±«Óătv

Alla i ailddefnyddio cynnwys a gwasanaethau'r ±«Óătv ar gyfer fy musnes?

Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022

Ar gyfer unrhyw ddefnydd sy’n gysylltiedig â busnes, bydd angen i chi gael ein caniatâd ni yn y lle cyntaf, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Pryd mae’r defnydd yn “ddefnydd busnes”?

Mae'n ddefnydd busnes os ydych chi’n defnyddio unrhyw un o'n gwasanaethau:

  • Yn sylweddol i wneud eich gwaith - fel gweithiwr, contractwr neu ymgynghorydd
  • At ddibenion masnachol - i wneud elw
  • Ar gyfer defnydd addysgol, di-elw elusennol a gan y llywodraeth

Gofyn am ganiatâd i ddefnyddio cynnwys y ±«Óătv fan hyn.

Mae rheolau ychwanegol ar gyfer busnesau ynghylch...

… Defnyddio metadata

Bydd angen trwydded arnoch i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a'r dolenni iddynt). Gwneud cais am drwydded metadata

...Defnyddio ±«Óătv iPlayer

Gall pobl yn eich eiddo ddefnyddio iPlayer wylio rhaglenni’n fyw neu ar alw, neu eu lawrlwytho.

Ond bydd angen trwydded deledu arnoch. I gael gwybod mwy am hynny, ewch i 

A bydd angen caniatâd arnoch os ydych eisiau defnyddio iPlayer i chwarae rhaglen neu glip i gynulleidfa. .

Chewch chi ddim codi tâl ar bobl i ddefnyddio iPlayer.

...Defnyddio ffrydiau RSS

Bydd angen i chi gael ein caniatâd ni yn y lle cyntaf i ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddibenion busnes, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Dyma pwy i gysylltu â nhw:

Change language: