Mae'r cod ymddygiad yma yn cynnwys ymrwymiad y ±«Óãtv i dalwyr ffi'r drwydded ar gyfer yr holl wasanaethau a gyllidir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Ymddiriedaeth yw'r prif werth sydd gan y ±«Óãtv ac ni allwn danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ±«Óãtv. Byddwn yn cynnal perthynas gonest ac agored gyda'n cynulleidfaoedd ac ni fyddwn yn eu camarwain yn fwriadol.
Pan fydd y cyhoedd yn ymgysylltu gyda ni drwy ryngweithio fe gânt eu trin â pharch, gonestrwydd a thegwch. Byddwn yn delio gyda phob cystadleuaeth ryngweithiol a phleidleisiau gyda gofal manwl a chywirdeb.
Ni chaiff pleidleisiau a chystadlaethau'r ±«Óãtv eu cynnal er mwyn gwneud elw. Yr unig amser fydd cystadlaethau'r ±«Óãtv neu bleidleisiau yn cael eu hamcanu er codi arian fydd ar gyfer un o ymgyrchoedd elusennol y ±«Óãtv.
Egwyddorion ar gyfer cystadlaethau rhyngweithiol a phleidleisiau
Mae'r egwyddorion allweddol yma yn gymwys ar gyfer pleidleisiau a chystadlaethau'r ±«Óãtv sy'n ymgorffori gwylwyr, gwrandawyr a'r gynulleidfa ar-lein. Maent yn gymwys i elfennau rhyngweithio gynhelir dros y ffôn, negeseuon testun, defnyddio'r botwm coch, drwy'r post neu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol arall.
Mae'r ±«Óãtv yn ymrwymo bod
- cystadlaethau a phleidleisiau yn cael eu cynnal mewn modd sy'n onest, agored, teg a chyfreithiol
- enillwyr cystadlaethau a phleidleisiau yn ddilys a byth wedi eu dyfeisio, wedi eu dewis o flaen llaw neu wedi eu trefnu gan y tîm cynhyrchu. Dylai pob cynnig fod â chyfle teg i ennill
- ni fyddwn byth yn gofyn i rywun ymddangos fel ymgeisydd cystadleuaeth neu enillydd
- gwobrau yn cael eu disgrifio'n gywir. Ni fyddwn yn camarwain cystadleuwyr am natur y wobr a bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau o fewn amser rhesymol
- rheolau eglur sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer unrhyw gystadleuaeth neu bleidlais.
Pa bwysau bynnag sydd i gadw'r sioe ar yr awyr, ni ddylai'r ±«Óãtv fyth gyfaddawdu ei gywirdeb golygyddol.
Os aiff rhywbeth o'i le wrth gynnal cystadleuaeth neu bleidlais ni fyddwn yn ceisio cuddio hynny neu'n rhoi canlyniad ffug.
Y Defnydd o Wasanaethau Ffôn Cyfraddau Premiwm
Mae maint yr ymateb tebygol i rai cystadlaethau neu bleidleisiau yn golygu efallai mai llinellau cyfradd premiwm yw'r mwyaf addas i ddelio gyda nifer fawr o alwadau.
Byddwn yn nodi ar yr awyr mor eglur â phosib faint mae'r galwadau yn eu costio ac yn defnyddio'r tariff isaf posib, heblaw ein bod yn fwriadol yn codi arian ar gyfer ymgyrch elusennol gan y ±«Óãtv. Byddwn yn rhoi gwybod i'r gynulleidfa pan fo llinellau cystadlaethau neu bleidleisiau yn agor a chau.
Ar gyfer yr holl gystadlaethau neu bleidleisiau cyfraddau ffôn byddwn yn cydymffurfio gyda chod ymddygiad a gyhoeddir gan y rheolydd annibynnol PhonepayPlus (adnabuwyd gynt fel ICSTIS).
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.