Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Cerrig yn Siarad

Tu ôl pob englyn sydd wedi'i gerfio ar garreg fedd, mae 'na stori. Ifor ap Glyn sy'n dathlu'r arfer unigryw Cymreig 'ma. Interesting stories behind englynion carved on gravestones.

Un o arferion hynod y Cymry yw cerfio englynion ar gerrig beddi - mae o leiaf 25 mil ohonynt o gwmpas y byd, ac mae rhai cannoedd o bobl yn ceisio'u cofnodi cyn iddynt gael eu herydu gan y tywydd.

Yn y rhaglen hon mae Ifor ap Glyn yn mynd ar drywydd rhai o'r straeon mwyaf diddorol tu ôl i'r englynion hyn, gan siarad ag arbenigwyr fel Guto Rhys a Gwen Awbery sydd wedi bod wrthi'n eu casglu, y saer maen Hedd Bleddyn sydd wedi cerfio cannoedd ohonynt a'r Prifardd Mererid Hopwood.

Cawn ddysgu ymhlith pethau eraill, lle mae'r englyn bedd ucha'n y byd, yr un hynaf, a'r un mwyaf smala (mae lle i hiwmor hyd yn oed, ar ambell garreg fedd!)

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 27 Gorff 2022 18:00

Darllediadau

  • Sul 14 Tach 2021 18:30
  • Mer 17 Tach 2021 18:00
  • Sul 24 Gorff 2022 18:30
  • Mer 27 Gorff 2022 18:00