±«Óãtv

Sian Gwynedd

Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau

Sian Gwynedd

Mae Sian yn gyfrifol am annog partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu yn ogystal ag ystod eang o ddyletswyddau. Mae’n arwain ar ddatblygu’r bartneriaeth gydag S4C, fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygiad talent cynhyrchu, amrywiaeth ar yr awyr, a rhaglenni radio ±«Óãtv Cymru i’r rhwydwaith.

Roedd Sian yn Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Iaith Gymraeg o 2012 - 2016 ac yn Olygydd ±«Óãtv Radio Cymru 2006-2012.

Mae cefndir Sian mewn newyddiaduraeth ac ymunodd â'r ±«Óãtv yn 1994 fel ymchwilydd ar newyddion Radio Cymru a chafodd ei gwneud yn Olygydd y rhaglen Newyddion yn 2003. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf bu'n gweithio yng Nghymru fel newyddiadurwr ar bapurau newydd a chylchgronau ac fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ar nifer o raglenni newyddion radio a theledu. Yn wreiddiol o’r Bala cafodd ei haddysg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala a Choleg Newnham, Caergrawnt, lle bu’n astudio Hanes ac Astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: