Main content

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru Beth ddigwyddodd i rai o 'Fechgyn Bach Pencader'?

Ysgrifennodd merch ifanc o'r enw Sarah Davies gerdd o'r enw Bechgyn Bach Pencader i glodfori ryw 25 o fechgyn lleol aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ni ddaeth pob un yn ôl. Cafodd rhai o'r enwau yn ei cherdd eu hanfarwoli eto pan gawsant eu torri ar gofeb y pentref i'r milwyr lleol a laddwyd yn y rhyfel. Gyda diolch i wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Lyfrgell Genedlaethol a gwefan West Wales Memorial Project.