±«Óãtv

Delyth Isaac

Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes

Rhuanedd Richards

Fel Pennaeth Newyddion, mae Delyth yn gyfrifol am yr holl wasanaethau newyddion a materion cyfoes sy’n ymddangos ar-lein, ar ddyfeisiau symudol, ar radio ac ar deledu. Mae’n arwain tîm o newyddiadurwyr o bob cwr o Gymru ac yn San Steffan.

Dechreuodd Delyth ei gyrfa gyda phapurau newydd lleol cyn ymuno â ±«Óãtv Cymru fel ymchwilydd. Aeth ymlaen i weithio ym maes cynhyrchu newyddion ar y radio a’r teledu cyn arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni gwleidyddol gan gynnwys pob un o’r rhaglenni canlyniadau’r etholiadau ar gyfer S4C a ±«Óãtv Cymru rhwng 2001 a 2017. Yn 2014, penodwyd Delyth yn Olygydd Gwleidyddol ±«Óãtv Cymru ac yn 2018 daeth yn Olygydd ±«Óãtv Wales Today.

Rhwng 2013 a 2014, bu Delyth yn gweithio fel Uwch Reolwr Cyfathrebu ar gyfer ±«Óãtv Cymru. Buodd yn Ymddiriedolwr gyda Hijnx, cwmni theatr sy’n hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth am ddeng mlynedd. Mae yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru i’r Cyngor Prydeinig. 

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mynychodd Delyth Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Yna, bu’n astudio Gwleidyddiaeth Ffrainc ac Ewrop ym Mhrifysgol Manceinion gan dreulio blwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Rennes. Mae Delyth yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: