±«Óătv

Pwy oedd y Rhufeiniaid?

Roedd y Rhufeiniaid yn byw dros 2,000 o flynyddoedd yn ĂŽl, felly sut ydyn ni gwybod cymaint amdanyn nhw?

Mae llawer o'r wybodaeth sydd gennym ni am y Rhufeiniaid yn dod o lyfrau a dyddiaduron cafodd eu hysgrifennu ar y pryd. Hefyd, mae archeolegwyr - nhw ydy'r bobl sy'n cloddio yn y pridd i gael hyd i bethau hynafol i'n helpu i ddeall hanes yn well - wedi cael hyd i lawer o adfeilion a hen bethau gadawodd y Rhufeiniaid ar eu holau.

Mae rhain yn cynnwys:

  • dysglau a phowlenni
  • gemwaith
  • addurniadau tĆ·
  • arfau
  • cerbydau
  • cerrig
  • adfeilion tai

Teithiodd y Rhufeiniaid o'r Eidal i Gymru er mwyn tyfu'r ymerodraeth Rufeinig.

Ystyr ymerodraeth ydy tiroedd newydd sy'n cael eu llywodraethu gan wlad arall.

Roedd y Rhufeiniaid eisiau teyrnasu dros nifer o wledydd a thiroedd eraill a'u rheoli nhw o Rufain. Ac roedd hyn yn cynnwys Prydain a Chymru.

Fideo - Y Rhufeiniaid

Dyfodiad y Rhufeiniaid i Gymru

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid yng Nghymru tua 49 OC.

Celtiaid oedd yn byw yng Nghymru ar y pryd. Brwydrodd y Celtiaid yn galed yn erbyn y Rhufeiniaid. Ond ar ĂŽl 30 o flynyddoedd, llwyddodd y Rhufeiniaid i oresgyn y Celtiaid.

Un ffordd wnaeth y Rhufeiniaid lwyddo i gadw trefn ar y Celtiaid oedd drwy adeiladu caerau Rhufeinig ar draws y wlad.

Adeiladon nhw un gaer yng Nghaernarfon.

Segontium oedd yr enw roddodd y Rhufeiniad ar Gaernarfon. Enw'r llwyth Celtaidd lleol oedd yr Ordofigiaid.

Darlun o Segontium
Image caption,
Llun yn dangos sut byddai Segontium wedi ymddangos adeg y Rhufeiniaid

Diwylliant

Rhai o hoff fwyd a diod y Rhufeiniaid: gwin, olew olewydd, cennin, grawnwin

Roedd porthladdoedd yn llefydd pwysig i'r Rhufeiniaid er mwyn dod Ăą bwyd o dramor i mewn i Gymru. Roedden nhw hefyd yn allforio nwyddau o Gymru i wledydd tramor.

Rydym ni'n gwybod bod y Rhufeiniaid yn hoffi'r bwyd a'r diod canlynol a'u bod wedi dod Ăą nhw i Gymru:

  • gwin
  • olew olewydd
  • cennin
  • grawnwin
Rhai o hoff fwyd a diod y Rhufeiniaid: gwin, olew olewydd, cennin, grawnwin

Roedd edrychiad yn bwysig iawn i'r Rhufeiniaid. Roedd hyn yn golygu:

  • gwisgo dillad smart
  • addurno'u tai
  • cadw gerddi taclus a glĂąn a'u defnyddio fel llefydd i ymlacio

Roedd y Rhufeiniaid yn hoffi gwisgo toga, ac weithiau roedden nhw'n gwisgo penwisg hefyd. Roedd toga yn ddilledyn gwyn wedi ei wneud o wlĂąn ac yn edrych yn debyg i gynfas gwely. Roedd y Rhufeiniaid yn gwisgo toga dros diwnig syml.

Dynion oedd fel arfer yn gwisgo toga, er bod rhai merched yn arfer Ăą gwneud hefyd.

Enghraifft o wisgoedd y Rhufeiniaid

Yn ddiweddarach, roedd yn well gan ferched wisgo stola, sef ffrog hir wedi ei phlethu. Roedd stola yn gallu bod yn lliwgar - coch, melyn neu las. Roedd merched yn clymu'r ffrog at ei gilydd gyda gwregys, rhubannau neu dlws, fel broets.

Roedd y Rhufeiniaid yn credu bod iechyd yn bwysig iawn, ac roedden nhw'n hoff iawn o gadw eu hunain yn ffit, yn iach ac yn lĂąn.

Yng Nghaerllion hyd heddiw, mae modd gweld olion baddondai moethus cyhoeddus y Rhufeiniaid. Mae hyd yn oed natatio yno, sef pwll nofio awyr agored.

Roedd cadw'n heini ac yn iach yn golygu bod rhai Rhufeinwyr yn gallu byw am amser hir. Cafwyd hyd i garreg fedd Rufeinig gyda'r llythyren C arni. Mae'r C yn sefyll am y rhif 'cant' - felly dyna ddangos oed y person fu farw.

Iaith y Rhufeiniaid oedd Lladin.

Does neb yn siarad Lladin heddiw. Mae'r iaith wedi marw ers canrifoedd. Ond hyd heddiw, mae dylanwad yr iaith Ladin i'w gweld mewn nifer o ieithoedd eraill, gan gynnwys yn Gymraeg.

Dyma rai enghreifftiau:

  • fossa > ffos
  • candela > cannwyll
  • liber > llyfr
  • ecclesia > eglwys
  • stabellum > ystafell
  • scola > ysgol
  • fenestra > ffenestr
  • tristis > trist
  • dolor > dolur (gair arall am ‘poen’)
  • pons > pont

Arwain y ffordd

Y Rhufeiniaid oedd yn gyfrifol am osod seilwaith yng Nghymru. Roedden nhw’n dda iawn am adeiladu ffyrdd hir a syth iawn. Cyn hyn, llwybrau pridd, llawn mwd a cherrig oedd yng Nghymru.

Adeiladodd y Rhufeiniaid ffordd o Gaernarfon i Gaer. Hefyd mae Sarn Helen, yn rhedeg o Gaernarfon i Geredigion, ac yna i'r dwyrain i Aberhonddu.

Roedd y ffyrdd hir a syth yma yn ffordd effeithiol iawn o symud milwyr ar draws y wlad.Roedd ffyrdd gwych ymhlith y pethau pwysicaf gafodd eu gadael gan y Rhufeiniaid ar ĂŽl iddyn nhw adael.

Caerllion

Roedd un o'r ffyrdd Rhufeinig yn arwain i mewn i dref Caerllion yn ne Cymru. Roedd amffitheatr anhygoel yng Nghaerllion. Roedd yr amffitheatr yn dal bron i 6,000 o bobl. Dyma ble oedd y milwyr Rhufeinig yn gwylio gladiatoriaid yn ymladd yn erbyn ei gilydd ar gyfer adloniant.

Yng Nghaerllion hefyd roedd:

  • caer trawiadol
  • pencadlys
  • marchnad
  • porthladd
  • ysbyty
  • ysguboriau
  • meysydd ymarfer
Caerllion yn ne Cymru
Image caption,
Mae'r olion i'w gweld yn y dref hyd heddiw
Map yn dangos Bro Morgannwg a lleoliad Llandochau, Llanilltud Fawr a ThrelĂĄi

Brithwaith

Ym Mro Morgannwg, cafodd nifer o filĂąu a ffermydd mawr eu codi gan ffermwyr cyfoethog, er enghraifft yn nhrefi:

  • °Ő°ù±đ±ôĂĄŸ±
  • Llandochau
  • Llanilltud Fawr

Yno, cafodd cnydau newydd eu cyflwyno i Gymru, er engraifft:

  • afalau
  • ceirch
  • moron
  • cennin

Ysytr fila yw tĆ· mawr crand. Yn y filĂąu hyn roedd baddonau, gwres canolog a brithweithiau Rhufeinig nodweddiadol. Gair arall am frithwaith yw mosaig. Patrwm neu lun yw brithwaith neu fosaig, sydd wedi ei wneud o ddarnau bach o gerrig neu wydr.

Map yn dangos Bro Morgannwg a lleoliad Llandochau, Llanilltud Fawr a ThrelĂĄi

Y Rhufeiniaid yn gadael Cymru

Mae'n debyg fod y Rhufeiniaid wedi gadael Prydain erbyn 410 OC.

Felly, ar ĂŽl 400 o flynyddoedd, roedd ymerodraeth y Rhufeiniaid wedi dod i ben.

Cwis - Gwir neu gau?

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Cymraeg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg

Cymraeg 8-11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Hanes

Find out more by working through a topic