±«Óãtv

Addewid Preifatrwydd y ±«Óãtv

Diweddarwyd: 3 Rhagfyr 2018

Mae'r ±«Óãtv yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa.

Gallwn roi mwy o'r hyn rydych chi'n ei hoffi pan fyddwn ni'n eich deall chi'n well. I wneud hynny, rydyn ni’n gofyn i chi fewngofnodi i rai o’n cynnyrch a’n gwasanaethau. Rydyn ni hefyd 'yn defnyddio eich data er eich budd chi mewn dwy ffordd:

1. ±«Óãtv sy'n fwy personol i chi

Mae'n ein helpu ni i wneud y ±«Óãtv yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:

  • Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
  • Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r ydych chi’n byw
  • Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.

2. ±«Óãtv sy'n well i bawb

Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb. Wrth i fwy o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae'n helpu i ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio fel y gallwn:

  • Sicrhau ein bod ni yn gwneud rhywbeth i bawb.
  • Dysgu mwy am beth rydych chi'n ei fwynhau fel y gallwn wella ein cynnwys yn y dyfodol.

Dyna pam rydyn ni'n gofyn i chi fewngofnodi a darparu ychydig o wybodaeth.

Ond drwy gydol hyn oll, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol a phreifat yn aros yn ddiogel.

Beth mae'r addewid preifatrwydd yn ei ddweud

Mae'r addewid preifatrwydd yn cwmpasu sut rydyn ni’n trin eich data ac yn rhoi rheolaeth i chi dros yr hyn sy'n digwydd iddo. Mae’n seiliedig ar dri phrif faes...

Tryloywder

Byddwn wastad yn esbonio’n glir pa ddata rydyn ni'n ei gasglu amdanoch chi a pham ein bod ni'n gwneud hynny. Byddwn ond yn casglu’r data sydd ei angen arnom i:

  • rhoi profiad gwell i chi
  • gwella ein gwasanaethau
  • cyflawni ein cyfrifoldebau fel gwasanaeth cyhoeddus.

Cewch ragor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd yma.

Dewis

Chi sy'n dewis sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Ac fe allwch chi reoli neu ddileu eich cyfrif ±«Óãtv unrhyw bryd. Mae rhagor o wybodaeth am reoli eich cyfrif fan hyn.

Oherwydd ein bod ni'n wasanaeth cyhoeddus, byddwn ni'n eich helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglÅ·n â'ch data fel fod pawb yn cael y gorau o dechnolegau digidol a'r ±«Óãtv. Mae rhagor o wybodaeth ynglÅ·n â beth rydyn ni'n ei wneud â'ch data fan hyn.

Ymddiriedaeth

Mae eich ymddiriedaeth yn hynod bwysig i ni. Felly rydyn ni wedi ymrwymo i gadw eich data yn ddiogel. 

Rydyn ni'n addo i beidio byth â gwerthu eich manylion personol i unrhyw un ac i ddim ond defnyddio eich data yn fasnachol os ydych chi'n defnyddio un o wasanaethau masnachol y ±«Óãtv.

Mae mwy o wybodaeth am cwcis fan hyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: