±«Óãtv

Cowbois a Gwyneth

Cowbois Rhos Botwnnog

Fe gyhoeddwyd ar C2 nos Fercher fod dau o gewri gwlad/gwerin Cymru yn gobeithio recordio sengl gyda'i gilydd. Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn bwriadu mynd i'r stiwdio gyda Gwyneth Glyn
i recordio fersiwn o'r hen gân werin 'Paid a Dweud'.

Yn cyd-gyflwyno gyda Bethan Elfyn ar y rhaglen olaf yng nghyfres , fe ddatgelodd y Cowbois hefyd eu bod nhw'n paratoi i recordio ail albym. Yn ôl Iwan, "mae'r rhan fwyaf o'r caneuon 'di cael eu sgwennu, a fydd yr albym yma yn fwy country."

Mi fydd y prosiect gyda Gwyneth yn siwr o gael ei gymharu â deuawdau gwlad enwog a, fel dywedodd Aled, "mae Gwyneth fatha rhyw Emmylou Harris Cymraeg ac wedyn mae Iwan fel rhyw Gram Parsons Cymraeg... mae'r llongau yn hwylio'n slo bach tuag at ganu gwlad!"

Ar gyfer yr Ystafell Werdd fe recordiodd y Cowbois dair cân acwstig, dwy sydd heb ymddangos ar CD o'r blaen, ac fe recordiodd y grŵp ddyddiadur sain arbennig. Cowbois hefyd oedd yn dewis y gerddoriaeth (digon o ganu gwlad felly!).

Mae yna gyfle i chi glywed y caneuon acwstig, i weld lluniau o'r diwrnod, ac i weld dyddiaduron fideo o Ashokan, The Heights, Frizbee, Sibrydion, a Fflur Dafydd a'r Barf yn yr Ystafell Werdd drwy (fideo Cowbois i ddod).

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.