±«Óãtv

Gwyl Gwydir & Wa Bala

Gai Toms yn Wa Bala

Gwyl Gwydir, Llanrwst & Wa Bala - gwyliau ola' hâf ...

Oeddech chi'n gwybod mae dim ond 114 o ddyddiau sy' na tan y Dolig? Ydi wir, mae'r hâf yn brysur diflannu o dan ein trwynau, ond mae 'na ychydig o wyliau ar ôl i'n cadw ni'n hapus am sbel fach.

Gwyl Gwydir, Llanrwst

Dyffryn Conwy yw'r lle i fod penwythnos Medi 10-11. Mae'r wyl wedi cael ei drefnu gan griw o bobl ifanc a oedd yn awyddus iawn i gael mwy o gerddoriaeth byw yn Llanrwst. Mae'r lein-yp yn wych:

Nos Wener - Clwb y Legion - 8pm
Meic Stevens
Alun Tan Lan
Tecwyn Ifan
Gildas

Dydd Sadwrn - Gardd Gwrw y New Inn - 12pm-8pm
Mr Huw
Jen Jeniro
Yucatan
Dan Amor
The Peakz
Haku Tokin4wa

Nos Sadwrn - Clwb y Lebion - 8pm
Llwybr Llaethog
Yr Ods
The Loungs
Violas

... a gwell fyth, mae lle i wersylla yno! Does dim rhaid pacio'r babell i fyny eto - a mae'n fargen am £5 y noson (y pen). Am fwy o fanylion ewch i

Gwyl Wa Bala
Smai Wa fydd y cyfarchiad yn y Bala penwythnos Medi 17-18. Mae lleoliad yr wyl ar faes parcio Cywain. Mae'r babell yn fwy, felly bydd y bar yn fwy ag yn agored tan 2am - nid bod ni'n annog gor-yfed yma'n C2 wrth gwrs!

Nos Wener
Gwibdaith Hen Fran
Elin Fflur
Daniel Lloyd
Mr Huw

Dydd Sadwrn
Sioe Stwnsh S4C
Bunji Run
Sali Mali a'i Ffrindiau
...a llu o weithgareddau eraill

Nos Sadwrn
Bryn Fôn
Gai Toms
Candela
Bandana
Crwydro
The Loaded Dice
Sofa King Dirty

Am fwy o fanylion ewch i wefan .

Mi fydd hi'n amser wedyn i olchi'r wellies, cadw'r babell am flwyddyn arall ag edrych nôl dros yr hâf....trist iawn, very sad!!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.