±«Óătv

Telerau defnyddio gwasanaethau digidol y ±«Óătv

Diweddarwyd y dudalen: 19 Medi 2022
Fersiwn 1.8

1. Helo

Dyma delerau defnyddio’r ±«Óătv. Maent yn dweud wrthych:

  • Y rheolau ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau
  • Beth allwch chi ei wneud ñ’n cynnwys (ei rannu, cysylltu ag ef ac ati)
  • Beth allwn ni ei wneud Ăą phethau rydych chi’n eu postio neu’n eu llwytho.

Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau, yn y bîn - stwff pwysig.

Rydym wedi bod mor fyr ñ phosibl, ac rydym wedi gwneud fideos ar gyfer y pethau cymhleth. Felly cofiwch eu darllen, a mewngofnodi i gael y diweddariadau gan mai'r fersiwn ddiweddaraf yw’r un perthnasol bob amser (byddwn yn cyflwyno diweddariadau fel arfer dim ond pan fyddwn yn rhyddhau gwasanaeth newydd, yn newid sut rydym yn darparu gwasanaeth, neu’n gorfod cydymffurfio ñ gofyniad cyfreithiol newydd).

NÔL I'R BRIG

 

2. Pryd mae’r telerau hyn yn berthnasol

Darllenwch y telerau hyn cyn defnyddio’n gwasanaethau. Pa bryd bynnag y byddwch yn defnyddio’n gwasanaethau, rydych yn cytuno i’r telerau hyn.

Os na fyddwch yn glynu wrth yr holl delerau hyn, gallwn atal neu derfynu eich defnydd o wasanaethau a’ch cyfrif.

Ond yn gyntaf...

NÔL I'R BRIG

 

3. At beth mae “gwasanaethau” a “cynnwys” yn cyfeirio?

Dyna iaith y cyfryngau am:

a. Gwasanaethau

Unrhyw beth digidol sy’n cael ei gynnig gan y ±«Óătv. Er enghraifft:

  • Gwefannau (fel , )
  • Apiau (fel ±«Óătv Sport, ±«Óătv News)
  • Podlediadau
  • Cynnwys sydd ar gael drwy ffrydiau RSS
  • Botwm Coch

b. Cynnwys

Unrhyw beth sydd ar gael drwy’r gwasanaethau hynny, gan gynnwys:

  • Sioeau teledu a radio
  • Testun
  • Sain
  • Fideo
  • Delweddau
  • Gemau
  • Meddalwedd
  • Stwff technegol fel metadata a chod ffynhonnell agored
  • Unrhyw beth a wneir gan bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau. Sef cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr.

NÔL I'R BRIG

 

4. Pan fydd telerau eraill yn berthnasol

a. Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan ±«Óătv Studios neu rywun arall

Pan rydych chi’n defnyddio gwasanaethau neu gynnyrch eraill, fel platfform cyfryngau cymdeithasol, bydd ganddynt delerau o ran eu defnyddio.

Mae rhai gwasanaethau yn cael eu darparu gan ±«Óătv Studios. Bydd gan rhain eu telerau eu hunain.

b. Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau lle rydym yn dweud wrthych eu bod yn berthnasol

Er enghraifft, pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth. Os bydd telerau ychwanegol, byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi.

NÔL I'R BRIG

 

5. Adnoddau a gwasanaethau sy’n addas i blant

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n addas i blant, dyma fannau cychwyn da:

Yn y pen draw, mater i chi yw penderfynu beth sy’n addas. Ond dyma ambell adnodd a allai helpu:

  • I atal plant rhag cael gafael ar gynnwys sydd Ăą label Cyfarwyddyd (Guidance), gallwch ddefnyddio .
  • I ddysgu plant am aros yn ddiogel ar-lein, rhowch gynnig ar .
  • I gael cyngor am sut i gadw eich plant yn ddiogel ar-lein, ewch i . Ar y wefan honno ceir cyngor ar sut i  ar eich dyfeisiau, consolau gemau, mynediad band eang a phlatfformau adloniant o amgylch eich cartref.

NÔL I'R BRIG

 

6. Pryd bydd angen trwydded deledu arnoch

Mae angen i chi gael trwydded deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu i wylio neu lawrlwytho rhaglenni’r ±«Óătv ar iPlayer pan rydych chi yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Gallai hyn fod ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur desg, gliniadur, ffĂŽn symudol, cyfrifiadur tabled, consol gemau, blwch digidol neu recordydd DVD/VHS.

Os ydych chi y tu allan i’r ardaloedd hyn, bydd angen i chi ganfod a oes gan eich gwlad ei chynllun trwydded deledu ei hun.

Mw o wybodaeth ynglĆ·n Ăą .

NÔL I'R BRIG

 

7. Telerau ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau a’n cynnwys

Rhai rheolau i’ch atal chi (a ni) rhag mynd i drafferthion.

Mae’r rhain yn berthnasol i’n gwasanaethau a’n cynnwys. Un eithriad yw cynnwys sydd wedi’i wneud i'w rannu (shareables), lle mae’r rheolau’n wahanol ac yn llai caeth. Mae’r rheolau am gynnwys sydd wedi’i wneud i’w rannu ar gael yma.

a. Peidiwch ag ymyrryd a’n gwasanaethau

Beth a olygwn wrth hynny? Pethau fel hyn:

  • Eu hacio
  • Ceisio cael y gorau ar ein technoleg diogelu cynnwys (meddalwedd sy’n atal pobl rhag copĂŻo ein cynnwys)
  • Cael mynediad at gynnwys o du allan i’r Deyrnas Unedig nad oes gennych hawl iddo neu helpu eraill i wneud yr un peth. Er enghraifft: defnyddio gwasanaeth VPN er mwyn gallu gwylio ±«Óătv iPlayer pan fyddwch y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • Gwrthod tynnu cynnwys, gemau neu apiau oddi ar eich dyfais pan fyddwn yn gofyn i chi wneud hynny. Gall hyn ddigwydd pan fyddwn yn tynnu gwasanaethau i ffwrdd. A gallwn wneud hynny unrhyw bryd, heb rybudd.

b. Peidiwch Ăą niweidio na thramgwyddo pobl eraill...

... tra byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau neu ein cynnwys. Mae hynny’n golygu:

  • Peidiwch Ăą gwneud drwg i'n henw da drwy ein cysylltu Ăą hiliaeth neu rywiaeth, er enghraifft
  • Peidiwch ag achosi i ni gael ein herlyn - drwy ddifenwi (niweidio enw da rhywun), er enghraifft, neu roi sylwadau ar achos llys heb ddarfod
  • Peidiwch ag aflonyddu pobl nac achosi gofid iddynt
  • Peidiwch Ăą phostio na llwytho unrhyw beth sy’n dramgwyddus neu’n anweddus
  • Os ydych chi’n anghytuno Ăą rhywun, ymosodwch ar y ddadl, nid ar y person.

c. Chwarae’n saff

Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch amgylch, yn enwedig pan rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau neu gynnwys wrth symud, a defnyddiwch eich dyfais yn ddiogel bob amser.

Peidiwch ù defnyddio ein apiau 360° neu realiti rhithwir os ydych chi:

  • Yn feichiog
  • Wedi bwyta/cymryd unrhywbeth a allai eich atal rhag cadw eich balans
  • Â (neu wedi cael) cyflwr meddygol, fel anormalrwydd golwg deulygad, anhwylderau seiciatrig, ffitiau neu broblem ñ’r galon.

Gwnewch yn siƔr eich bod mewn lle diogel, ar eich eistedd os yn bosib.

Stopiwch ar unwaith os ydych chi’n teimlo:

  • Yn sĂąl
  • Straen llygad
  • Yn benysgafn
  • Unrhyw boen/yn anghyfforddus.

Peidiwch ñ chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd ble mae’n rhaid i chi ffocysu yn syth wedyn, neu os ydych chi’n teimlo wedi eich dallu neu wedi drysu.

d. Peidiwch Ăą honni mai chi ydy'r ±«Óătv

Ac eithrio mewn partïon gwisg ffansi. Mae hynny’n cynnwys:

  • Ail-greu gwasanaeth neu gopĂŻo golwg gwasanaeth
  • Defnyddio’n brandiau, nodau masnach neu logos heb ein caniatĂąd
  • Defnyddio neu grybwyll ein cynnwys mewn datganiadau i’r wasg ac mewn deunydd marchnata arall
  • Gwneud arian o’n cynnwys neu wasanaethau. Er enghraifft, allwch chi ddim codi tĂąl ar bobl i wylio ein sioeau
  • Rhannu ein cynnwys. Ac eithrio deunydd y gellir ei rannu (shareables).

NÔL I'R BRIG

 

8. Defnyddio cynnwys y ±«Óătv

a. Pryd bydd angen caniatĂąd arnoch

I ddefnyddio unrhyw rai o’r canlynol...

  • Sioeau yn eu cyfanrwydd
  • Clipiau
  • Ffotograffau
  • Cynnwys bbc.co.uk
  • Ein logo a brandiau eraill
  • Metadata
  • Unrhyw beth sy'n cael ei dynnu o'n gwasanaethau i ddatblygu neu hyfforddi deallusrwydd artiffisial neu i wneud dadansoddiad cyfrifiadurol
  • Unrhyw beth arall sydd wedi’i ddiogelu drwy hawlfraint.


 bydd angen i chi gael caniatñd.

Dydyn ni ddim wastad yn berchen ar yr hawlfraint.

Mae ein cynnwys ni yn aml yn gynnwys sy’n berchen i bobl eraill. Er enghraifft, efallai bydd sioe deledu yn dangos delweddau, fideo a cherddoriaeth sy’n perthyn i artistiaid, actorion a cherddorion. Neu efallai mai dim ond trwydded sydd gennym i ddarlledu sioe, a’r cwmni cynhyrchu sy’n berchen arni.

Felly, bydd rhaid i chi ofyn i’r cwmni hwnnw am ganiatñd i'w defnyddio. Ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig...

b. Pan mae gennych ganiatĂąd yn barod

  • Os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol.
  • Darllenwch am .
  • Darllenwch am eithriadau eraill yn ymwneud Ăą hawlfraint yma.
  • O ran cynnwys sydd wedi’i wneud i’w rannu. Mae’r .
  • Ar gyfer  data agored.
  • I lawrlwytho  at ddefnydd personol drwy ddefnyddio ein botwm lawrlwytho. Gallwch  at ddefnydd personol. Hefyd, gallwch drosglwyddo podlediadau rhwng eich dyfeisiau. Ond peidiwch Ăą llwytho podlediad yn ĂŽl i’r rhyngrwyd o’ch dyfais. Yn hytrach, defnyddiwch y botymau rhannu i ddweud wrth eich ffrindiau amdano.
  • I lawrlwytho  drwy ddefnyddio ein botwm lawrlwytho.

c. Sut i gael caniatĂąd

Darllenwch hwn ar gyfer metadata a ffrydiau RSS.

Ar gyfer defnydd busnes, darllenwch hwn. Cofiwch: fel arfer mae angen i chi ofyn am ganiatĂąd ac efallai y bydd angen talu ffi.

Am bopeth arall, darllenwch hwn.

NÔL I'R BRIG

 

9. Deunydd y gellir ei rannu (shareables) – beth ydyn hwn

Bydd gan gynnwys y gellir ei rannu un neu fwy o'r botymau hyn wrth ei ymyl:

  • Rhannu
  • Plannu (embed)
  • Botymau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer postio ar Facebook, Twitter ac ati.

Dydyn ni ddim wastad yn berchen ar yr hawlfraint ar gyfer deunydd y gellir ei rannu. Weithiau bydd rhaid i ni gael trwydded neu ganiatĂąd gan y bobl a wnaeth y deunydd.

Felly cadwch at y rheolau hyn. Fel arall, ymysg pethau eraill, ni fydd y bobl a wnaeth y cynnwys yn awyddus i wneud rhagor o gynnwys ar ein cyfer.

Rhaid i chi gael ein caniatĂąd ar gyfer unrhyw ddefnydd busnes, ac efallai bydd rhaid i chi dalu ffi. .

Pan fyddwch yn rhannu ar blatfform cyfryngau cymdeithasol, eu telerau fydd yn berthnasol. Darllenwch eu telerau (chwiliwch amdanyn nhw ar-lein).

NÔL I'R BRIG

 

10. Deunydd y gellir ei rannu - beth allwch chi ei wneud

a. Defnyddio'r botymau rhannu

I rannu dolen i’n cynnwys ar eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol.

b. Defnyddio’n chwaraewr

Mae’n iawn defnyddio ein botwm plannu (embed) i roi ein chwaraewr ar eich gwefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol.

Ond peidiwch ñ newid y ffordd y mae’r chwaraewr yn gweithio, a pheidiwch ñ thynnu cynnwys oddi arno. Peidiwch ñ phlannu unrhyw gynnwys nad oes ganddo fotwm plannu.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i ddefnyddio iPlayer. Darllenwch amdanyn nhw yma.

c. Postio sylwadau a safbwyntiau...

... am ein deunydd y gellir ei rannu. Mae hynny’n iawn. Ac yn cael ei annog hyd yn oed. Ar yr amod nad ydynt yn bethau cas.

NÔL I'R BRIG

 

11. Deunydd y gellir ei rannu - beth na allwch chi ei wneud

a. Peidiwch ñ’u defnyddio i niweidio na thramgwyddo. A pheidiwch ñ rhoi cynnwys sydd wedi’i wneud i’w rannu sy'n cynnwys pethau niweidiol neu dramgwyddus

Dyma restr o bethau a all niweidio neu dramgwyddo:

  • Sarhau, camarwain, gwahaniaethu neu ddifenwi (gwneud drwg i enw da pobl)
  • Hyrwyddo pornograffi, tybaco neu arfau
  • Rhoi plant mewn perygl
  • Unrhyw beth anghyfreithlon, fel defnyddio iaith casineb, cymell terfysgaeth neu dorri’r gyfraith preifatrwydd
  • Unrhyw beth a fyddai’n niweidio enw da’r ±«Óătv.

b. Peidiwch Ăą gwneud iddo edrych fel petai'r cynnwys yn costio arian

Ni chewch godi tñl ar eraill am ddefnyddio ein cynnwys sydd wedi’i wneud i’w rannu. Os ydych chi’n rhoi’r deunydd ar safle sy’n codi tñl am gynnwys, rhaid i chi ddweud ei fod am-ddim-i’w-wylio.

c. Peidiwch ñ’i wneud yn fwy amlwg na chynnwys nad yw’n gynnwys y ±«Óătv

Fel arall, gall edrych fel petaem yn eich cymeradwyo chi. Ac ni chawn wneud hynny.

Hefyd, defnyddiwch ddeunydd y gellir ei rannu ochr yn ochr ñ deunydd arall. Allwch chi eich hun ddim gwneud gwasanaeth sy’n cynnwys ein deunydd ni yn unig.

A chofiwch...

d. Peidiwch Ăą gorliwio eich perthynas Ăą'r ±«Óătv

Allwch chi ddim dweud ein bod yn eich cymeradwyo, eich hyrwyddo, eich cyflenwi neu’n cydsynio ñ chi.

Peidiwch Ăą defnyddio deunydd y gellir ei rannu at ddibenion gwleidyddol.

Ac ni allwch chi ddweud bod gennych fynediad ecsgliwsif i’n cynnwys.

e. Peidiwch ñ’u cysylltu ñ hysbysebu neu nawdd

Mae hynny’n golygu na allwch wneud y canlynol:

  • Rhoi unrhyw gynnwys arall rhwng y ddolen i'r deunydd y gellir ei rannu a’r deunydd y gellir ei rannu ei hun. Felly dim hysbysebion na fideos byr y mae pobl yn gorfod eu gwylio
  • Rhoi hysbysebion wrth y deunydd y gellir ei rannu neu drosto
  • Rhoi unrhyw hysbysebion mewn tudalen we neu ap sy’n cynnwys deunydd y gellir ei rannu yn bennaf
  • Rhoi hysbysebion sy’n gysylltiedig ñ’i destun wrth ochr y deunydd y gellir ei rannu. Felly, dim hysbyseb am sgidiau rhedeg gyda deunydd i'w rannu am esgidiau
  • Ychwanegu cynnwys ychwanegol sy’n golygu y byddech yn ennill arian ohono.

f. Peidiwch Ăą bod yn gamarweiniol o ran o ble mae'r deunydd wedi dod

Allwch chi ddim tynnu na newid yr hysbysiad hawlfraint, nac awgrymu bod rhywun arall wedi’i wneud.

NÔL I'R BRIG

 

12. Deunydd y gellir ei rannu - beth sy’n rhaid i chi ei wneud

  • Defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf a pheidio Ăą chael gwared ag unrhyw dagio na thracio, os yw hynny ar gael gennym.
  • Gwneud yn siĆ”r ei fod yn cael ei arddangos yn gywir.
  • Ychwanegu cydnabyddiaeth (os nad yw eisoes yn cynnwys hynny)

Mae cydnabyddiaethau wedi’u cynnwys yn y rhan fwyaf. Os na, rhowch y rhain mewn man amlwg gerllaw i ddangos o ble y cawsoch y deunydd y gellir ei rannu:

  • Ffynhonnell – 
  •  â€“ © hawlfraint [nodi’r flwyddyn] y ±«Óătv

Os oes modd, ychwanegwch hyperddolen i leoliad gwreiddiol y deunydd y gellir ei rannu. Gwnewch yn siĆ”r ei bod yn gweithio a pheidiwch Ăą rhoi unrhyw beth rhwng y gydnabyddiaeth a’r ddolen.

NÔL I'R BRIG

 

13. Deunydd y gellir ei rannu - un peth i’w ddweud

Ar wahĂąn i beth rydym yn gyfrifol amdano pan fydd anffawd, nid ydym yn atebol am unrhyw beth sy’n digwydd i chi os byddwch yn defnyddio deunydd y gellir ei rannu.

NÔL I'R BRIG

 

14. Meddalwedd ffynhonnell agored

Mae rhai meddalwedd ffynhonnell agored ar gael i’w lawrlwytho.

Cewch wybod mwy am ein .

Pan gewch fynediad, byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi pa delerau sy’n berthnasol.

NÔL I'R BRIG

 

15. Metadata a ffrydiau RSS

a. Ar gyfer pobl

Nid oes gennych hawl i dynnu metadata o’n cynnwys neu’n ffrydiau RSS.

Gallwch ychwanegu ffrwd RSS ±«Óătv News i’ch gwefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol, os:

  • Nad ydych chi’n newid y ffrwd RSS neu’n cael gwared ñ’n brandio neu logos
  • Ydych chi’n rhoi cydnabyddiaeth i ni drwy ddweud ei fod o ±«Óătv News, bbc.co.uk/news neu bbc.com/news, drwy roi’r testun a’r hyperddolen mewn lleoliad amlwg gerllaw
  • Nad ydych chi’n ychwanegu ein brandio, logos ayyb, heblaw am frandio sydd wedi ei blannu o fewn y ffrwd RSS yn barod.

Darllenwch sut i sefydlu ffrwd RSS ±«Óătv News fan hyn.

b. Ar gyfer busnes

Bydd angen trwydded arnoch chi i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a’r dolenni iddyn nhw).

Gwneud cais am drwydded metadata.

Os ydych chi am ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddefnydd busnes, bydd rhaid i chi gael ein caniatĂąd, ac efallai y bydd ffi i’w dalu.

NÔL I'R BRIG

 

16. Creadigaethau - beth ydyn nhw

Mae'r rhan hon yn sĂŽn am achlysuron pan fyddwch yn creu eich cynnwys eich hun drwy:

  • Llwytho cynnwys sy’n eiddo i chi i un o’n gwasanaethau - fel llwytho cynnwys i fforymau a byrddau sylwadau
  • Llwytho eich clip neu lun o stori newyddion sy’n torri i ±«Óătv News
  • Defnyddio gwasanaeth i wneud rhywbeth ac yna ei lwytho i’r ±«Óătv.

“Creadigaethau” yw’r gair a ddefnyddiwn am y pethau hyn.

Nid yw pethau rydych chi'n eu cyflwyno mewn cystadlaethau (fel lluniau) yn cyfrif fel creadigaethau ar gyfer y termau hyn. Mae gan gystadlaethau eu telerau eu hunain.

NÔL I'R BRIG

 

17. Creadigaethau - y telerau

a. Efallai y bydd y greadigaeth yn destun ymyrryd

Mae gan rai gwasanaethau offer sy’n galluogi pobl eraill i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu neu olygu eich creadigaeth, neu wneud rhywbeth wedi’i ysbrydoli ganddi.

b. Fyddwn ni ddim yn eich talu amdano

Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn rhannu eich creadigaeth Ăą ni, ond yn anffodus, fyddwn ni ddim yn eich talu.

c. Efallai fod telerau eraill

Weithiau, mae llwytho creadigaeth i’n gwasanaethau yn golygu defnyddio offer a ddarperir gan rywun heblaw’r ±«Óătv. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio WhatsApp i rannu eich straeon a’ch adroddiadau llygad-dyst gyda ±«Óătv News.

Weithiau bydd telerau ac amodau’r darparwr yn berthnasol i ddefnyddio’i offer. Darllenwch eu telerau nhw (y gallwch chwilio amdanynt ar-lein) gan y byddant yn dweud wrthych beth y gall y darparwr ei wneud ñ’ch creadigaeth pan fyddwch yn defnyddio’i offer.

d. Gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn ni (na'r darparwr a ddefnyddiwn er mwyn i chi lwytho eich creadigaeth) yn rhannu’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu i ni heb roi gwybod i chi yn gyntaf. Darllenwch ragor am sut rydym yn defnyddio eich data personol yn ein yn ein polisi preifatrwydd.

e. Gobeithiwn ddefnyddio eich creadigaeth

Ond allwn ni ddim addo hynny.

f. Eich enw

Fel arfer, rydym yn dangos eich enw wrth ochr eich creadigaeth. Byddwn yn ceisio’i ddileu os gofynnwch i ni wneud hynny, ond nid yw hynny’n bosibl bob amser.

g. Hawliau moesol

Pan fyddwch chi’n llwytho creadigaeth, rydych yn ildio eich hawliau moesol iddo. Mae hynny’n golygu y gallwn:

  • Ddefnyddio eich creadigaeth heb ddweud mai chi yw’r sawl a’i creodd
  • Golygu neu newid eich creadigaeth ac ni fyddwch yn gallu dweud ein bod wedi ei thrin mewn ffordd “fychanol”.

.

h. Efallai y byddwn yn cysylltu Ăą chi

I weld a oes gennych ganiatĂąd i ddefnyddio unrhyw gerddoriaeth, delweddau, clipiau neu destun yn eich creadigaeth. Neu at ddibenion gweinyddol yn unig.

Darllenwch fwy am sut a phryd y gallem gysylltu Ăą chi yn ein polisi preifatrwydd a chwcis.

NÔL I'R BRIG

 

18. Creadigaethau - beth allwch chi ei wneud Ăą nhw

a. Pan mai chi sy’n berchen ar yr hawlfraint

Chi biau'r hawlfraint os yw eich creadigaeth yn gwbl newydd a gwreiddiol. Mae hynny fel arfer yn golygu nad yw’n cynnwys unrhyw beth gan rywun arall, fel fideos a cherddoriaeth.

Os felly, gallwch wneud fel y mynnoch ñ’r greadigaeth.

.

Darllenwch fwy am hawlfraint yn gyffredinol yma.

Gallwch rannu eich creadigaethau ñ rhai o’n gwasanaethau, fel byrddau negeseuon, fforymau, byrddau pin, ac yn yr adran sylwadau ar waelod rhai straeon newyddion.

b. Pan fyddwch yn berchen ar yr hawlfraint

Os oes cynnwys - fel delweddau, seiniau, cerddoriaeth neu fideo - yn eich creadigaeth sydd wedi’u gwneud gan rywun arall, efallai fod hawlfraint y cynnwys hynny yn eiddo iddynt hwy.

Mae hynny fel arfer yn golygu y bydd angen i chi gael eu caniatĂąd nhw i wneud unrhyw beth Ăą'ch creadigaeth. Mae hynny’n cynnwys postio, cyflwyno neu ei lwytho i’r ±«Óătv.

Darllenwch fwy am hawlfraint yn gyffredinol yma.

Unwaith y byddwch wedi cael caniatñd, gallwch rannu eich creadigaeth ñ’r cyhoedd. Ar eich gwefan, er enghraifft, neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

NÔL I'R BRIG

 

19. Creadigaethau - beth all y ±«Óătv ei wneud Ăą nhw

Pan fyddwch yn rhannu eich creadigaeth Ăą ni, byddwn yn ceisio dweud wrthych yn union beth rydym am ei wneud Ăą hi. Ond nid yw hynny wastad yn bosibl. Felly, dyma beth allai ddigwydd...

Pan fyddwch yn postio, llwytho neu’n cyfrannu creadigaeth, gallwn:

a. Ei defnyddio, ei lletya neu ei storio ar gynnwys a gwasanaethau’r ±«Óătv

Felly efallai y gwelwch chi eich creadigaeth ar y teledu, ar wefan y ±«Óătv, y cyfryngau cymdeithasol neu ar wefannau eraill sydd wedi cael ein caniatĂąd i ddangos rhywfaint o’n cynnwys.

b. Ei chopĂŻo, ei newid neu ei chyfieithu, neu wneud pethau wedi eu hysbrydoli ganddi

Dim ond lle bo angen y byddwn yn golygu eich cynnwys sy'n gysylltiedig Ăą newyddion. 

c. Ei defnyddio gyda’n hoffer ar gyfer gwneud creadigaethau neu ailgymysgu cynnwys

Mae rhai o'n gwasanaethau yn cynnwys offer ar gyfer chwarae o gwmpas gyda’n cynnwys, ysgrifennu eich cod eich hun, a gwneud pethau fel gemau a delweddau.

Gallai'r rhain:

  • Arddangos eich creadigaethau i ysbrydoli pobl eraill.
  • Gwahodd eraill i ddefnyddio eich creadigaeth i wneud eu creadigaethau eu hunain.

d. Ei rhannu i gynnal ymchwil

Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau ymchwil ac weithiau yn cyd-weithio Ăą phartneriaid ymchwil. Bob hyn a hyn, rydyn ni’n rhannu ein cynnwys a’n data gyda nhw. Ond rydyn ni’n ofalus ynglĆ·n ñ’r hyn rydyn ni’n ei rannu a beth all ein partneriaid ymchwil ei wneud ag ef.

e. Cymedroli’r cynnwys

Sy’n golygu y gallwn adolygu, golygu, dileu neu beidio ñ’i dangos. Ac, os yw’n torri unrhyw gyfreithiau, gallwn ei chyfeirio at yr heddlu ac awdurdodau eraill.

f. A gallwn ei defnyddio

A gallwn ei defnyddio:

  • Unrhyw le yn y byd
  • Mewn unrhyw gyfrwng (e.e. y teledu, y rhyngrwyd, radio, cyfryngau cymdeithasol ac apiau)
  • Am unrhyw gyfnod - hyd yn oed os byddwch chi’n stopio defnyddio’n gwasanaethau.

A gall unrhyw un rydyn ni’n gweithio Ăą nhw wneud y pethau hynny hefyd.

Er enghraifft, os byddwch yn anfon delwedd at ±«Óătv News, gallem rannu eitem newyddion sy’n cynnwys y ddelwedd Ăą darlledwr o dramor, a fyddai wedyn yn gallu gwneud yr holl bethau uchod.

Gallent hefyd godi tñl ar eu defnyddwyr i’w gweld.

NÔL I'R BRIG

 

20. Creadigaethau - beth na allwch ei anfon atom

Peidiwch ag anfon unrhyw beth atom:

a)  A wnaethpwyd gan rywun arall, neu sy’n copĂŻo creadigaeth rhywun arall

b)  Nad yw yn Saesneg (oni bai ein bod ni wedi gofyn i chi roi sylwadau mewn iaith arall)

c)  Sy’n anghyfreithlon neu’n ddifrĂŻol (niweidio enw da rhywun)

d)  Sy’n amhriodol (tramgwyddus, ddim yn berthnasol i’r testun, yn tarfu, lledaenu gwybodaeth ffug)

e)  Sy’n cynnwys manylion personol

f)  Sy’n cynnwys sbam (oni bai eich bod yn rhoi sylwadau ar stori am y cig tun)

g) Sy’n torri ein rheolau ar etholiadau neu refferenda

h) Sy’n rhoi plant mewn perygl

i)  Sy’n tarfu ar hawliau unrhyw un (mae hynny’n cynnwys hawliau preifatrwydd)

j)  Rydych wedi’i wneud fel rhan o’ch swydd neu ar gyfer eich busnes

k)  Sy’n hyrwyddo busnes

l)  Sy’n enwi rhywun (oni bai eich bod wedi cael ei ganiatĂąd neu, os yw o dan 16 oed, caniatĂąd ei riant neu warchodwr)

m) Sy’n amharchu rheolau neu orchmynion llys (dirmyg llys)

n)  Sy'n cynnwys dolenni i gynnwys na ellir eu gweld yn hawdd neu a allai fod yn beryglus (firysau, mwydyn, ysbĂŻwedd a Trojans) neu sy'n agor nifer o ffenestri yn awtomatig

o)  Nad yw’n cydymffurfio Ăą'r telerau hyn

NÔL I'R BRIG

 

21. Eich cyfrif ±«Óătv

a. Cofrestru am gyfrif

Bydd angen cyfrif arnoch i ddefnyddio rhai o’n gwasanaethau, fel ±«Óătv iPlayer, hysbysiadau ac argymhellion personol.

b. Cael eich cyfrif ±«Óătv

Cael eich cyfrif ±«Óătv .

I gadw eich cyfrif yn ddiogel:

  • Peidiwch Ăą rhoi eich enw defnyddiwr na chyfrinair i unrhyw un
  • Peidiwch Ăą rhoi gwybodaeth ffug i ni
  • Peidiwch Ăą cheisio mewngofnodi fel rhywun arall
  • Peidiwch Ăą cheisio osgoi ein mesurau diogelwch
  • Peidiwch Ăą chreu mwy nag un cyfrif
  • Peidiwch Ăą chreu cyfrif ar ran rhywun arall, heblaw ar ran eich plentyn.

A chofiwch ddiweddaru eich manylion.

c. Beth rydyn ni'n ei wneud ñ’ch gwybodaeth

Mae'r data yr rydych yn ei anfon atom pan fyddwch yn cofrestru, pan fyddwch yn llenwi ffurflenni gwe neu pan fyddwch yn defnyddio’n gwasanaethau yn ein helpu i:

  • Darparu gwasanaethau, argymhellion, hysbysiadau a nodweddion eraill i chi
  • Gwella ein gwasanaethau cyfredol a darparu rhai newydd.

Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio eich data personol yn ein polisi preifatrwydd a chwcis.

d. Newid gosodiadau a dileu eich cyfrif

Cewch wybod sut i addasu eich cyfrif neu ei ddileu yma.

e. Newid gosodiadau ar eich dyfais

Gall hyn atal rhai o’n gwasanaethau rhag gweithio’n iawn.

Cewch ragor o wybodaeth am newid eich gosodiadau yma.

NÔL I'R BRIG

 

22. Os bydd anffawd

Rydym yn ofalus iawn i geisio sicrhau bod ein cynnwys a’n gwasanaethau gystal ag y gallant fod. Felly, os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, dim ond yn yr amgylchiadau isod y byddwn yn gyfrifol:

a. Os bydd ein gwasanaethau neu gynnwys yn niweidio eich dyfais neu unrhyw beth arno. Os digwydd hyn, efallai y byddwch yn gallu gofyn am iawndal o dan y ddeddf diogelu defnyddwyr.

Ond does dim sicrwydd y ceir iawndal. Cofiwch gael cyngor cyfreithiol.

b. Ar gyfer rhai digwyddiadau annhebygol. Os bydd ein hesgeulustod ni yn achosi marwolaeth neu anaf, er enghraifft.

c. Os ydych chi’n “ddefnyddiwr” unigol ac y byddai’n annheg i ni beidio ñ chael ein dal yn gyfrifol.

Fel arall, nid ydym yn atebol am unrhyw beth sy’n digwydd:

  • Os byddwch yn dibynnu ar gyngor, data, sylwebaeth, safbwyntiau neu unrhyw gynnwys arall
  • Os oes camgymeriadau, hepgoriadau, ymyriadau, oedi,bygiau neu firysau
  • Os byddwn yn diffodd neu’n symud cynnwys, gwasanaethau, dolenni allanol neu greadigaethau (fel arfer dim ond wrth gymedroli, a hynny am resymau cyfreithiol, y byddem yn gwneud hyn, neu os ydym yn gwella gwasanaeth)
  • Os yw’r hyn sy’n digwydd yn rhywbeth nad oedd yn rhesymol ei ragweld
  • Os na fyddai’r peth sy’n digwydd fel arfer yn deillio o’r anffawd
  • Os nad oeddech chithau a ninnau wedi cytuno y byddai'r peth hwn yn debygol o ddigwydd pe bai anffawd.

Mae hyn yn berthnasol i safleoedd y byddwn yn cysylltu ñ nhw yn ogystal ñ’n cynnwys a’n gwasanaethau ni.

A chofiwch...

NÔL I'R BRIG

 

23. Dolenni allanol

Rydym weithiau yn cysylltu Ăą safleoedd heblaw rhai’r ±«Óătv. Ac rydym weithiau yn rhoi ein gwasanaethau arnynt - er enghraifft pan fyddwch chi’n cysylltu Ăą ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhai pethau i'w cofio:

a. Dydyn ni ddim yn cymeradwyo’r safleoedd rydym yn cysylltu ñ nhw.

b. Nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys nac yn atebol am unrhyw beth sy’n digwydd i chi os byddwch yn eu defnyddio.

c. Os byddwch chi neu unrhyw un arall yn rhannu rhywbeth sy’n cynnwys dolen, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw beth ar y safle y mae’n cysylltu ag ef.

d. Fel arfer, mae gan safleoedd allanol eu telerau defnyddio’u hunain.

NÔL I'R BRIG

 

24. ±«Óătv iPlayer

a. Rheolau ar gyfer defnydd personol

  • Dim ond am gyfnod penodol o amser y mae rhaglenni iPlayer ar gael, ac wedi’r cyfnod hwnnw maent yn cael eu dileu’n awtomatig. Peidiwch Ăą cheisio defnyddio triciau technegol i osgoi hyn. Darllenwch fwy am ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ iPlayer yma.
  • Peidiwch Ăą ffrydio na lawrlwytho sioeau teledu iPlayer pan fyddwch y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ond, fel arfer, mae’n iawn gwneud hynny gyda rhaglenni radio. Darllenwch fwy am ddefnyddio iPlayer y tu allan i’r Deyrnas Unedig yma.
  • Peidiwch Ăą defnyddio iPlayer i wneud arian. Mae hynny’n golygu dim hysbysebu na nawdd, a dim codi tĂąl ar bobl i’w wylio.
  • Mae angen Trwydded Deledu arnoch chi i lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r ±«Óătv ar iPlayer. Mwy o wybodaeth: 

b. Y rheolau ar gyfer busnes

Gallwch gynnig mynediad i iPlayer yn eich adeiladau ar gyfer gwylio neu lawrlwytho rhaglenni’r ±«Óătv. Ond:

  • Bydd angen trwydded deledu arnoch. I gael gwybod mwy am hynny, ewch i .
  • Mae defnyddio iPlayer i chwarae sioe gyfan neu glip i gynulleidfa’n fater gwahanol. Cewch wybod rhagor am chwarae iPlayer i gynulleidfa yma.
  • Chewch chi ddim codi tĂąl ar bobl i ddefnyddio iPlayer.

NÔL I'R BRIG

 

25. Ac I gloi

I’ch atgoffa, rhai pethau cyfreithiol ychwanegol a dyna ni:

a. Os byddwch yn defnyddio gwasanaeth ar ran busnes, mae’r busnes hwnnw yn cytuno i'r telerau hyn. Felly, mae'n rhaid i’ch busnes gadw at y telerau hyn os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth


  • yn sylweddol i wneud eich gwaith - fel gweithiwr, contractwr neu ymgynghorydd
  • at ddibenion masnachol - i wneud elw neu
  • at ddibenion addysgol, dielw, elusennol neu gan y llywodraeth.

b. Fel y gwnaethom ddweud yn gynharach, darllenwch y telerau hyn cyn defnyddio’n gwasanaethau. Pan fyddwch yn defnyddio’n gwasanaethau a’n cynnwys, rydych yn cytuno i’r:

  • Telerau defnyddio hyn
  • Unrhyw delerau eraill rydym wedi rhoi gwybod i chi amdanynt.

Ac mae'r pethau hynny’n disodli’r holl gytundebau blaenorol rhyngoch chi a ni o ran defnyddio’n gwasanaethau a’n cynnwys.

c. Mae hwn yn gontract rhyngoch chi a ni. Nid oes gan unrhyw un arall unrhyw hawliau i orfodi ei delerau.

d. Mae’r telerau hyn yn rhwym wrth gyfraith Lloegr, a dim ond llysoedd Lloegr all wneud dyfarniadau yn eu cylch.

e. Darperir ein gwasanaethau a’n cynnwys i chi gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Broadcasting House, Portland Place, Llundain W1A 1AA.

NÔL I'R BRIG

Change language: