±«Óătv

Pwy oedd y Tuduriaid?

Teulu brenhinol oedd y Tuduriaid a oedd yn teyrnasu ym Mhrydain rhwng 1485 i 1603. Eu henwau a threfn teyrnasu oedd:

  • Harri VII – 1485-1509
  • Harri VIII – 1509-1547
  • Edward VI – 1547-1553
  • Mari I – 1553-1558
  • Elisabeth I – 1558-1603

Wyddost ti?

Fe wnaeth Yr Arglwyddes Jane Grey deyrnasu am naw diwrnod yn 1553. Roedd Jane yn or-wyres i Harri VII trwy ei ferch ieuengaf, Mari. Edward VI dewisodd Jane i fod yn frenhines ar ôl iddo farw oherwydd doedd e ddim eisiau i'w hanner chwaer, Mari, i deyrnasu am ei bod hi’n Gatholig. Er hynny, Mari ddaeth yn frenhines a chafodd Jane ei dienyddio. Nid yw pawb yn ystyried Yr Arglwyddes Jane Grey fel un o deulu’r Tuduriaid.

Rhyfeloedd y Rhosynnau

Cyn i Harri Tudur ddod yn frenin roedd yn rhaid iddo ennill y goron oddi wrth y Brenin Rhisiart III. Llwyddodd i wneud hyn ym Mrwydr Maes Bosworth yn 1485 ar ddiwedd rhyfel cartref gwaedlyd o'r enw Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Rhyfel rhwng dau deulu oedd Rhyfeloedd y Rhosynnau - sef Teulu'r Lancastriaid (Harri Tudur) a Theulu'r Iorciaid (Richard III). Rheswm y brwydro oedd bod y ddau deulu eisiau'r goron.

Ond o ble ddaeth yr enw ar y rhyfel?

Roedd Teulu'r Lancastriaid yn cael ei gynrychioli gan arwydd o rosyn coch. Roedd Teulu'r Iorciaid yn cael ei gynrychioli gan rosyn gwyn.

Rhosyn coch (Lancastriaid) ar y chwith a rhosyn gwyn (Iorciaid) ar y dde

Brwydr Maes Bosworth (1485)

Yn ystod Brwydr Maes Bosworth, llwyddodd Harri i orchfygu Rhisiart III gyda help gan filwyr o Gymru.

Roedd gan Harri Tudur ffrindiau o bob cwr o Gymru - wedi'r cwbl, cafodd ei eni yng Nghastell Penfro a chafodd ei fagu yn Rhaglan. Roedd ei daid, Owain Tudur yn dod o Benmynydd ar Ynys Mon.

Ar Ă´l iddo ennill y goron, daeth Harri Tudur yn frenin ar Loegr. A dyma'r rhyfel cartref - Rhyfeloedd y Rhosynnau - yn dod i ben ar Ă´l 30 o flynyddoedd.

Priododd Harri Tudur, neu Harri VII fel roedd yn cael ei alw, Elisabeth. Roedd Harri yn perthyn i Deulu'r Lancastriaid ac Elisabeth yn perthyn i Deulu'r Iorciaid. Drwy briodi, llwyddodd Harri i uno'r ddwy ochr, a sicrhau ei fod yn cadw'r goron ar ei ben.

I ddangos yr undod pwysig yma, ychwanegodd Harri bump o betalau gwyn i ganol rhosyn coch er mwyn creu arwydd newydd sbon. Yr enw ar y rhosyn hwn oedd Rhosyn Tudur.

Llun yn dangos Rhosyn Tudur
Image caption,
Rhosyn Tudur

Fideo – Y Tuduriaid

Cymru a'r Tuduriaid

Roedd y Cymry wrth eu boddau pan enillodd Harri Tudur frwydr Maes Bosworth yn 1485 a chael ei goroni yn Harri VII, brenin Lloegr a Chymru. Wedi'r cyfan, roedd e o waed Cymreig.

O ganlyniad i hyn, roedd gan lawer o Gymry ddiddordeb mawr yn llys y Tuduriaid yn Llundain. Er mwyn "dod ymlaen yn y byd", yn aml bydden nhw'n Seisnigo eu henwau, er enghraifft:

  • Ieuan ap Dafydd > John Davies
  • Huw ap Hywel > Hugh Powell

Cymdeithas yn oes y Tuduriaid

Magu gwartheg a defaid ar eu stadau mawr oedd prif gynhaliaeth dosbarth y bonedd yn Nghymru yng nghyfnod y Tuduriaid. Byddai miloedd o wartheg yn cael eu gyrru i farchnadoedd Llundain. Byddai hyn yn dod â symiau mawr o arian parod i'r ffermwyr. Roedd defaid yn cael eu cadw yn bennaf er mwyn eu gwlân, ac roedd y diwydiant tecstilau yn llewyrchus.

O dan ddosbarth y bonedd roedd ffermwyr bychain yn crafu byw. Bydden nhw'n tyfu eu bwyd eu hunain, ac yn gwerthu'r ychydig oedd dros ben i dalu'r rhent, y degwm a threthi lleol.

Oddi tanyn nhw, roedd y dosbarth gweithiol yn byw'n gynnil ar fara, uwd, bara ceirch, caws a chwningod wedi'u potsian. Roedd prinder, heintiau a marwolaethau yn realiti bob dydd iddyn nhw.

Ar waelod yr ysgol gymdeithasol, roedd y tlodion a'r crwydriaid. Yn ystod oes y Tuduriaid, roedden nhw'n gwahaniaethu rhwng y tlawd oedd yn haeddu help - y rhai sâl a methedig - a'r rhai roedden nhw'n meddwl oedd yn ddiog a ddim yn haeddu help. Câi'r rhain eu cosbi trwy eu chwipio'n gyhoeddus a'u gyrru'n ôl i'r ardaloedd lle roedden nhw wedi cael eu geni.

Ond, er bod bywyd yn arw a chaled, roedd y werin yn dal i fwynhau arferion traddodiadol, er enghraifft:

  • dawnsio o gwmpas y fedwen Fai
  • chwarae bando a chnapan
  • chwarae sbort creulon fel ymladd ceiliogod
Hierarchaeth cymdeithas adeg y Tuduriaid

Bywyd bob dydd

Roedd bywyd yn wahanol iawn adeg y Tuduriaid.

Yng Nghymru, roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw yn y wlad mewn tai hir. Roedd y teulu yn byw ar yn ochr o'r tĹ· a'r anifeiliaid yn byw yr ochr arall.

Roedd gwaith tŷ yn galed. Doedd dim dŵr glân ar gael yn nhai pobl fel sydd heddiw. Felly roedd rhaid i bobl nôl dŵr o'r afon.

Roedd hynny'n golygu nad oedden nhw'n cael bath yn aml. A doedd dim toiledau. Roedd pobl yn defnyddio bwcedi ac roedd yn rhaid iddyn nhw dywallt eu gwastraff i ffwrdd tu allan i'w tai. Roedd hyn yn golygu bod pobl yn mynd yn sâl yn aml.

Ond newidiodd y Tuduriaid dai yn gyfan gwbl gyda rhywbeth pwysig iawn, sef y simnai.

Roedd bywyd llawer mwy pleserus pan ychwanegodd pobl simnai yn eu tai. Am y tro cyntaf, roedd tai cyffredin yn gallu cael eu hadeiladu gydag ail lawr. Roedd hynny'n golygu bod gan bobl mwy o le a phreifatrwydd i fyny grisiau, yn hytrach na byw ar ben ei gilydd ar y llawr gwaelod.

Y Deddfau Uno

Yn dilyn marwolaeth Harri VII, daeth ei fab Harri VIII yn frenin. Roedd Harri VIII yn enwog am gael chwech o wragedd:

  1. Catrin o AragĂłn - ysgariad
  2. Ann Boleyn - pendoriad
  3. Jane Seymour - bu farw tra roedd yn briod â Harri
  4. Ann o Cleves - ysgariad
  5. Catrin Howard - pendoriad
  6. Catrin Parr - bu farw ar Ă´l i Harri farw
Portread o Harri VIII
Image caption,
Harri VIII

Fel yr oedd yn marw, gofynnodd Harri Tudur i'w fab, Harri VIII, ofalu am Gymru, ac yn wir, yn ystod ei deyrnasiad (1509-47), digwyddodd newidiadau mawr yng Nghymru.

Roedd llawer o anhrefn yn y wlad ar y pryd, ond roedd Harri VIII angen trefn er mwyn gallu gwthio ei grefydd - Protestaniaeth - ar ei bobl.

Dyna pam y cafodd y Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr eu pasio gan senedd Lloegr yn 1536 ac 1543.

Pwrpas y Deddfau Uno oedd ceisio cael gwared â'r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad a sicrhau un iaith, yr un arferion a'r un weinyddiaeth.

Roedd y Deddfau yn:

  • rhannu Cymru yn 13 o siroedd
  • rhoi 27 o aelodau seneddol i Gymru
  • dileu'r hen gyfreithiau Cymreig a rhoi cyfreithiau Seisnig yn eu lle
  • sefydlu llysoedd i helpu cadw'r gyfraith a threfn
  • gwneud Saesneg yn unig iaith swyddogol Cymru

Roedd yn rhaid i bob llys barn yng Nghymru gynnal popeth drwy gyfrwng Saesneg. O hynny ymlaen, iaith eilradd, answyddogol fyddai'r Gymraeg yn ei gwlad ei hun.

Roedd crefydd yn bwysig iawn i bobl yn Oes y Tuduriaid, ond roedd llawer iawn o anghytuno ynglŷn â chrefydd.

Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, roedd cefnogwyr Protestannaidd wedi ceisio dileu'r Eglwys Gatholig o'r wlad.

Roedd rhaid i bawb fynd i'r un eglwys â'r Brenin neu'r Frenhines, neu roedden nhw'n cael eu harestio, eu carcharu neu eu lladd hyd yn oed.

Pan oedd y Protestant, Brenin Edward VI (1547-53), a'i chwaer Babyddol Mari Tudur (1553-8), yn teyrnasu, bu Lloegr yn symud o un ffydd i'r llall. Ond sefyll yn ei hunfan, heb gefnogi'r naill ffydd na'r llall yn llawn, wnaeth y Cymry.

Newidiadau mewn crefydd 1509-1603
Image caption,
Ystyr 'C' yw Catholig ac ystyr 'P' yw Protestaniaeth

Yng Nghymru yn Oes y Tuduriaid, roedd y rhan fwyaf y bobl yn siarad Cymraeg yn unig. Doedd dim llawer o bobl yn gallu siarad Saesneg yr adeg honno.

Roedd gwasanaethau yn yr Eglwys Gatholig yn cael eu cynnal drwy gyfrwng yr iaith Ladin. Ond dim ond pobl oedd wedi cael addysg oedd yn gallu siarad Lladin. Felly byddai dilyn gwasanaeth Catholig wedi bod yn amhosibl i'r rhan fwyaf o bobl.

Yn yr eglwysi bach plwyfol, Saesneg oedd iaith newydd y gwasanaethau, nid Lladin. Roedden nhw'n defnyddio'r Beibl a'r llyfr gweddi Saesneg newydd, ond doedd llawer o'r Cymry ddim yn gallu deall yr iaith.

Y Beibl Cymraeg

Llun yn dangos Beibl William Morgan
Image caption,
Beibl William Morgan

Mae 1588 yn flwyddyn bwysig yn hanes Cymru, oherwydd dyma pryd gafodd cyfieithiad William Morgan o'r Beibl i'r Gymraeg ei gyhoeddi gyntaf.

Yn Ă´l y sĂ´n, roedd Brenhines Elisabeth I yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hi felly yn credu y byddai'n beth da petai'r Cymry yn cael addoli yn eu hiaith eu hunain.

Cyfieithodd William Salesbury y Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Testament Newydd erbyn 1567.

Ond William Morgan oedd yr un i gwblhau cyfieithu'r holl Feibl i Gymraeg yn 1588.

Cyn hyn, yn 1536, doedd dim hawl defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd swyddogol, felly roedd cael Beibl yn Gymraeg yn beth da iawn i statws y Gymraeg. Yn wir, mae llawer yn credu mai dyma'r rheswm pam bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi hyd heddiw.

Llun yn dangos Beibl William Morgan
Image caption,
Beibl William Morgan

Diwedd Oes y Tuduriaid

Ffotograff du a gwyn o Elisabeth I
Image caption,
Elisabeth I

Ni phriododd Elisabeth I ac ni chafodd unrhyw blant, felly doedd ganddi ddim etifedd uniongyrchol. Doedd neb yn sicr pwy fyddai'n teyrnasu ar ol iddi farw.

Yn y diwedd, pan fu farw Elisabeth yn 1603, ei chefnder Iago I o'r Alban ddaeth yn frenin.

A dyma gyfnod y Tuduriaid yn dod i ben. Ymunodd yr Alban gyda Lloegr a Chymru. Roedd teulu brenhinol newydd nawr wedi dod i rym - y Stiwardiaid.

Ffotograff du a gwyn o Elisabeth I
Image caption,
Elisabeth I

Cwis – Y Tuduriaid

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Cymraeg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg

Cymraeg 8-11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Hanes

Find out more by working through a topic