±«Óătv

Pwy oedd y Celtiaid?

Rydym ni yng Nghymru yn ystyried ein hunain yn Geltiaid - ond rydym yn wahanol iawn i'r Celtiaid oedd yn byw yma yn Oes yr Haearn. Bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma cyn ac ar Ă´l Oes Crist. Rydym yn mynd yn Ă´l amser maith, maith - tua dwy fil o flynyddoedd yn Ă´l.

Mae ein blynyddoedd wedi'u rhifo drwy ddechrau yn y flwyddyn y ganwyd Crist - bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma 750 o flynyddoedd cyn hynny. Daeth Oes yr Haearn i ben yn 43 OC (43 o flynyddoedd wedi geni Crist) pan ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain.

Oes yr Haearn

Rydym yn galw'r oes yma yn 'Oes yr Haearn' oherwydd bod y Celtiaid wedi darganfod ac yn defnyddio metel newydd, sef haearn.

Rydym wedi dysgu llawer am y Celtiaid drwy ddarganfod pethau wedi'u gwneud o haearn a defnyddiau eraill sydd wedi goroesi.

Bu'r Celtiaid yn byw ar draws y rhan fwyaf o Ewrop yn ystod Oes yr Haearn. Heddiw mae'r Celtiaid yn byw yn y gwledydd rydyn ni'n eu hadnabod fel:

  • Cymru
  • Iwerddon
  • Yr Alban
  • Ynys Manaw
  • Cernyw
  • Llydaw

Mae diwylliant y Celtiaid yn parhau heddiw trwy'r defnydd o iaith, cerddoriaeth, cân a llenyddiaeth.

Llinell amser i ddangos cyfnod y Celtiaid

Fideo – Y Celtiaid

Tystiolaeth am fywyd y Celtiaid

Cofnodi digwyddiadau

Nid oedd y Celtiaid cynnar wedi gadael llyfrau ar eu hôl gan nad oedden nhw'n gallu darllen nac ysgrifennu - siarad a chofio oedd ffordd y Celtiaid o gofnodi digwyddiadau.Ond yn ffodus i ni, fe ysgrifennodd y Groegwyr a'r Rhufeiniaid am Geltiaid Oes yr Haearn. Mae’r gweithiau hyn yn dweud wrthym ni bod Celtiaid Oes yr Haearn yn arfer byw mewn grŵp oedd yn cael ei alw'n llwyth, a'u bod yn gwisgo aur. Roedd y Celtiaid yn hoffi ymladd ac yfed gwin.

Corff yn y mawn

Weithiau mae'r cliwiau yn cael eu darganfod drwy ddamwain. Tra oedd cloddiwr yn symud pridd mewn mawnog (bog) yn Sir Gaer, gwelodd gorff dyn wedi'i gladdu'n ddwfn yn y mawn. Cafodd y gweithiwr dipyn sioc a galwodd yr heddlu - roedden nhw'n credu bod y dyn wedi ei lofruddio.Roedd y dyn wedi cael ei daro ar ei ben, ei dagu ac roedd ei wddw wedi torri. Dychmyga syndod yr archeolegwyr pan wnaethant ddarganfod mai Celt o Oes yr Haearn oedd y dyn, a'i fod wedi cael ei ladd 2,000 o flynyddoedd yn Ă´l!

Dim ond hanner uchaf y corff oedd ar Ă´l. Darganfyddodd yr archeolegwyr fwyd yn dal yn ei stumog ar Ă´l 2,000 o flynyddoedd. Ei bryd olaf oedd bara. Dyma gliw hynod iawn o fyd y Celtiaid, wedi'i biclo yn y mawn a'r mwd.

Roedd dyn y mawn yn noeth pan ddaeth y cloddiwr o hyd i'w gorff. Yn anffodus, nid oes tystiolaeth fel dillad, esgidiau a photiau yn cael eu darganfod yn aml gan eu bod yn pydru yn y ddaear. Ond nid yw pethau o garreg a metel yn pydru, a dyma rai o'r cliwiau sy'n dweud wrthym am y Celtiaid.

Cartrefi

Bryngaerau

Byddai pobl Oes yr Haearn wedi dewis lle i fyw am resymau gwahanol. Roedd y pennaeth a'i deulu, milwyr a chrefftwyr, yn byw mewn bryngaer gan ei fod yn hawdd i'w amddiffyn. Mae olion dros 1,000 o fryngaerau yng Nghymru. Roedd llethrau serth, wal uchel a ffos ddofn yn helpu i gadw'r Celtiaid yn ddiogel yn eu cartrefi.

Graffeg yn dangos enghraifft o fryngaer

Roedd y ffermwyr yn byw ar y tir yr oedden nhw'n ei ffermio. Roedd y Celtiaid yn adeiladu ffermydd yn agos i ddŵr, tir ffrwythlon a thir pori da ar gyfer yr anifeiliad. Roedd y Celtiaid yn tyfu ŷd ac yn cadw gwartheg, moch, ceffylau, geifr a defaid.

TĹ· crwn

TĹ· crwn adeg y Celtiaid
Image caption,
TĹ· crwn

Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn byw mewn tai - ond rhai gwahanol iawn i'r tai rydym ni'n byw ynddyn nhw heddiw.

Roedd teuluoedd mawr yn byw mewn tĹ· crwn. Roedd y waliau wedi'u gwneud o dwb, sef gwellt, mwd a thail. Roedd y to wedi ei wneud o wellt.

Byddai'r Celtiaid yn defnyddio tân yng nghanol y tŷ crwn er mwyn coginio a chynhesu'r tŷ.

Yn y tŷ crwn, byddai pentan haearn wedi'i osod bob ochr i'r lle tân. Efallai mai addurno yn unig oedd ei bwrpas, neu efallai i ddangos statws y cartref.

TĹ· crwn adeg y Celtiaid
Image caption,
TĹ· crwn
Pentan haearn - mae pen a gwddw anifail bob ochr i'r pentan
Image caption,
Roedd y gof a wnaeth y pentan haearn yma yn fedrus iawn yn siapio ac yn gweithio â haearn. Bob ochr i'r pentan mae pen a gwddw anifail - byddai wedi cymryd amser, ymdrech a sgil i'w wneud.

Crefftau y Celtiaid

Mae'r enw Oes yr Haearn yn dod o ddarganfyddiad y Celtiaid o haearn. Mae archeolegwyr wedi darganfod cliwiau sy'n dangos pa mor fedrus oedd Celtiaid Oes yr Haearn wrth wneud pethau o fetel.

Yng Nghymru, mae'r darnau haearn cynharaf yn dod o Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf, casgliad sy'n dyddio'n Ă´l i tua 750 CC. Mae'r casgliad yn cynnwys cryman, cleddyf a gwaywffon.

Gemwaith

Mae archeolegwyr wedi darganfod llawer o emwaith wrth gloddio am gliwiau am y Celtiaid. Defnyddiai'r Celtiaid fetelau megis pres ac aur yn ogystal â haearn. Byddai'r penaethiaid Celtaidd yn gwisgo gemwaith ffansi er mwyn dangos pa mor bwysig oedden nhw.

Roedd y crefftwyr Celtaidd yn hoffi cynlluniau cymesuredd a phatrymau. Roedden nhw’n hoff o siâp tair coes (trisgelau) yn enwedig, fel yr un ar y plac efydd Oes yr Haearn yn y llun.

Plac efydd Oes yr Haearn
Image caption,
Fe ddaeth rhywun o hyd i'r plac yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys MĂ´n. Roedd y Celtiaid hefyd yn hoff o ddefnyddio siapiau anifeiliaid a wynebau

Arfau

Roedd eu sgil fel gweithwyr metel hefyd yn bwysig pan oedden nhw’n amddiffyn eu hunain oddi wrth eu gelynion.Roedden nhw angen arfau miniog fel gwaywffyn, yn ogystal â thariannau, fel yr un yn y llun, i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad gan y gelyn.

Darn o darian y Celtiaid
Darn o darian gyda phatrwm trisgelau
Image caption,
Darn o darian gyda phatrwm trisgelau a ddarganfuwyd yn Nhal-y-Llyn

Gwisg milwyr

Mae haneswyr Rhufeinig yn dweud bod gan filwyr Celtaidd wallt pigog gwyn. Byddai’r Celtiaid yn defnyddio calch fel yr ydym ni’n defnyddio mousse gwallt heddiw, ac weithiau bydden nhw’n clymu eu gwalltiau mewn cynffon ceffyl.

O amgylch eu gyddfau roedden nhw’n gwisgo torchau aur fel cadwyni mawr. Roedd y milwyr pwysicaf yn gwisgo helmedi wedi'u gwneud o bres er mwyn dangos pa mor bwysig oedden nhw.

Yn aml byddai llun adar, anifeiliaid neu gyrn ar yr helmedi. Roedden nhw’n cario tariannau enfawr wedi'u haddurno gydag arwyddion neu batrymau.

Gwisg a gwedd

Mae'n bosib bod rhai o ddillad Celtiaid Oes yr Haearn yn edrych fel y tartan a welir yn Yr Alban ac Iwerddon heddiw, gyda phatrwm o sgwariau a streipiau.

Defnyddiai'r Celtiaid aeron a phlanhigion i newid lliw eu gwlân. Roedd y Celtiaid yn hoffi dillad llachar ac, yn ôl y Rhufeiniaid, roedd rhai o'r Celtiaid yn paentio patrymau ar eu cyrff gyda phaent glas wedi'i wneud o blanhigyn arbennig.

Roedd dillad y Celtiaid yn dangos eu statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth:

  • byddai dynion yn gwisgo tiwnig gyda gwregys, clogyn a throwsus
  • gwisgai'r merched ffrogiau wedi'u cau gyda thlws oedd yn debyg i roetsh

Roedd aelodau pwysig o'r llwyth yn gwisgo torch wddw o aur, arian neu haearn, wedi'i haddurno â phatrymau Celtaidd.

Rhyfelwyr

Yn Ă´l y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn colli eu tymer ac yn cweryla yn aml - ond nid ydym yn gwybod os ydy hynny'n wir. Wedi'r cyfan, ni allen nhw ymladd drwy'r amser - bydden nhw wedi blino gormod i ffermio! Roedd yn rhaid i'r ffermwyr fod yn barod i ymladd pan fyddai pennaeth y llwyth yn galw arnyn nhw.

Byddai'r Celtiaid yn aml yn ymladd yn noeth - ac mae haneswyr yn credu bod merched yn ymladd hefyd. Eu prif arfau oedd gwaywffyn a chleddyfau. Weithiau byddent yn ymladd mewn cerbyd rhyfel wedi'i dynnu gyda cheffyl.

Merched Celtaidd

Boudicca yn ymladd
Image caption,
Boudicca, neu Buddug yn Gymraeg

Dywedodd y Rhufeinwr enwog Tacitus fod y merched Celtaidd yr un mor fawr a brawychus â'r dynion. Os yw hyn yn wir, nid yw'n syndod iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymladd!

Ymladdwraig enwog oedd gwraig o'r enw Boudicca, neu Buddug yn Gymraeg. Pennaeth llwyth yr Inceni oedd hi. Fe'i disgrifiwyd fel gwraig a chanddi gwallt coch trwchus i lawr at ei phengliniau.

Gwisgai diwnig liwgar, torch aur am ei gwddw a chlogyn o frethyn trwchus wedi'i chlymu gyda broetsh. Pan fyddai'n mynd i ymladd byddai'n dal gwaywffon yn ei llaw. Nid oedd yn hoffi'r Rhufeiniaid a bu'n ymladd yn eu herbyn.

Boudicca yn ymladd
Image caption,
Boudicca, neu Buddug yn Gymraeg

Crefydd a chred

Mae archeolegwyr yn credu bod Celtiaid Oes yr Haearn yn arfer addoli nifer o dduwiau a duwiesau. Roedden nhw'n addoli eu duwiau drwy aberthu pethau gwerthfawr iddyn nhw i'w cadw'n hapus.

Ond nid trysorau gwerthfawr yn unig oedd eu rhoddion i'r duwiau - roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn aberthu (lladd) anifeiliaid, a hyd yn oed pobl, i'w duwiau. Aberthodd y Celtiaid arfau i'r duwiau drwy eu taflu i'r llynnoedd, afonydd a chorsydd - credai'r Celtiaid fod y mannau yma yn arbennig i'r duwiau.

Yn Llyn Cerrig Bach, Ynys MĂ´n, mae archeolegwyr wedi darganfod dros 150 o bethau pres a haearn, gan gynnwys gwaywffyn, tariannau a chleddyfau.

Roedd y Celtiaid yn parchu'r pen dynol yn fawr. Roedd haneswyr y Rhufeiniaid yn dweud bod y Celtiaid yn torri pennau eu cyndadau, a hyd yn oed eu gelynion, gan addoli'r penglog.

Roedd crefydd y Celtiaid yn perthyn yn agos i'r byd naturiol ac roedden nhw'n addoli eu duwiau mewn mannau arbennig fel llynnoedd, afonydd, bryniau a llwyni.

Roedd y lleuad, yr haul a'r sĂŞr yn bwysig iddyn nhw - credai'r Celtiaid bod grymoedd goruwchnaturiol yn y byd naturiol.

Derwyddon

Derwyddon oedd offeiriaid y Celtiaid. Rydym yn gwybod ychydig am y derwyddon o ddarllen disgrifiadau gan haneswyr Rhufeinig.Prif ganolfan y derwyddon ym Mhrydain oedd Ynys MĂ´n. Roedd y derwyddon yn bwysig yng nghymdeithas Oes yr Haearn ac yn gyfrifol am bob math o seremonĂŻau crefyddol. Roedden nhw'n aelodau galluog a phwerus o'r llwyth ac yn cael eu parchu gan y Celtiaid eraill.

Mae archeolegwyr yn credu fod y corff yn y mawn o Sir Gaer yn aberth i'r duwiau. Ni allwn fod yn siŵr o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol ond gallwn gasglu'r cliwiau at ei gilydd a defnyddio ychydig o ddychymyg i geisio deall beth ddigwyddodd.

Cwis – Y Celtiaid

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Cymraeg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg

Cymraeg 8-11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Hanes

Find out more by working through a topic