig cefnogaeth
  • rhoi eitemau fel dillad, teganau a llyfrau i siopau elusennol sy'n helpu ffoaduriaid

Gweithgareddau

1. Tasg ysgrifennu creadigol

Cofnod dyddiadur

Dychmyga dy fod yn ffoadur. Ysgrifenna gofnod dyddiadur yn disgrifio sut rwyt ti wedi gorfod gadael dy wlad dy hun oherwydd perygl i ti a dy deulu. Canolbwyntia ar dy daith i gartref newydd, neu dy brofiadau ar Ă´l i ti gyrraedd.

Dylai dy waith:

  • gael ei ysgrifennu yn y person cyntaf, ac yn yr amser gorffennol
  • defnyddio iaith anffurfiol a naturiol, fel petaet ti yn siarad â dy ddyddiadur
  • cynnwys ansoddeiriau sy'n disgrifio dy deimladau
  • disgrifio digwyddiadau allweddol sy'n cael effaith ar dy fywyd

2. Dewis pum eitem

Pe bai'n rhaid i ti adael dy gartref yfory, a dy fod ond yn cael pacio pum eitem, beth fyddet ti'n ei ddewis, a pham?

More on Daearyddiaeth

Find out more by working through a topic