±«Óãtv

Beth yw gwrthdaro?

Gwrthdaro yw pan fydd dwy ochr yn dadlau neu anghytuno am rywbeth. Yn aml, mae’n digwydd achos bod gan bobl neu wledydd syniadau gwahanol i'w gilydd neu achos eu bod nhw'n credu mewn pethau gwahanol.

Mae'r gwrthdaro yn gallu bod yn frwydr neu yn ymladd. Math arall o wrthdaro yw pan fydd pobl yn teimlo'n gryf am y syniadau a'r credoau gwahanol sydd gan bobl eraill.

Beth yw gwrthdaro dros adnoddau?

Mae yna lawer o enghreifftiau o wrthdaro wedi bod ar hyd y canrifoedd. Maen nhw wedi digwydd am lawer o resymau gwahanol.

Adnoddau ydy pethau sydd yn ddefnyddiol i ni - ac mae hyn yn eu gwneud yn werthfawr. Maen nhw'n cynnwys pethau fel tir, metelau prin, olew a dŵr.

Mae gwrthdaro dros adnoddau daearyddol yn digwydd pan mae dwy ochr eisiau yr un adnoddau gwerthfawr. Mae rheoli adnoddau fel hyn yn gallu gwneud pobl a gwledydd yn bwerus a chyfoethog. Dyma pam mae hyn yn gallu achosi gwrthdaro - a pobl llai ffodus sydd yn dioddef fel arfer.

Fideo - Gwrthdaro dros adnoddau

Rhyfeloedd y Penfras (The Cod Wars)

Map yn dangos Gwlad yr Iâ a Phrydain.

Yn 1958, datblygodd sefyllfa ryfedd rhwng Y Deyrnas Unedig a Gwlad yr Iâ. Roedd y ddwy wlad yn dadlau a brwydro dros adnodd arbennig iawn… pysgod! Dechreuodd y broblem pan benderfynodd Gwlad yr Iâ ymestyn yr ardal lle roedd eu pysgotwyr nhw - a neb arall - yn cael pysgota. Roedd llawer iawn o bysgod yn y rhan yma o'r môr a nawr doedd pysgotwyr o'r DU ddim yn cael mynd yno.

Gwnaeth y Deyrnas Unedig ddim talu sylw i'r rheolau newydd a chario ymlaen i bysgota yno. Achosodd hyn llawer o ddadlau rhwng pysgotwyr y ddwy wlad. Roedd llongau wedi bwrw mewn i'w gilydd, gwnaeth un llong saethu at un arall a cafodd llongau y Llynges Frenhinol eu danfon i amddiffyn pysgotwyr y DU hyd yn oed.

Yn y diwedd, ar ôl blynyddoedd o wrthdaro, daeth y Deyrnas Unedig a Gwlad yr Iâ i gytundeb ym mis Mehefin, 1976. Roedd pysgotwyr o'r DU ond yn cael dal ychydig o bysgod o’r moroedd o amgylch Gwlad yr Iâ. Collodd llawer ohonyn nhw eu swyddi oherwydd hyn.

Map yn dangos Gwlad yr Iâ a Phrydain.

Tryweryn

Graffeg yn dangos cofeb 'Cofiwch Dryweryn'.

Roedd boddi Cwm Tryweryn, ger y Bala, yn wrthdaro rhwng y pwerus a'r diniwed. Ar un ochr roedd dinas Lerpwl a oedd eisiau adeiladu cronfa ddŵr newydd i gyflenwi'r ddinas. Ar yr ochr arall roedd y bobl oedd yn byw ym mhentref bach Capel Celyn a fyddai'n diflannu o dan ddŵr y gronfa newydd.

Ceisiodd protestwyr i arafu ac atal y gwaith adeiladu, ac roedd yna anghytuno mawr rhwng pobl Capel Celyn a Lerpwl. Ond, aeth y gwaith yn ei flaen.

Yn 1965, diflannodd Capel Celyn o dan y dŵr. Cyn hynny, roedd 70 o bobl yn byw yno, yn rhan o gymuned fach a thawel, ble roedd capel, mynwent, ysgol a swyddfa bost. Cafodd y pentrefwyr y cyfle i symud beddau pobl oedd wedi eu claddu yn y fynwent cyn i’r pentref cael ei foddi.

40 mlynedd yn ddiweddarach, yn 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl am yr anghyfiawnder a phoen a achoswyd wrth foddi'r pentref bach yng Nghymru. Ac mae pobl yn dal i gofio Tryweryn hyd heddiw ac yn dal i deimlo'n gryf am beth ddigwyddodd.

Graffeg yn dangos cofeb 'Cofiwch Dryweryn'.

Gweithgareddau

1. Rhoi digwyddiadau mewn trefn

2. Tasg ysgrifennu creadigol

Ysgrifenna lythyr oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl at bentrefwyr Capel Celyn yn ymddiheuro am beth wnaethon nhw.

More on Daearyddiaeth

Find out more by working through a topic